viernes, 29 de mayo de 2009

Galar colli ffrindiau annwyl a thriw


Wi heb flogo ers sbelan nawr ond rwyf inna wedi bod â’r felan arno i, wddost ti. Collas dri ffrind – un ar ôl y nall yn weddol ddiweddar, pob un o’ nhw o fewn wthnos a gwed y gwir - a diflannws yr awydd, yr awen a phob un rheswm arall ifi fodoli yn y byd bach hwn.

Dechreuws y cyfnod anodd, galarus ac arteithiol ‘ma gida Flavia, ffrind fi o’r Eidal, bthdi tri mish yn ôl nawr – dyma’r hanas número uno y tu ôl i bobith:

Mawrth, 3ydd o Fawrth , 2009
Odd Flavia Labia wedi pyrnu’r ticeds ‘ma inni fynd i weld y Vagina Monologues yn y theatr ‘ma yn Catford, De Llundain. Big mistake - ‘taswn i’n gwpod am beth odd e ambwyti, fyswn i ddim wedi mynd yn y lle cynta; own i’n meddwl taw Regina Monologues wetws hi, a rhyw waith o law Alan Bennett odd e’n mynd i fod - ac fi’n itha lico fe. Wi’n cofio gweld rhai o’i ymsonau ar y teli; odd un gida Thora Hird yn ymson am ryw creamcracker odd o dan y soffa os cofia i’n iawn, ac un arall gida Julie Walters - ond wi’m cofio am beth oedd hi’n ymson ambwyti fe.

Ta p’un i, odd hi’n itha difyr – rhaid gweud – er bysa rhywun fel Wnwcl Emmanuel wedi cal hartan yn gryndo ernyn nhw’n clodfori ffwrchz – sdim dowt. Dechreuws y broblam off pan nethoi shibrwd amall i one liner yng nghlust Flavia Labia yn ystod y peth - ma ddi wedi cymryd offens at be’ wetas i ac ma’r ast wedi tynnu fi off ei rhestr ffrindia ar facebook nawr. Dim ond jocan own i – silly cow!

Wetas i wrth Robert bythdi hyn ac ma fe’n cytuno bo hi’n stiwpid i feddwl y byswn i’n bihafo m’unan mwn peth fel na. Mae hefyd yn gwed bod fersiwn Gymrag ar gal ac ma’n nhw’n ei galw hi’n Shinani’n Siarad. Byrstas i mas i wythrin pan wetws e ‘ny a meddwl taw jocan odd e – ond ifi wedi gwglo’r teitl nawr ac ma fe’n gwed y gwir, sydd wedi neud ifi wyrthin hyd yn oed yn fwy – wn i’m pam; plentynnaidd odw i, shord. Geson ni bach o laff pan wetws Rob bod y shinani'n gallu rhechin ond iddo fe ariod glwad un yn siarad. Dyna pam fi'n dwlu ar Rob; er gwaetha pob sarhad fi'n towlu ato fe a phwy bynnag arall, ma'n gallu mynd un yn well. Ma fa'n dal yn ffrind ifi er gwaetha pawb a phopith, er wn i’m pam fi’n ffrind iddo fe – ma’n insulto fi trw’r ffycin amsar ac ma’ i jôcs e’n anwleidyddol gywir witha.
--------------------------------------

Yr ail ffrind ifi golli odd Xosé ond ei fai e odd hwnna a gwed y gwir – dyma’r hanas número dos:

Iau, 5ed o Fawrth, 2009
Fi gyrhaeddas nôl yn y fflat un noswith ac own i’m yn meddwl bod neb arall yno. Odd hot date gida fi nes mlan ac own i’n wilmentan yn drâr fi am gondoms ond odd dim un i gal - a’r peth yw, odd ‘da fi stash mawr o ‘nhw yn fy nrâr y tro diwethaf ifi ddishgwl. Dyma fi’n mynd i stafall Xosé wedyn i weld os odd e wedi twgyd nhw, ond pan agoras i’r drws, beth welas i, ond hwncw’n shelffo rhyw fenyw fflat out. Odd hi’n embarrasing a gwed y gwir – nid cymaint ifi ond iddo fe yn sicr, gwath odd y fenyw ‘ma ddim yn oil painting o bell ffordd. Wetas i wrth Xosé bo well iddo fe fod ar y gwaelod o’erwydd ar y top, odd ei gefan e’n etrych fel cefan babwn o Gwm Twrch – a cheras i mas yn slow ar ôl codi un o’r paceidia o gondoms odd ginto fe ar y llawr a winco arno fe cyn cau'r drws. Ath e’n grac iawn gida fi ‘ed ac wn i’m pam – dim ond bach o banter odd hwnna i fod, ond odd e ddim moyn wara’r gêm ac atab fi nôl.

---------------------------------------

Y trydydd ffrind ifi golli odd Pablo a bai fi yw hwn heb os... – dyma’r hanas número tres:

Gwener 6ed o Fawrth, 2009
Nos Wenar odd hi a Pablo’n moyn mynd mas am gwpwl o beints. Cwrddson ni lan, cal peint ac wedyn mynd o Sloane Square tshag at genol y West End – Charing Cross Road. Dyma ni wedyn yn mynd at y cashpoint ‘ma. Wi’n gwpod bod cashpoints yn slow ond fi’n casáu pobol sy’n slowach byth yn trio tynnu arian mas ac odd y boi tew ‘ma o’n blan ni yn cymeryd o leiaf pum munud yn wara rownd da’r mashin. Yn anffodus, dyma fi’n gwed wrth Pablo yn Sbaeneg bod y boi ‘ma yn rial hen ffycar yn cymeryd shwt gymid o amsar a rhaid bo fe’n ffycin stiwpid. Os felly, dyma’r boi yn troi rownd, edrych ym myw fy llecid a gofyn ai taw fi wetws hwnna. Fi wetas nag own i’n deall Sbaeneg a phwynto at Pablo; ma Pablo ond yn fach ac own i’m yn meddwl bysa fe’n ‘i fwrw fe ond dyna be’ nath y cont. Buo i yn A&E wedyn yn Ysbyty Chelsea a Westminster sbo’r bora wedyn am i’r cont ‘na dorri gên Pablo. Odd Pablo druan dal yno am bythewnos. Wi mor falch bo’r boi ‘na heb fwrw fi cofia, ond ifi yn timlo’n flin drost Pablo ac ifi’n diall pam nag odd e’n folon siarad â fi am ddou fis a rhagor, ond wi’n siŵr daw e drosto fe a dychra gweld yr ochor ddoniol i'r digwyddiad ryw ddydd.

----------------------------------------
Gwener 29eg o Fai 2009
Digwiddws yr hanesion ‘ma bthdi tri mish yn ôl a dim ond nawr ma’r tri yn dychra siarad â fi ‘to, ond wi’n cretu bydd rhaid ifi ffindo ffrindia newydd os nag ŷn nhw’n folon derbyn bach o dynnu coes yn y dyfodol. Wi’n cretu bo calon fawr gen i – wedi’r cwbwl, ifi’n folon siarad â nhw eto, er bo nhw wedi anwybyddu fi am shwt sbel.

sábado, 28 de febrero de 2009

Troeon gwaith, Geoff a 'rehab'.



Own i’n gwitho shifft nos nithwr – nos Wenar odd hi ‘ed – ond wi ddim yn mynd i gonan. A gwed y gwir, buo i’n conan shwt gymid bo fi’n gwitho shiffts cynnar, fel nag oes troed gen i sefyll arno. At hynny, ma’n well gen i witho shifft hwyr, er bod hi'n ffwcan dy nos Wenar lan wetyn – sydd wastod wedi bod yn noson barti yn fy niwylliant i.

Hannar o hyn a ‘annar o’r nall yw shiffts bora a noswith. Os bydda i’n gwitho shifft gynnar, sdim bowyd gen i yn ystod yr wthnos am bo fi’n cwnnu’n gynnar biti 3 y bora a bennu biti 5 yr hwyr. Bydda i’n gorffod mynd i’r gwely ar ôl cyrradd yn dre er mwyn cwnnu am 3 y bora - y bora wedyn. Ti gei di shiffts noswith wetyn a bydda inna’n cal cysgu digon cyn gorffod ail-ddechrau yn yr hwyr - ac witha, fi gaf i noson mas – ond y drwg yw bo fi’n colli sesiwn ifad nos Wenar pan fo pawb arall wrthi.

Buo i’n gwitho gida Geoff nithwr. Artist yw e sy’n creu darlunia fel Picasso ne wn i’m pwy – fi heb weld ei stwff, ond ma stiwdio ginto fe yn ei fflat, felly ma’n rhaid bo fe’n dda yn ei waith am bo fe’n ennill arian wrth wyrthu’r darlunia hyn, twel. Gwitho gida ni yw e am bo fe’n moyn cwrdda phobol, cymdeithasu fel, ac wrth gwrs, ma’n helpu talu’r morgais ryw dipyn.

Boi posh yw Geoff o gefndir cyfoethog – fe wetws hwnnw wrtho i pan ethon ni am beint wedi’r gwaith, ond own i’n rhyw ama hynny pan wetws e bo fe wedi bod mwn rehab am flwyddyn. Wedi’r cwbwl pwy all ffwrdo hwnna ond pobol o linach ne’ arian.

Fi geso gyfla i ofyn iddo fe pam rehab, ac ma’n depyg taw alcohol yn fwy na drygs fu ei broblam - ac a gwed y gwir, own i’n meddwl hynny am bod drygs adloniadol yn dshepach nag alcohol, ac nid tir y cyfoethog ŷn nhw o bell ffordd erbyn hyn- y drygs - ond fel y gwetws e wrtho i, ma’ cymysgu’r ddou yn rysait reit beryg a pho fwya o arian sy ‘da ti, mwya o gyfla i gal lot o’ nhw a chymysgu’r ddou.

Ma' Geoff off i Baris y penwthnos hyn ac ma’n dod nôl ddydd Sul – ‘co ti posh; wi’n gorffod safo lan i fynd i Brighton ym mish Gorffenaf am benwthnos - 'co ti mor glawd odw i. Dyw bywyd ddim yn deg ond o leiaf, fuas i ariod yn rehab am flwyddyn – amall i ddwyrnod, ond nid blwyddyn!

viernes, 30 de enero de 2009

Fi, Fabien y Ffrancwr a'r Bwytawyr Angau


Own i wedi cyffroi drwyddoi ddydd Merchar dwetha; fe ath fy ffrind Fabien a finna i gofrestru gidag un o’r casting agencies ‘ma. Man nhw’n dychra ffilmo rhanna o 'Harry Potter and the Deathly Hallows' i lawr ‘ma yn Llundain ac oen nhw’n moyn casto cwpwl o Death Eaters ar gyfar y ffilm. Yn goron ar y cwbwl, gwetws y fenyw asiant ‘ma bod lleoliad yr ysgol Hogwarts i lan yn yr Alban a bysa cyfla inni ela cwpwl o ddyddia yno mewn gwesty pum seren. Own i ar ben fy nigon a’m calon yn curo. Cymerws y fenyw asiant ffroenuchal ‘ma ein mesuriadau ni a thynnu cwpwl o luniau ohonon ni o bob un ochor, ac wetyn bu rhaid ifi a Fabien aros ryw ychydig pan odd hi’n cal sgwrs gida un o big knobs y ffilm.

Yn anffodus, trows y cyffro yn siom pan nath hi gynnig rhan i Fabien a’m gwrthod i am bod fy nhrwyn i’n rhy fawr i wara un o’r Death Eaters. Own i’n tampan ac yn rhyw ama bysa hi’n dewish Fabien ond odd mwy nag un rhan Death Eater i gal a dyw fy nhrwyn i ddim mor fawr â ‘ny. Y peth yw - odd hi'n ffansio Fabien ac yn fflyrtan gidag e byth a hefyd. Odd hi’n gwed bod tŷ haf gida ddi yn Languedoc Roussillon a rhows hi gynnig ar siarad Ffrangeg ag e hefyd wrth weud – tu es parfait pour un Death Eater. Er fy ngwaetha, fi dorras i ar ei thraws hi a gwed bod nhw’n cal eu galw’n mangeurs de mort yn Ffrangeg, ond ath hwnna dddim i lawr yn rhy dda - ac ath petha’n wath ar ôl hynny.

Own i’m yn lico’r fenyw o’r funud gynta welas i ddi, a bod yn onasd, ond fi drias i fod yn neis wrthi. Own i’n dadla’n rhesymol am gwartar awr bod gin yr actor sy’n wara Severus Snape drwyn lot fwy na m’un i, ac odd e’n un o’r prif Death Eaters yn y ffilm, a phan na withws hwnna, wetas i bod y Death Eaters bron i gyd yn gwishgo ffycin masgia a bod cwcwll drost eu penna nhw ta p’un i. Ei hatab hi i hwnna odd na fysa’r masg yn ffito drost fy nhrwyn i ac heb y masg bysa ‘nhrwyn i’n towlu cysgodion dros y lle i gyd. ‘Sneb ariod wedi siarad â fi fel ‘ny o’r blan ac ath petha o ddrwg i wath pan nath hi sefyll lan y tu ôl i’r ddesg a gweud:

Look, don’t beg! Have you seen Lord Voldemort’s nose? It looks as if someone’s slammed the door on it, but your nose looks like you’re related to a probiscus monkey. He just wouldn’t want you in his gang. If anything suitable comes up, I’ll let you know – perhaps they’ll remake Cyrano de Bergerac one day and I’ll give you a ring.

Am hen ast o ffycin fenyw anghwrtais a digywilydd. Rown i wir wedi cal hen hen ddigon o’ eni ddi erbyn ‘ny - a dyma fi’n cwnnu lan a mynd tshag ati ddi y tu ôl y ddesg a gweud bod fy nhrwyn i’n lot rhy fach i wara Cyrano de Bergerac sy’n fwy na alliff neb weud am seis ei chont hi ac iddi roi ei Death Eaters i lan ei thin. Fi droias i rownd wetyn a cherad mas o ‘na a slamo’r drws yn glatsh y tu ôl ifi.

Af i ddim i weld y ffilm ‘na nawr pan ddaw e mas neu bydda i jwst yn meddwl am y cyfla coll. Buas i’n extra un tro ar ‘C’mon Midffild’ ond dyw hwnna ddim yr un peth. Geso i’r job ‘na am bod Llion odd yn wara George yn un o’m ffrindia gora i- ond dim ond esgus watsho ffwtbol ar ryw ga pêl-droed own i’n gorffod neud ac odd y rhan fwya o drigolion Sgubor Goch â rhan extra yndo hefyd a byddi di’n lwcus i ‘ngweld i am bod y ffycars ‘na yn benderfynol o gal eu gweld ar y teli ar draul pawb arall. Dim ond £10 dalson nhw ifi ‘ed a ti’n cal £250 am Harry Potter. Ma’n wir yn y byd ffilmia ‘ma taw matar o bwy ti’n napod yw hi ombai bod y person sy’n casto yn moyn copan off ‘da ti.

Wi’n timlo’n drist ‘bo fi heb gal wara un o’r Death Eaters cofia – galsa hwnnw fod wedi bod yn gam cyntaf at fod yn un o sêr Hollywood. Mae’r siom yn dod â geiria Marlon Brando i’r cof pan oedd e’n acto miwn ryw ffilm ne’i gilydd – I could've been a contender. I could have been somebody …

Bu raid ifi aros biti awr y tu fas i’r swyddfa wedyn ‘sbo Fabien yn dod mas. Ma' fe’n gwed bo fe’n mynd at y tîm cynhyrchu ddydd Merchar nesa er mwyn cal ei wishgo ar gyfar y rhan. Ma’r ast wedi cynnig rhan iddo fe fel labrwr o wlad Pwyl ar ryw gyfres Ashes to Ashes hefyd ac ma’n cal ffilmo hwnna ddydd Llun. Wi ariod wedi clwad am y gyfres ‘na ond fi alswn i fod wedi wara labrwr Pwylaidd – walla na ddylswn i fod wedi colli fy nhymer i mor gloi gida’r hen fitsh. Er hynny, wi’n falch bod Fabien wedi cal gwaith mas o’nhw; sdim lot o Saeson yn lico’r Ffrancod, felly mae’n neis - iddo fe - bod un o’nhw’n ei ffansïo fe. Gwetas i wrtho fe ar y ffordd sha thre y dylsa fe dreial cal i miwn idd’i nicars hi a walla gela fe ran yn y ffilm Batman nesa - ac own i’n gallu gweld wrth y wên ar ei wynab ‘bo fe’n ystyried y peth. Hei lwc iddo fe – weta i.

viernes, 23 de enero de 2009

Gwaith, fy ffrind newydd a'r goleuni


Dyma fi’n dychra nôl i witho heddi ar ôl hirlwm gwila’r ‘Dolig. Bach o shit yw gwitho ‘to ond ma’ rhaid i ddyn ennill ei ginog. Odd biti 70 o bobol newydd yn dychra nôl ar y gwaith wi’n ei ‘neud ar fysus Llundain ac own i’n gorffod hyfforddi’r fenyw ma o Sri Lanka. Moni yw ei henw hi, ond yn anffodus, fe briotws hi â’r Almaenwr ‘ma - a’i sdeil e oedd Fucher, felly ei henw hi nawr yw Moni Fucher. Wir bois, wi ddim yn neud hyn lan – bysa fe’n jôc rhy rwydd i neud hwnna lan ac ifi wastod wedi ffindo bod mwy o hiwmor mewn bywyd go-iawn nag y galliff unrhyw ddigrifiwr ei greu yn ei ben.

Erbyn amsar cino, odd ei henw hi wedi mynd rownd y depo ac odd pobol yn dychra snigran pan ela hi hibo. Bai fi odd hwnna ac own i’n timlo’n reit flin bo fi wedi gweud wrth bawb, felly fi benderfynas i dreial achub y sefyllfa a chal gair yn ei chlust.

Dyma fi wrthi:

Look here now Moni – I’m Welsh and the Welsh don’t take the piss out of anybody, be they friend or foe, so i’m going to help ‘ew out on this one - change you’re fuckin’ surname fenyw!!

Odd hi ddim yn gwpod am be ffwc own i’n mynd mlan ambwyti fe ar y dechrau, felly bu rhaid ifi egluro wrthi hi wedyn bod Moni yn enw neis iawn, ond bysa rhai pobol yn ei glwad e fel moaney sy’n golygu bod rhywun wrthi’n cintach trw’r amsar. Fi wetas i bod yr enw yn iawn ar ei ben ei hunan a bysa neb yn ei gysylltu fe â rhyw hen gonan – OND - y sdeil odd y broblam a phroblam fawr i’m ffordd i o feddwl. Dyw Moni ddim yn mynd gyda Fucher – wetas i heb flewyn ar dafod. Gofnas i wrthi ddi wedyn beth odd enw’r teulu. Own i’n rhyw hannar gobitho bysa hi’n gwed Lisa a bysa Moni Lisa gida ni wedyn a dyna iti jôc gwael a thwp ond trwy lwc Siffi oedd cyfenw ei theulu.

Odd hi ddim yn lico’r cyfenw Siffi ac yn meddwl bod Fucher yn lot gwell, ond ar ôl fy nghyngor i a chyfyng gyngor ar ran y ddou o’ ni, dyma hi’n penderfynu y bysa hi’n lico cymeryd fy sdeil i - ac felly Mona Jones ma’n moyn cal ei galw yn y gwaith o hyn ymlaen. Wi’n timlo’n eitha emosynol biti hwnna a gwed y gwir. Fi dexstas i bawb yn y gwaith yn gweud taw ‘mond jocan own i biti Moni Fucher a Moni Jones yw ei henw iawn hi ac wi’n credu ‘bod ni wedi cal get away gida’r newid stori mor bellad.

Ma’ Moni ond yma ers mis yn Llundain ac ifi’n timlo bo fi wedi achub ei chroen hi rhag pob sen a sarhad. A gwed y gwir, winna’n timlo witha ‘bo fi'n foi mor ffein yn ei helpu ddi mas fel bo goleuni’r Arglwydd yn shino mas o ‘mhen ôl i.

domingo, 18 de enero de 2009

Paxo, Nigella a Betsan


Un o’m hoff raglenni teledu yw University Challenge. Wi ddim yn ei gwylio hi ar y teledu, cofia, ne’ bysa rhaid ifi dalu am y liswns. A gwed y gwir, wi’n watsho pob ffycin dim sy’n dod off y teli ar y we erbyn hyn. Mae pethach i gal fel youtube, ac fe gei di U4D, BBCiPlayer ac S4/Clit lle ti’n pwsho’r botwm iawn ac yn cal gweld pob un dim rhaglen y dwyrnod wedyn. Fi alla i aros dwyrnod heb becso os fi’n safo dros ganpunt y flwyddyn – dim probs.

Nage blog gwleidyddol yw hwn, ond pan ti’n gallu cal cant a mil o sianeli teledu o’r byd pen penbaladr - pam ddiawl bo rhaid i ddyn dalu am ddwy sianal y BBC a thitha’n gallu gweld bron popith sydd arnyn nhw y dwyrnod wedyn. Pe bai angan, ma' ddi’n bosib ifi a phawb arall watsho rhaglenni’n fyw ar y BBC gida Zatoo ar y we. Rwyf inna’n folon aros ‘sbo’r dwyrnod wedyn, ombai bod gin Nigella ryw raglen biti cwcan mlan - dim ond wedyn byswn i’n folon risgo bod y ffycars yn galw hibo.

At hynny, ‘sdim signal yn dod off gliniadur oes e, felly ŵ i ddim yn gwpod shwt y gallan nhw ddala neb ‘tasan nhw’n digwdd watsho pob un dim yn fyw. Wi’n cal llythyron off y bobol liswns o Fryste bron pob pythewnos yn gwed bod dim liswns yn y fflat a’u bod nhw yn y cyffiniau yn tsheco lan ar bobol. Dyw’r ffycars ddim yn rhoi 'stamp adressed envelope' gida’r rhybudd, felly wi’m yn mynd i dalu ffortiwn ar stamp er mwyn gweud wrthon nhw bod dim teli ‘da fi. Wi’n eu gweld nhw’n bobol ddi-gywilydd y jawl – os ti’n lico gwishgo siwmper binc, dyw hwnna ddim yn golygu bo ti’n gay ac os nag oes teledu yn dy dŷ, fflat ne’ ble bynnag, dyw hwnna ddim yn gweud bo ti’n clatsho bant wrth watsho Nigella ar y BBC yn fyw! Innocent before proved guilty – dyna’r gyfrith yn Lloegar ontefe – ac ma ‘nghydwybod i’n glir!

Ifi’n parchu’r gyfrith i ryw radda ac yr unig dro ifi dorri’r gyfraith a chal fy nal odd pan own i’n gweithredu gida bois yr iaith yn ystod ymgyrch y Sianel pan ath criw o’ ni rownd pentrefi Cwm Tawe a Chwm Gwendraeth yn rhybuddio pawb bod fan liswns y teledu y tu ôl inni ac i bawb wrthod talu y drwydded ne’ ddylsan nhw droi’u televisions nhw off gloi. Fi benderfynas i taw fy rhan i o‘r ymgyrch ddyla fod i annog plant Cefn Parc Eithin i shoto brics at y fan teledu pan ela fe hibo. Cheso i ddim cyfla i annog plant Gwaun Cae Gurwen i neud yr un peth am i’r heddlu fy nghadw i o dan glo hyd nes bo nhw’n mynd â fi o flan ynadon Abertawe. Mas law, fi bennas i lan miwn carchar cadw ar gyfar troseddwyr ifainc ym Mrynbuga yng Ngwent o bob man. Y peth sy’n agor crachan gen i cofia, yw’r ffaith na cheso i ddim un llythyr o gefnogath off y Gymdeithas pan own i yno; dim ond llythyr swyddogol ar bapur A4 yn fy niarddel i o Gymdeithas yr iaith am byth – y ffycin rebels dosbarth canol ishda ag ŷn nhw!

Ta p’un i, wi’n crwydro nawr ac yn ranto o bosib. Wi’n lico University Challenge am fod y boi ‘na sy’n ei wneud e yn treial acto fel ‘bo fe mor wybodus. Paxman yw ei enw e, ac ma’n ela fi i wyrthin. Alliff unrhyw ffycar fod yn wybodus os yw e’n cal yr atebion mlan llaw. Fi’n siŵr bo fe’n neud bach o ymchwil extra ar wicepedia cyn bod y rhaglen ar yr awyr ac yn nodi rhai ffeithiau yn y gobaith y bydd rhai cystadleuwyr yn gwed rwpath twp fel ‘bo fe gallu dod drosto yn ddeallus y jawl a bod yn sarci wrthyn nhw. Fi’n lico neud ‘ny ar fforyma trafod wrth ymatab i rywun ond ‘swn i byth yn ei 'neud e miwn pub quiz ne rwpath ffurfiol fel University Challenge, ac mae Betsan Powys yn boleit iawn yr un fath a fi - hyd yn oed wrth yr idiots mwya twp ar y Mastermind Cymru ‘na.

Dyma Paxo wrthi pwy noswith:

Jeremy Paxman (cwisfeistr): Starter for ten -who gained the title of Empress of India in 1877 by declaration of the House of Commons?
Coleg yr Iesu, Rhydychen:
Elton John
Jeremy Paxman (cwisfeistr):
ELTON JOHN!! – for godness sake, she was born in the 1950’s. I despair Jesus College. The correct answer is Victoria, Queen of England, who was a rampant hetrosexual filly who liked dressing in black, - nothing like Elton John!!

Ma’ angan gras witha – on’d o’s e?

sábado, 3 de enero de 2009

'Loads of money', ei golli a 'shadenfreude'


Loes calon yw’r wasgfa ariannol, ontefe. Ots ‘da fi am y ‘city types’ bondigrybwyll sydd wrthi’n colli popith. Ma’ rhyw deimlad o schadenfreude yn dod drosto i biti nhw. 'Ha ha' - ac eto 'ha ha' chwetyn. Ots gen i eu gweld nhw'n canu'n iach idd'u harian nhw, ac ma' rhyw ffycar yndo i yn eitha joio'r peth. Dyma odd eu cytgan nhw - loads of money a da gen i ganu nol iddyn nhw - but not any more you fuckers!
.
Er hynny, pan fo rwpath fel ‘ny yn cyrradd lawr gwlad, winna’n itha pissed off – rhaid gweud. Digwdd ifi byrnu dou stêc tshop yn Somerfield ddo’, ac er mor anodd ei chredu, fe ddath y bil i £5.75. Own i’n arfadd eu cal nhw ar y slei am £1.50 gin Avril yn yr Asparagus yn Battersea Park Road, ond oddi ar i Somerfied ddoti’r petha metal ar y pacad sy’n achosi i’r drysa sgrechin biiiiiip wrth fynd mas, ma’ Avril erbyn hyn ond yn gwyrthu tymatos, bylbs garlleg a winwns yn y dafarn. A gwed y gwir, rŷn ni’n lwcus i gal tun o ‘Princes Tuna in Light Mayonaisse’ off hi nawr ac ifi’n gwrthod yn lân a chymryd y pethach disgownt daw hi i miwn â nhw o bryd i’w gilydd. Man nhw’n tshep a sdim ffrils biti nhw, ac er bod pobol dlawd yn dueddol o fyta unrhyw shit - nace fi yn, weta i 'ny 'thot ti nawr; ma gen i bach mwy o class na ‘ny.

Wi’n cefnogi busnesau lleol i’r eithaf, cofia - ond ombai bod Avril yn dychra twgyd a gwyrthu pethach gwell nag amall i dun o ‘Spagetti Meat balls’ o Lidls – ma’n flin ‘da fi, ond nag w i'n mynd idd’i chefnogi ddi ragor. Ma’ unrhyw bygar yn gallu twgyd o Lidls – ma’r gwt 'co le ti'n talu yn rhy hir ac man nhw’n talu cynlleiad i’r staff fel nag os ffyc all o ots ‘da nhw pwy sy’n cerad mas gida eu Girabaldi biscuits ne’ beth bynnag.

Ma’ Fu Manchu yn dilyn yr un llwybr. Yn lle cal fideos teidi – ma’n fe’n gwyrthu’r ‘sgreeners’ ‘ma lle ti’n clwad pob un ffycar swnllyd yn ystod y ffilm ac ma’ hannar y ffilms yn Mandarin Chinese ta p’un i. Bysat ti’n meddwl ‘sa fe’n ddigon call i ishta ar ei ben ei hunan yn bell o’r slobs ‘na i gal ail-ffilmo’r peth yn iawn - ond ma’r credit crunch yn effeithio ar bawb ac dyw e ddim yn gallu ffwrdo’r seddi gora nawr.

Wn i ddim be ‘na i gida'r wasgfa ariannol 'ma. Walla af i nol i glau’r toilets yn Peking pan fo’r twristiaid yn frith dros y lle – dyna’r unig job sefydlog geso i ariod – gewn ni weld.

jueves, 1 de enero de 2009

Pinna bach a netwyddi mawr a'r anaf atchwipio


Bach yn broblematig odd ‘Dolig a’r Flwyddyn Newydd eleni, ac er bo fi’n dueddol o mysdyn coes amall i stori, dim ond y gwir a’r gwir yn unig yw’r hanas ‘ma. Dyma fi’n bennu lan ryw dridiau cyn y ‘Dolig yn yr Accident & Emergency yn 'Ysbyty Westminster and Chelsea' ar ôl cal pin bach yn fy mys bawd. Digwddws ifi dreial wpo drawing pin miwn i’r pren ‘ma a nath y cylch uwch ei ben e sleido lawr ac ath y pin i mewn i’r bys bawd a reit lan at yr ewin. Nath e ddychra neud dolur ar ôl biti wthnos pan drows y briw yn felyn, felly etho i at yr A&E a ‘nath y ffycars fy nghadw i miwn dros y Nadolig a thynnu hannar fy ewin i off.

Fi’n siwr ifi gal mwy o netwyddi mawr yn ‘y nghorff i na’r un ffycin jynci dros yr ŵyl, ac o bob un 'effin hunllef, dyma fi wedyn i ar ward gida wech o bobl henach na hen, a rhai lot henach na Methusalah. Odd un o’nhw’n 97 o’d ac odd e’n gofyn i’r nyrs bob un cynnig gela fe a odd e’n mynd i farw ne’ bido. Byswn i wedi gwed y gwir wrtho fe, ond odd y nyrs yn reit wlanan ac yn gwed wrtho fe i bido â bod mor dwp a bod pawb yno i wella o ran ysbryd a chorff. Er ei geiria o gysur, fe ddath yr Arglwydd ar ei ol ar yr ail ddiwrnod ifi fod yno, ac fi enillas bum punt off yr hen foi yn y gwely wrth ym ochor i a odd wedi beto fi na fysa fe’n mynd at ei ddiwadd tan fora Nadolig fan leia.
.
Wi’m yn gwpod pam nag yw pobl yn fy nghredu i; ma’ gen i drwyn am y pethach hyn. Odd e’n amlwg bo fe ar ei ffordd mas. Y tro cynta ifi ei weld e, odd e’n cysgu a’i geg ar agor fel pysgodyn mas o’r fish tank, ac own i’n meddwl bo fe wedi ei phego hi y noson honno a bod yn onasd. Gwetas i wrth y nyrs a odd yn rhoi fi ar y blydi drip ganol nos y bysa hi’n syniad da ei roi e yn y capal gorffwys cyn bo fe’n dychra smelo, ond odd hi’n gwrthod gryndo arno i.

Ta p’un i, er bo fi wedi ennill y bet, ‘netho i ddim cymryd pum punt off yr hen foi, ond fi geso i ei gerdyn teledu odd â £1.30 o gredyd arno fe ifi gal ei wpo fe yn y teli uwchben fy ngwely i. Own i’n difaru wetyn bo fi heb gymryd y pum punt gwath ath y teli off hannar ffordd trwy 'Mary Poppins' ac odd rhaid ifi wara pocer gida fe i ennill dicon o arian i weld 'The Charlotte Church Nutcracking Christmas Special' ar noswyl Nadolig. Wi’n cretu bod hi’n ffycin rip-off bod rhaid iti dalu i watsho’r teli yn yr ysbyty ac er bod ti’n cal bwyd am ddim, mae’n itha shit.

Own i’n mynd i fynd nôl at y teulu dros y Nadolig ac own i wedi addo y byswn i’n gyrru lan i ganu deuawd gida Morfudd yn nathliadau’r Plygain yn y capal ‘ma ym Mhencader ar bwys Dolgrân – ond ath hwnna i gyd lan y sbowt. Dyw bowyd ddim yn wara mas fel dylsa hi witha, ond fi geso i gyfla i fynd nôl gytra y dydd llun cyn Nos Galan.

Odd hi’n grêt gweld y teulu a phopith ond ath petha o with gytra ‘efyd – nid gida’r tilu ond gida Eddie, fy ffrind gora a’i war Sali nag ŵ i’n lico ryw lawar. Fi wetas i y byswn i’n galw draw idd’i helpu nhw i gal y gadar olwynion electronig brynson nhw mas o'r fan a dros y ffens ac i mewn i'r cartra yn Glyncorrwg Drive er mwyn idd'u mam nhw Barbara gal galifanto yndi rownd y lolfa a'r gegin. Wi wastod yn eu helpu nhw mas fel 'ny, ond own i’n byw hannar fy mywyd gytra yn eu tŷ nhw pan own i'n grwt ac man nhw fel ail deulu ifi, er bod Barbara wedi mynd bach yn dwlali erbyn hyn ac yn meddwl taw fi yw’r Pacistani sy’n byw drws nesa.

Ta pu’n i, llwyddson ni gal y gatar ‘na miwn a chal Barbara i ishta'n gyffwrdus yndi ar ol i Sali ei bwgwth hi a'r harn smwddo. Man nhw'n depyg i'r ceir bach 'na y ma’r grannies yn gyrru rownd canolfannau siopa yndyn nhw, ac yn bethach eitha handi, a gwed y gwir - ond edrych bant ‘nethon ni am eiliad yn unig, a nath y blydi fenyw wpo rhyw fotwm arni a dyma’r ffycin cadar yn baco nôl a mynd yn syth i miwn i’r peiriant golchi gan dorri’r drws a gatal i'r dŵr brwnt i gyd rytag mas drost y parth. Yn wath byth, fe gas Barbara anaf whiplash iddi hi ei hunan a bu raid inni fynd i’r ‘sbyty gida ddi. Odd y lle’n bedlam - ‘nath Sali roi’r goler a odd rownd gwddwg y ci am wddwg Barbara ac off â ni yn y fan. Wetas i wrth Sali bod y goler ‘na i fod i stopid y ci rog llio ei ben ôl ‘i hunan ond odd hi’n bendant bysa fe’n helpu’r whiplash - ond odd hi’n uffach o rwystr idd’i chal hi miwn i’r fan 'ta’r goler na arni ddi ...

Noson arall yn yr Accident and Emergency fuodd hi wedyn, ac a gwed y gwir, wi’m yn gwpod pam odd rhaid ifi fynd, ond ma’ Barbara yn trwsto Mr Patel drws nesa yn fwy na’i mab a’i merch ‘i hunan – dyw ei phen hi ddim yn iawn druan. Ar ôl biti wech awr yn yr ysbyty, dyma ni’n cal mynd o ‘na a Barbara’n gorffod gwishgo un o’r pethach na odd gida’r nyrs ‘na rownd ei gwddwg hi ar ôl i Jack Nicholson dreial ei thagu ‘ddi yn y ffilm ‘na ‘bthdi’r nytars yn yr ysbyty meddwl yn America ne’ rywla.

Dydd Calan yw hi nawr – tynnu at 6 y bora - ac wi’n sgrifennu hyn yn nhŷ Barbara, ac ma’ Eddie a finna wedi agor potal o fodca ac ma’ Sali wedi ei gwân hi diolch byth. Trwy lwc, dyw Eddie ddim yn cal ifad ne aiff e’n wylld – ma’ clefyd y siwgir arno ne’ rwpath – felly, ma fe’n cal y dŵr tonig ac wi jwst yn mynd i ifad y fodca sbo fi’n anghofio popith biti’r dyddia diwetha ‘ma.

jueves, 18 de diciembre de 2008

Y boi a gollws ei bidyn, yr orchest glatsho bant a'r plentyn siawns


Digwiddws ifi fwrw ar draws hen ffrind ysgol yn Basingstoke ddoe. Odd e’n dipyn o syrpreis idd’i weld e, ond draw fynna ma fe’n byw nawr ac yn gwitho fel pensaer. Ma’n rhaid bo fe’n rowlo mewn arian ond hei - wi ddim yn genfigennus. Un dwyrnod, pan odd e yn yr Ysgol Uwchradd, fe ddylws e ei bidyn yn ei gopish a nath Mrs Evans y nyrs ddim doti TCP ar y cwt ac ath ei bidyn e’n septig a chwmpo off. Man nhw’n gweud taw dim ond stwmpyn o goc sy gida fe nawr a bo fe’n lwcus y jawl bo fe heb golli ‘i geillia ne’ bysa fe’n siarad fel Mickey Mouse. Gwell gen i gadw fy mhidyn na chal holl aur y byd a’i berlau mân – all arian ddim prynu popith ac ifi wedi gweld pidyn rhyw 'sex change menyw i ddyn' ar y teli ac odd e ddim yn edrych yn fwy na chlitoris mawr ar ôl colli poppers drosto - ac wi’n rhyw ama taw hwnna oedd e, gwath odd e ddim gwerth yr arian os talws e amdano.

Dai Dickless odd pawb yn ei alw fe yn y cwm heblaw am ei deulu ac athrawon yr ysgol, a odd yn ei alw fe’n David Nicholas - ond â’m llaw ar fy nghalon, alla i ddim gweud a yw’r stori ‘na’n wir ne bido. Odd Dai wastod yn gwadu’r peth ond eto i gyd, odd e byth yn folon dangos ‘i bidyn inni ac fe droia fe miwn i’r Incredible Hulk tasan ni’n jwmpo arno fe a threial tynnu ei drwser fe off i gal gweld. Wedi meddwl, ‘nela fe byth ymuno yn y gêm ‘am y cyntaf i ddod’ roen ni’n cal y tu ôl i sied y gofalwr chwaith; dim hyd yn oed pan nath Llinos Lovelace ddod i’n helpu ni mas trwy dynnu ei thop a’i nicars hi off a dangos ei thits a’i ffwrch fforest inni – ac odd bron pob un crwt yn yr ysgol yn cymryd rhan y dwyrnod ‘ny, hyd yn oed Hywel Bum odd yn y seithfed nef pan wetson ni bo fe’n cal dyfarnu’r gystadleuath.

Wi ddim yn ei feio fe am ganu’n iach i’r cwm; dyw’r bobol sy’n byw yno byth yn anghofio, a bysa hanas ei bidyn yn cal ei phaso ‘mlan o genhedlath i genhedlath a hynny hyd yn oed ar ôl iddo fe fod chwe throedfedd o dan y pridd. Fysa fe ddim yn cal lot o lwc gida’r menwod chwaith; wi’n gwpod bod dynon yn cretu nag yw seis yn bwysig i fenyw ond ifi ariod wedi clwad menyw yn gweud hwnna o ddifri, a bysa stwmpyn bach yn no go area i’r fenyw fwya despret. Wrth gwrs bod rhai menwod yn gweud celwydd, ond does ond isha iti etrych ar y Dildos King Kong man nhw’n gwyrthu yn Anne Summers i wpod nad yw’r peth yn wir.

Gadewas i’r cwm am bod Lydia Gambinini wedi gweud bod hi’n cario fy mhlentyn ac own i ddim isha i’r Child Support Agency gal gafal arno i. Odd hi’n cwrso fi rownd y pentra am wthnosa cyn bo fi’n bygro off a dyla’r trên i Lundain. Wedi’r cwbwl, dim ond rhyw antur feddwol odd hi wrth y bus stop tu fas i’r Con club ac own i’m yn meddwl bod sberms yn gallu oifad lan afon. Fi glwas i wedyn bod hi wedi treial pino’r paternity ar y boi ‘ma sy’n gwitho i S4C a thrwy lwc, dath y profion lan yn bositif a hitha’n bwrw’r jacpot am fod y boi ‘na yn ennill ffortiwn.

Mae’n depyg bod Lydia wedi gweud wrth bawb nôl yn y cwm bod hi mor falch taw nace fi odd y tad ne’ bysa’r babi wedi dod mas yn edrych fel Pinocchio. Am ffycin cheek a dyw fy nhrwyn ddim mor fawr a ‘ny. Ta p’un i, mae pawb yn gweud bod y plentyn yn edrych fel munchkin sydd ddim yn gweud lot am y boi o S4C. Fi alla i fynd nôl i’r cwm nawr a dyla fy mhen yn uchal, ond wi wedi setlo fan ‘yn ar hyn o bryd; gewn ni weld be’ ddigwiddiff yn y dyfodol - er ‘taswn i’n mynd nôl, wi’n siwr bysa rhai yn dal i gretu taw fi bia’r ffycin munchkin.

sábado, 13 de diciembre de 2008

Tits, blew a ffani go lew, un corrach cas a dynon tew


Yn Basingstoke wi’n gwitho’r wthnos hyn ac ma’r lle ma’n llawn dop o bishis siapus â’u coesa’n mynd i lan tsha’r Nefoedd. Yn anffodus, wi’n gwitho gida Mair Gorrach ac dyw hi ddim ymysg y petha perta a greodd Duw. Ma' ddi ond biti four foot five ac wi’n siwr bod hi wedi shrinco ers y tro diwetha ifi ei gweld hi. Bob Nadolig ers blynydda, mae hi’n acto yn y pantomeim yn Neuadd y Dre ym Mhontyberem ond ma’r cwmni’n perfformo 'Jack And The Beanstalk' eleni yn lle’r 'Snow White' arferol a dim ond rhan pen-ôl Matilda y fuwch on nhw’n folon rhoi iddi. Odd hi ddim yn rhy keen i saco ei phen hi rhwnt coesa rhyw strab ddwywaith y dydd a theirgwaith ar ddydd Satwrn, felly dath hi i witho gida ni.

Ma’ Mair yn hen surbwch, cofia - yn gas a swrth ond ma pobol fach i gyd fel ‘ny on’d ŷn nhw; wi’n eu gweld nhw’n depyg i’r fffycin chichiwawas ‘na wrthi’n cnoi a chlapan o gwmpas dy drad. Wi’m yn cretu bod hi’n lico fi ryw lawar chwaith; pob tro wi’n neud sylw biti menyw sy’n paso hibo, ma’ ddi’n mynd ar gefan ei cheffy gwyn a chal uffach o go arno i. Wi’n cretu bod hi’n un o’r ffeminists ‘na ac fi alla i weld pam – gida’r mwstash sydd ‘da ddi, bysa hi’n gallu paso am Adolf Hitler ‘tasa hi ddim yn dishgwl fel corrach.

Own i’n gwitho gida Tomas Tanc o Lanpumsaint cyn bod honco wedi cyrradd ond bu raid iddo fe fynd gytra am bod appointment gida fe â’i feddyg. Wi’m yn cretu daw e nôl nawr a bydda i’n gorffod rhoi lan a’r ddrychiolath ‘na am wthnos arall. Wi’n itha trist biti hwnna gwath own i’n tynnu’n mlan yn dda ‘da Tomas a ‘sda fi ddim gair drwg i weud amdano fe sy’n fwy na alla i weud am Mair ffycin Gorrach.

Ma’ gen i feddwl mawr o Tomas. Odd e’n arfadd bod yn 25 stôn ond ma’ fe wedi dod i lawr i 13 stôn nawr a sdim lot o ddynon tew all neud hwnna. Ma fe’n mynd i weld y meddyg yn Ysbyty Singleton yn Abertawe i gal gweld os yw hi’n bosib iddo fe gal llawdriniath fel y tummy tucks ‘na er mwyn cal gwarad o’r holl groen slac sy’n hongad off e. Wi’m isha gweud dim byd cas am ei sefyllfa ond ma fe’n gallu codi’r croen slac lle’r odd ei dits e’n arfadd bod a’i roi e drost ei ben e - a dyw hwnna ddim yn beth normal odi fe.

Ma' fe’n eitha self-conscious ambwti’r holl groen ‘na sy’n hongad off e ac yn sbredo i bobman - ac alla i ddim ei feio fe a gwed y gwir; byswn inna’n lladd fy hunan ‘tawn i yn yr un sefyllfa, ond ifi ariod wedi byta cymaint â fe, felly fi’n iawn. Y tro cynta ifi gwrddyd ag e, fi benderfynas i bod hi’n well son am ei broblam a chal y sgwrs annifyr 'na mas o’r ffordd am ei bod hi’n amhosibl pido â sylwi ar ei siâp od - ac fi’n un o’r bobol ‘naiff weiddu bod yr Ymherawdwr yn borcyn; wi ddim yn un o’r liberals ‘na sy’n gweud bod rhywun salw yn bert. Gormod o geg odw i, ma'n depyg. Digwdd bod ifi sôn am y ffilm The Silence of The Lambs lle ma Buffalo Bill yn lladd y menwod tew ‘ma er mwyn iwso eu croen nhw fel dillad am ei fod e’n transexual ne rwpath. Buo i’n jocan gida Tomas wedyn bod e’n lwcus bo Buffalo Bill heb ei ladd e ne’ bysa fe wedi cal digon o groen sbar i daclu Girls Aloud gyda sawl newidiad dillad ar gyfer cylchdaith chwe mis. Odd e’n timlo’n relaxed gida fi wedyn ac oen ni’n gallu jocan gyda’n gilydd. Nath e wyrthin hefyd, felly wi’m yn meddwl bo fi wedi bod yn insensitive.

viernes, 5 de diciembre de 2008

Caerwynt, Alffred Fawr a 'Brithyll'


Wi’n gwitho yng Nghaerwynt yr wthnos hyn – wel ‘blaw am heddi am bo rhaid ifi seino ‘mlan. Wel, ‘sdim rhaid ifi ac mewn gwirionadd ddylswn i ddim, ond ma’ ‘na wasgfa ariannol yn sgubo’r wlad ac ma’ angan pob cinog ar ddyn.

Lle'r crachach yw Caerwynt a ‘sneb yn brin o arian yma. Mae pob un siop yn y dre yn codi’u prisia i adlewyrchu’r ffaith ‘ny. Own i’n mynd i byrnu pastai yn y siop fara ‘ma ar yr hewl fawr ddydd Llun ond ôn nhw’n codi £4.99 am un o’u supreme pasties. Byswn i’n dishgwl cal gweld y ffycin Supremes 'i hunin yn yr Albert Hall am £4.99. Yn y diwadd, fi brynas i Mars Bar yn Woolworths am 75 cinog a dyna iti rip-off arall – sim syndod bod y ffycin siop yn mynd i gau lawr.

Mae Caerwynt yn enwog am Alffred Fawr ac ma’ na gofgolofn iddo fe yma. Yr unig beth wi’n gwpod amdano yw ‘bo fe wedi llosgi tishenna, cacs ne' bics ryw ben bora. Own i’n ffilu diall yn yr ysgol pam odd brenin yn neud shwt beth mor gay a thrial neud tishan lechwan ei hunan, ond wedi gweld prisia bwyd fan ‘yn – wi’m yn ei feio fe o gwbwl.

Mae Hedd, sy’n gwitho gyda fi, wedi dod â phedwar llifir ifi gal eu darllin- ond ma’ fa ond yn folon rhoi un ifi ar y tro rog ofan ‘bo fe ddim yn eu cal nhw nôl. Y llifir cyntaf ifi gal odd Brithyll gan Dewi Prysor ac ifi wedi darllin hwnna erbyn hyn. Joias i’r llifir mas draw – un o’r llyfra gora ifi ddarllin yn y Gymrag ariod. Hanas y werin bobol mewn pentra llawn strabs fel Clochemerle sydd yma, ac ma’ troeon trwstan y cymeriadau yn mynd rownd yn ‘y mhen i o hyd - ac ifi ‘n dal i wyrthin yn slei bach i ‘munan ar gownt amall i helynt.

Campwaith o lifir yw e ac fe 'nela fe ffilm gomedi wych heb os nac onibai. Fodd bynnag, ma’ ‘na lot o regfeydd yn y llifir na fydd at ddant rhai Cymry, ond be’ ffwc – dyw’r blog ‘ma ddim yn bring o’enyn nhw chwaith. Ma’ rhai pobol yn gweud bod rheci yn arwydd o ddiffyg geirfa ond wi’m yn cytuno â hwnna. Os galwa i rywun yn ‘supercillious fucking imbecile’ – sdim diffyg geirfa gen i wrth weud hwnna a ‘sdim diffyg geirfa na dawn meddwl yn perthyn i’r llifir ‘ma o bell ffordd.

Ma’ na ddwy olygfa yn y llifir sydd yn benigamp ac ifi’n ail-gorddi’r plesar o’u darllin o hyd. Ma’ un yn sôn am y Sysnas dew ‘ma a’i gŵr 'o dan ei bawd' yn cwmpo mas â’r bobol erill ar un o fysys Crosville, a’r llall am ddou strab yn cal wthad gin landlady y dafarn leol. Wi’m yn cofio ifi wyrthin cymaint ers gweld Fawlty Towers a’r episôd ‘na gida’r Almaenwyr. Own i wrth fy modd yn darllin yr hanesion hyn ac erill ond ‘na i ddim sbwylo’r profiad iti, felly cer mas i byrnu’r llifir a phaid â bod yn tight-arse fel fi sy'n ei fencid e off ffrind.

Ma’ Hedd yn gweud wrtho i bo fi’n cal darllin un arall o lyfra Prysor ar ôl ifi ddarllin ei ail ddewis e ifi – Y Pla gan William Owen Roberts, ond odd y ddwy bennod gyntaf yn itha hard-going, felly fi wna i jwst esgus ‘bo fi wedi darllin hwnna er mwyn cal darllin ail lifir Dewi. Fydd Hedd byth yn cretu 'bo fi wedi ei bennu e mwn dwyrnod, felly fi ‘na i aros cwpwl o ddyddia. Wi'n siwr bo Hedd heb ei ddarllin e chwaith, felly fi 'na i ryw stori lan os yw e'n gofyn ifi am beth yw e ambwyti - fydd e fawr callach; nace boi call yw e ar y gora.
.
Ma’ fe’n gweud wrtho i bod Prysor wedi ysgrifennu tair nofel at ei gilydd, ac wi’n disghwl mlan at gal ‘y nilo ar yr ail un sydd â’r teitl ‘Macrall’ ne ryw ffish tebyg ac ma’ na drydydd ar y ffordd o’r enw ‘Crancod’ ne rwpath tebyg, ond does wbod pwy lifir fydd rhaid ifi esgus darllin yn y cenol cyn bod Hedd yn folon mentyg hwnna ifi. Wi'n cretu ei fod e'n wara'r 'stick and the carrot' gida fi ac os fi'n darllin rwpath diflas, wetyn fi alla i gal rwpath difyr - a very cunning plan ond withiff e ddim; cheso i mo 'ngeni miwn byngalo ac ma' digon lan star 'da fi.

viernes, 28 de noviembre de 2008

O gath i gath


Rŷn ni’n cal cyfarfodydd o bryd i’w gilydd er mwyn trafod rheola’r fflat – ma’r tri o’ni’n ffrindia ers sbel nawr ac byddwn ni’n mynd mas, sniffan amall i gyffur a smoco un arall, stryman gitar, cal jôc a chwpwl o beints o flan y teli a mynd i weld y stripper a’r digrifwr yn y Labour Club acha bora dydd Sul – dyna be’ 'newn ni, union yr un fath â phawb arall - ond bid a fo am hwnna, un dwyrnod y mish, rŷn ni’n esgus trafod a dadla fel pobol wahanol a diarth - a phob un o’ni ‘n cal y cyfla i ddweud ei ddweud - pob un â’i gyfla i roi’r gyllath yn y nall am ryw gamwedd ne' i gilydd.

A gwed y gwir, dim ond Pablo sy’n dod â’i gyllath e mas a dychra cintach a lladd ar bawb - rŷn ni’n dou jwst yn gatal i’r byd fynd yn ei flan yr un fath ag arfar. Ma’ fe itha constant - rhaid gweud - ac ma’ wastod fagad o gwynion yn ei ben. Wi’n cretu bo fe’n itha anal os gweta i galon y gwir – ma’n lico bod popith yn deidi a phob dim yn ei le. Ma’i fam e’r un peth a phan mae hi’n dod i aros, ma’ ddi fel cal y ddwy fenyw lanhau Kim & Aggie off y teli o gwmpas y tŷ. Un tro, rown i’n darllin y llifir Martha, Sianco a rhyw ffycar arall gin ryw awdures hambon o Geredigion pan gwmpws briwshon off y Jacob’s Creamcrakers ‘rown i’n byta ar y pryd a lando ar dop pen y gath; dyma’r gath wedyn yn shiglo ei phen a gatal i’r briwshon gwmpo ar y carpad o’i blan hi. Bai’r ffycin gath odd hwnna ond ath e’n apeshit a’i fam e’n dychra twt twtan a mynd yn syth am y blydi dwstpan a brwsh. Dyw hi ddim yn rhwydd byw ‘dag e – weta i ‘ny wrthot ti nawr.

Yn y cyfarfod diwetha geson ni, dyma fe off yn conan eto byth bo fi’n siafo yn y bath ac yn gatal y blewach rownd yr ochra. Wi wedi treial gwed 'tho fe taw’r sgrwff sy’n clasgu yn fy mola botwm yw e – ond dyw e ddim yn derbyn ‘ny. Wi’m yn gwpod beth sy’n bod ar y crwt – odi fe'n moyn ifi gatw bant o'r bath a dychra drewi fel Mr Edwards 'Ty Capel'; ma’ pobol salw y diawl yn cerad ar hyd strydoedd Battersea pob dydd a ti byth yn ‘y nghlwad i’n conan amdenyn nhw ac yn gweud wrthyn nhw i gatw off y stryd - a dyw bach o flewach yn y bath yn neud dim drwg i neb, ond un fel ‘ny yw e ac wedi bod ariod.

Bythewnos yn ôl, dath e â ffycin cath i’r tŷ a nath e ddim trafod hwnna gyda ni. Geson ni warad o un gath ddychra’r flwyddyn am ‘bod hi shwt ffwdan ac nawr ma’ fe wedi dod ag un arall i’r tŷ. Odd e wedi gialw’r llall yn Julietta ac ma’ fe wedi penderfynu taw Minina yw enw hon – sy’n golygu pwsi yn y Gastilaneg (cath fach - rog ofan bo rhywun yn camddeall). Am enw ffycin stiwpid i roi ar gath ond mae unrhyw enw yn wast amsar - dŷn nhw ddim fel cŵn. Y ffycin mwnci wi’n ei galw ddi am i bod hi’n tringad dros bob man, ac ma’ Xose yn ei galw ddi’n Mixela sy’n air am bidyn yn yr Alisieg – wn i’m pam, ‘sdim un ‘da ddi. Daw hi at ei bwyd yn y gegin os fi’n bwrw fforc yn erbyn plât, ond fi allai i alw Minina, Mixela ne’ ffycin mwnci arni sbo’r Nadolig yn pasho ac ni ddaw hi ddim.

Ma’n depyg bod Pablo yn gweld collad rwpath i weidddu arno nad yw’n ei atab e nôl. Gobeitho na chaiff e byth blant – ne’ byddan nhw’n rytag bant gyntad sylweddolan nhw pwy mor anal yw e. Wrth gwrs am ‘bo fi ddim yn lico catha – ma' catha yn lico fi ac alla i ddim cal gwarad o’r ffycars. Ma' Minina yn lico dod i lan ar y soffa wrth ym ochor i pan ifi ar y compiwtar ac yn moyn ishta ar y llygotan. Bydda i’n gorffod citsho yn ei gwar, ei chwnnu hi lan a ‘i doti ‘ddi ar y llawr, ond ma’ ddi’n meddwl bo fi’n wara gêm ac yn dod nôl trw’r amsar; byswn i’n gorffod neud hyn trw’r ffycin dydd ‘taswn i ddim yn citsho yndi yn y diwadd, rytag dŵr oer y bath a’i thowlu ddi yn yr ‘effin dŵr – dyna’r unig ffordd mae’n diall bod y gêm ar ben. Bydd Pablo yn meddwl taw ei blew hi yw fy mlew i yn y bath nawr, siwr o fod - ond fe alliff e fynd i grafu.

Ffordd arall o gal ei gwarad hi yw trwy weiddu Psssssssssss arni ac ma’n cymeryd y bawan yn reit gloi wetyn ac off â hi - ond ma’n dueddol o fynd yn gas, fflyffan ei chot a'i chwt hi mas, dychra hisan fel cobra a threial ‘y nghrafu i cyn nido off y soffa. Bydd hi mor ewn wedi'ni, ac bydd hi'n dishgwl arno i’n fygythiol o’r llawr tra’n hisan, felly ma’n well da fi esgus bo fi’n dal i wara cyn ei thowlu ddi miwn i’r bath. Chredi di fyth y swn sy'n dychra dod mas o waelod ei chorff pan ma' ddi yn y bath - ma' ddi'n swno'n depyg i Linda Blair yn 'The Exorcist' - really spooky! Yn well byth a help mawr, ifi newydd ffindo mas am lavender air freshner o Boots (£0.99 ar gynnig) ac ma’ hwnnw’n neud sŵn Pssssssssssss wrth wasgu'r peth bach 'na ar y top - a welid di mo’r gath am oriau ar ôl ifi wistrellu hwnna drosti. Ffycin gwd fuddsodiad odd hwnna.

viernes, 14 de noviembre de 2008

Dickhead, Leatherhead, Fu Manchu a'r lesbian cannibals


Bu uffach o rycshwns yn y tŷ nithwr. Odd Xosé wedi bod mas ar griws gida’r bobol o’i waith a dath e nôl yn feddw racs – yn wath nag ifi wedi ei weld e eriod. Odd Pablo a finna’n watsho The Texas Chain Saw Massacre ar y pryd, ond ar ôl gweld y stad odd arno fe, fe ddotson ni fe yn y gwely, rhoi carthan drosto a’r bowlan olchi-lan wth ei ochor ac wedyn mynd nôl i weld y ffilm. Ar ôl biti hannar awr pan odd y ffilm wedi cyrradd y pwynt lle ma’ Leatherhead yn cwrso’r fenyw ‘ma rownd clos y fferm â’r llif- gadwyn yn ei law a ti'n gweld y fenyw stiwpid ‘na'n rytag drost y clawdd yn sgrechin ei thits hi off – dyma Xosé yn cerad yn ei gwsg i mewn i’r 'stafall fyw, tynnu ei bidyn e mas a dychra pisho drost y teledu.

Wel, bois bach - dyma Pablo yn cwnnu lan a dartan fel milgi mewn ras milgwns a dychra gwiddu, tyngu a rheci y tu ôl i gefan Xosé nes bo fynta'n dino o’i drwmgwsg, yn troi rownd ac er ei waetha yn cario mlan i bisho dros Pabliño. Odd Xosé druan ddim yn gwpod lle odd e heb sôn am beth odd e’n ei neud, ond wetyn dyma Pablo yn citsho ym mhopith o fewn ei gyrradd a’u towlu nhw ato fe – oen ni’n lwcus nag odd ffycin chainsaw yn y tŷ.

Wi’n cofio siarad ag
Euronwy un tro biti rwpath tepyg odd wedi dicwdd iddi hi; odd hi yn y gwely gyda’r boi ‘ma o Bencader ac yn y bora bach, dyma fe’n cwnnu lan, agor drws y wardrob a phisho drost ei shŵs Manolo Blahnik. Dyw hi dal ddim yn siarad â’r boi ‘na. Wetws hi wrtho i pe tasa fe wedi pisho dros ei ffrog hi o 'Primark', bydda ‘na ddim cymaint o ots ‘da ddi - ond un shallow fel ‘na fuodd Euronwy ariod. Er hynny, o’nd yw hi’n rhyfadd bod rhai dynon meddw yn neud pethach fel ‘na - dwyt ti byth yn clwad am fenwod yn twtan lawr yn y wardrob i gal pishad ar ôl noson mas ar y tequila – man nhw wastod yn ffindo’r tŷ bach, ots pwy stad sy’ ernyn nhw.

Ta p’un i, ath pablo idd’i ‘stafall e mwn yffach o hwyliau drwg ac bu raid ifi helpu Xosé i glau’r gwa'd odd yn diferu odd’ ar ei dalcan, ei foch a’i wefus ac fi netho i gynnig plastar iddo fe – iddo fe gal ei ddoti fe ar y cwt odd ar ei bidyn. Ar ôl hynny, fe ishton ni i lawr ar y soffa fel ‘tasa ‘na ddim byd wedi digwdd ac fi ddysgas i fe i weud ‘I am a dick-head’ yn Sysnag, ac wedi ‘ny, rhoias i’r Lesbian Cannibals yn y peiriant DVD.

Fi geso i’r ffilm ‘na oddi wrth Fu Manchu * yn yr Asparagus; rwyt ti’n cal wech ffilm am bumpunt ac fi ddewishas i Quantum of Solace, Willy Wonka and the Chocolate Factory, The Texas Chain Saw Massacre, Psycho a Saw (rhannau 4 a 5). Wi’m yn gwpod beth oedd y Lesbian Cannibals yn neud yn eu cenol nhw ond ma''n rhaid bod Fuey wedi drysu. Ma' fe’n treial wpo’r ffilmiau 'fucky fucky' arnon ni drwy’r amsar ac mi ddath hi’n amlwg taw un o’r ffilmiau ‘na oedd y Lesbian Cannibals. Ar glawr y DVD, odd y broliant ‘ma gweud – Watch them eat each other in gory Technicolor – ond dodd dim canibals yn y ffilm o gwbwl – dim ond lesbians wrthi’n joio ‘i hunin. Dechreuws Xose wdu lan hannar ffordd trwy’r ffilm ond effith y cwrw a’i gydwybod odd hwnna. Wi’n cretu taw’r tro nesa daw Fuey i mewn i’r dafarn, fi ‘na i dreial swopo’r ffilm 'na am Psycho 2.

Dyw Pablo a Xosé ddim yn siarad â’i giddil ar hyn o bryd – ne’ a bod yn onast, dyw Pablo ddim yn siarad â Xosé. Ma’ itha cwiddil ar Xosé biti’r holl beth ac er mwyn codi ei galon e, fi wedi gweud wrtho fe i bido â becso a bo fi’n dal yn ffrindia gida fe – er ‘tasa fe wedi pisho arno i, byswn i wedi neud union yr un peth â Pablo.

* Ōl –nodyn:

Y tro diwethaf ifi sôn am
Fu Manchu ar y blog, dyma fi’n cal e-bost gin Mr Fuk Yuu o Bentrefoelas yn gweud na ddylswn i gyfeirio at rywun o ‘China’ fel Fu Manchu. Wi’m yn ei feddwl e’n gas ond ma’ pawb yn yr Asparagus yn ei alw fe’n Fu Manchu ac wi’m yn gwpod beth yw ei enw iawn e ta p’un i. Licswn i bwysleisio bod ‘regulars’ y dafarn yn gymysgedd o bobol o wahaniath lefydd a sdim un o’ nhw’n rhagfarnllyd neu’n hiliol – heblaw am Heroin Mick sydd ddim yn lico pobol o Kingston, Jamaica am ryw reswm ne’i gilydd – ond ei broblam e yw hwnna.

viernes, 7 de noviembre de 2008

Jack The Porn Ripper a fforymau trafod


Ethon ni i weld Jack The Porn Ripper yn y Vauxhall Tavern nos Lun a joias i mas draw. Dath y dyn ‘ma ar y llwyfan a thynnu ei ddillad e off nes bo fe’n borcyn a gofyn i’r gynulleidfa mewn acen Bwyleg - Do you want to see me let one rip? - ac wir Dduw iti, dyma fe’n dychra rhechin i’r emyn hwyliog 'When The Saints Go Marching In' tra’n wthu trwmpet fel Louis Armstrong. Fi own i’n pisho m'unan wyrthin ac wedyn fel pièce de résistence, dyma fe’n neud bach o ventriloquy ac yn cal sgwrs â thwll ei din - oedd hyd yn oed yn well. Dyna i gyd odd ei act, ac er bod Rob yn meddwl bod y peth yn hollol puerile – a gira fel ‘ny ma' Rob yn iwso pam ma’n moyn sarhau rhywun ne' rwpath - mae’n well gen i hiwmor y whoopee cushion a’r rhech nag huodledd geiriol rhywun fel Stephen Fry yn gwneud teth mas o’i hunan byth a hefyd - er cystdlad y bo. Melys moes mwy.

Yn anffodus, ifi wedi slofi lawr ar y blogo ond bydda i’n trial posto yn achlysurol. Wi wedi ffindo pethach erill i’m difyrru ar y we erbyn hyn. Wi’n eithaf hoff o’r fforwm drafod ac yn enwedig y rhai sy’n cal eu rhytag gan Americanwyr - o bosib am eu bod nhw mor groendenau ac mae’n rhwydd tynnu arnyn nhw. Dylsa fod cwilydd gen i mewn gwirionadd ond pwy ffwc ots. Dyma un atab netho i roi i ryw Americanwr ar ryw fforwm neu’i gilydd oedd yn gofyn a odd ‘marmots’ i gal yng Nghymru:

I don't know what a marmot is to be honest with you - is it a type of pig; I've never heard anyone talk about them in Wales. I do remember one time though being in Fforest Fach with my girlfriend and this pig-like thing came hurtling towards us and it ran off with my trousers and her knickers in its snout. Do marmots do that - if so, then we've got them, and the sooner someone gets rid of them the better.

Petha bach sy’n plesio dwlbyn fel fi ontefe, ond ifi’n joio. Geso i bach o ffrae ar un fforwm odd yn perthyn i ryw fudiad Efengylaidd yn yr Unol Daleithiau. Fforwm drafod oedd hi oedd yn annog 'sexual abstinence' cyn prioti ac yn gofyn i bobol ifanc wishgo’r modrwyon arian ‘ma. Ma’r fwtrw yn reit debyg i’r un odd gin Frodo ond bod ei fwtrw e‘n gweud "One Ring to Rule Them All. One Ring to Find Them. One Ring to Bring Them All and In The Darkness Bind Them." – tra bo eu modrwyon nhwtha’n gweud "God wants you to be holy, so you should keep clear of all sexual sin. Then each of you will control your body and live in holiness and honor." Digon teg - ond own i’n anghytuno â lot ôn nhw’n gweud a phenderfynais i roi fy marn ar y fater a thynnu arnyn nhw ryw dipyn ond dôn nhw ddim yn ei lico fe o gwbwl ac man nhw wedi dileu pob un neges ac ela e- bost ato i’n gweud y byswn i’n mynd i Uffarn ac ifi beidio ag ymuno yn y drafodaeth byth eto. Am bobol groendenau!

Ma’n lladd amser on’d yw hi, ac wi’m yn meddwl ‘bo fi wedi bod yn rhy gas wrthyn nhw. Mae maes-e yn well – nid fi yw’r unig un sy’n wara biti o bryd i’w gilydd ar hwnna, ond ifi’n posto’n gall erbyn hyn ar ôl cal cerydd gin Hedd y llynadd am adael one-liners fel hyn - sydd yn sexist ma'n debyg. Ma’n rhaid bod y cymedrolwyr wedi cal sgwrs amdano i ne’ rwpath - gwath gyda’r cerydd e- bost, fe ddath bagid o bobl i ymweld a’r cofnod blog ‘ma odd’ ar y ddolan ar faes-e. Digwydd ifi ofyn cwestiwn pwy ddwyrnod ar y maes ifi gal gwpod beth oedd trolio a fflamio yn ei olygu ac oddi wrth yr ateb, wi'm cretu bo fi'n neud 'ny, felly mae fy nghydwybod yn glir ac fi alla i gario mlan, ond bydda i'n bihafo ar maes-e - cris croes tan poeth!

Bydda i’n itha bishi dros y Nadolig a’r flwyddyn newydd. Bydda i off yn gwitho gyda Mr Seffton dros y Nadolig ac wedyn, ma’ gen i achos llys ddechrau Ionawr am bido â thalu treth y cyngor a chyda bach o lwc, fi ga i’r opsiwn o fynd i HMP Wandsworth am bythewnos er mwyn gwaredu’r £400 sy arno i iddyn nhw. Gobitho y ca i witho gyda ei fab Hedd ond y llynadd fi ddotas i drawing pin ar ei sedd, ac er bod y peth yn ddoniol iawn pan ishtws e arno fe, aeth y briw yn septig a bu rhaid iddo fe ela diwrnod yn yr Accident and Emergency yn Southampton Infirmary – felly wi’m yn siŵr os bydd e’n moyn gwitho gyda fi eleni, ond gewn ni weld.

viernes, 19 de septiembre de 2008

Y claf a'r traed diglefyd


Wi wedi ffwcan ‘y nhroed i lan nawr – o’s ‘da fi ddim clem beth ifi wedi ei ‘neud, ond ma’n ‘ala los y diawl pob tro wi’n doti pwysa arni. Dim ond un drod sydd fel ‘ny; ma’r drod dde yn iawn, ond alla i ddim clunhercan rownd y lle ar un drod neu bydda i’n edrych yn ffycin stiwpid. Roedd ‘na fenyw yn y pentra ‘slawar dydd – un o’r village idiots ‘na; ac roedd hi’n hopan bob yn ail gam ac yn slamo’r drod arall i lawr wetyn. Roedd hi wastod yn gwishgo daps am ei thrad ac Annie Dap oedd pawb yn ei gialw ddi. Wi’n gallu cydymdeimlo â’r fenyw nawr – ma’n amlwg i rwpath mawr ddigwdd idd’i thrad hi heb sôn am ei phen; ond ‘mond nawr wi’n gweld shwt broblam odd gynti ddi.

Wi nôl yn y gwaith nawr ar ôl gwila bach - sy’n golygu ‘bo fi ar fy nhrad am oriau bwy gilydd ar fysus Llundain yn rhoi holiaduron mas a helpu’r werin idd’u llanw nhw. Dyna jobyn shit ontefe – gwast gradd prifysgol; ond er gweud hynny, ieithoedd modern own i’n astudio yn y coleg a ‘sbron neb yn siarad Sysnag yn Llundain y dyddia hyn, felly mae bach o iws i’r holl addysg wedi’r cwbwl - ma mwy o bobol o Sbaen a Phortiwgal yma na welid di o Saeson. Y peth gwaetha yn y job ‘ma yw bod gyrwyr bysus lawr fan hyn yn dychra a stopid y bys bob yn ail funud ac rwyf inna’n cel fy nhowlu o un ochor y ffycin bws i’r nall trw’r amsar. Wi’n ofan taw industrial injury sy ‘da fi ond chaf i ddim compo – jobyn contract yw e, ac felly ‘sda fi ddim hawliau.

Wi wedi gwglo ‘problema traed’ ar y we a bysa hi’n well ‘taswn i heb wneud shwt beth. Fi’n troi’n glaf diglefyd; unrhyw sympton man nhw’n priodoli i drad tost – wi’n cretu ‘bo fy nhrod bach i yn joddef o’ano fe. Burning feet yw un o’ enyn nhw ac er taw burning foot sy ‘da fi, wi’n rhannu’r un symptomau â’r rhai sy’n diodda o’rwth hwnna a bagad o afiechydon eraill ‘ed. Trwy lwc, roedd merch Xosé wedi gadael paced o’i ‘sanitary towels’ yma pan oedd hi’n aros yma ym mis Awst ac fi ddotas i un o’r rhain o dan fy nhrod dde er mwyn esmwytho’r ddolur. Bu raid ifi byrnu pâr o sgitsha seis yn fwy nag w i’n iwso fel arfar er mwyn cal y tyweli misglwyf a’r odour eaters i ffitio i miwn i’r esgid ond o leiaf wi’n gallu cerad yn well nawr. Beth sy’n rhyfadd yw bod nhw’n dyweli misglwyf - yn ôl y label - y galliff menyw eu hiwso o’r newydd ar ôl golchad decha – a oes bosib cretu shwt beth? I’m ffordd i o feddwl, peth digon drwg yw eu hiwso nhw ar ôl bod dwyrnod wrth y gont heb sôn am eu hiwso nhw eilwaith wedi dwyrnod o dan dy drad. Bydda i’n eu newid nhw pob dydd a doti un newydd i miwn – wi’n gallu bod yn reit ddigywilydd ond nid mor ddigywilydd a ‘ny.

Pan own i’n byw ar bwys Caernarfon, roedd Mrs Williams drws nesa yn cel y meddyg trad i ymweld â hi bob hyn a hyn ond a gwed y gwir, roedd ei thraed hi yn ffycin horrible ac heb ots nac onibai, 'odd angan help ernyn nhw. Rodd hi’n arfadd conan am ei thrad hi trw’r amsar a heb fod angan gofyn iddi hi, bysa’r sgitsha yn dod off a hitha’n dangos pob un corn a gwyshican odd ar y trad ffycin horrible ‘na. Y co cyrn oedd hi’n gialw’r meddyg traed – enghraifft o iaith y Gogledd, mae’n depyg – ond digon rhwydd odd hi ifi gal diall am be’ odd hi’n mynd mlan biti fe pan odd ei thrad hi o dan fy nhrwyn i - a honco’n dangos pob un dim odd yn bod ernyn nhw. Byswn i’n mynd at y meddyg trad fy hunan, ond ma’n siŵr bo nhw’n codi crocbris - sdim amdeni felly ond diodda a gobitho gwelliff y peth o’i hunan.

sábado, 13 de septiembre de 2008

Cadw dy blydi myshrwms


‘Bthdi mish yn ôl, buas i’n watsho rhaglen ddogfen ambiti’r fenyw ‘ma sydd yn y llun wrth ochor y cofnod ‘ma. Lauren Harries yw ei henw hi ond dyn odd hi ar un adeg – James Harries – a dath e i amlygrwydd fel crwtyn bach teip Lord Fauntleroy ar raglen Wogan ‘slawar dydd yn trafod henbethau os gweli di’n dda. Teip o grwt odd e y bysa unrhyw fam yn hwpo gwäell i lan ei chont er mwyn ei ladd e cyn iddo fe ddod mas o’r groth ‘tasa hi’n gwpod fel bysa fe’n troi mas. O ran y ‘sex change’ gas e wedyn, ‘odd y corff newydd ddim ymysg y gwaetha welsad di ond pan ti’n dishgwl ar y gwynab ar ei dop e – rwyt ti’n dychra mynd i fyd y twilight zone. Own i’n pisho ‘munan wyrthin yn watsho’r rhaglen ac er bo fi’n gwpod na ddylswn i wyrthin am ben pobol erill, pwy ffwc ots– wi bell o fod yn wleidyddol gywir ac ifi eriod wedi gweud bo fi. Ta p’un i, fi wna i sôn eto am y ddrycholiath ‘na yn y man.

Yr un noswith, dath Pablo nôl â’r fideo ‘ma o’r ffilm 'Como Agua Para Chocolate’. Stori serch yw hon am Tita De La Garza a Pedro Muzquiz. Mae Tita yn gywan ola’r nyth ac yn ôl hen draddodiad y teulu, mae rhaid iddi hi aros gytra yn ddi-briod a dishgwl ar ôl ei fam hyd nes bo honco’n marw - ac itha hen ast o fenyw yw’r fam gyda llaw. Ma’ Pedro yn galw draw i’r ffermdy er mwyn gofyn caniatâd gin y fam i gal prioti â Tita ond dodd ffyc all o obaith gyda fe ac ma’r fam yn gweud y galliff e brioti Rosaura - y ferch hynaf - ond taw tynged Tita yw gorffod edrych ar ei hôl hi. Ma’ Pedro yn penderfynu prioti Rosaura er ei waetha - ond dim ond am ei fod e’n gwpod y bydd e’n cal byw yn y ffermdy ac yn gallu gweld Tita bob dydd. Yng nghwrs amsar, ma Pablo a Rosaura yn prioti ond ma Pablo yn hen gadno ac ma’ fa’n iwso pobun esgus i bido â chysgu gyda ddi nes bo fe’n rytag mas o esguson ar ôl tri mish. Ei sielffo hi fydd rhaid felly - ond cyn iddo fe gyflawni’r briotas, ma’ fe’n mynd i lawr ar ei bengliniau wrth ochor y gwely a gweud:

Señor, no es por vicio ni por fornicio; si no por dar un hijo a tu servicio.

[Arglwydd, nid yw oherwydd anfoesoldeb neu buteindra ond er mwyn rhoi mab i’th wasanaethu]

Mae’n adrodd gweddi’r Arglwydd wed’ni ac yn gorchuddio corff Rosaura â lliain gwyn sydd â thwll bach yndo er cael mynediad at ei dirgelwch – ac ma’ fe’n neud y busnas.

‘Odd Rosaura ddim mor salw a hynny a down i’m yn diall pam oedd raid iddo fe gwato ei chorff hi â’r llian – odd yr olygfa i weld yn depyg yn fy meddwl i i beth wetws Dic Penwern wrthon ni pan nath e sielffo Mair Lewis a hitha â’i dillad amdeni a balaclafa dros ei phen yn y tai bach ym Mharc yr Arfau flynydda nôl. Dyw e ddim yn rhamantaidd iawn i’m ffordd i o feddwl.

Buson ni’n trafod y peth wetyn ac odd Xosé yn gweud wrtho i taw peth crefyddol oedd e, siwr o fod, a bod hi’n bosib gweld y gwaed ar y lliain ar ôl i’r fenyw golli ei morwyndod – ti’n gallu dangos y llian i’r byd a’r betws wedyn i brofi bod dy wraig yn forwyn, medda fe. Wi’m yn gwpod os odw i’n cretu Xosé - ma’n wilia dwli lot o’r amsar - er buson ni’n gytǔn na fysa peth tebyg byth yn gwitho yng nghefn gwlad Cymru na Galisia; ‘sa ti’n lwcus i ffindo morwyn o fewn pum can milltir i ddyffryn Tywi na Valdevinho; bysa rhaid i’r merched gafflo a doti bach o saws tomato coch arno fe mas o’r satchets ‘na ti’n eu cal am 20 cinog ym McDonalds

Dodd Pedro Muzquiz ddim mor grefyddol â ‘ny ‘chwaith wrth feddwl - gwath odd e’n sielffo Tita yn y sgubor ryw bum munud ar ôl yr olygfa ‘na yn y ffilm, ond ‘na i ddim gweud rhagor rhag sbwylo’r diwadd.

Pan bennodd y ffilm, geson ni bach o barti gyda’r madarch hudol a’r Tequila gas Xosé’n anrheg gin ei frawd yn Santiago de Compostela - ond wi byth yn mynd i neud ‘ny ‘to. Fi grashas i mas erbyn diwadd a dychra breuddwydo taw fi oedd Pedro Muzquiz ac ar ôl rhoi Barry White ar y CD, dyco fi’n mynd yn freuddwydiol hapus am y twll yn y llian oedd yn cwato corff Rosaura De La Garza. Wedi bennu’r busnas, dyma fi’n ishta yn y gadar ar bwys y gwely, cynnu ffag a sawru’r foment. Dyco fi’n edrych i’r dde yn fy mherlewyg wedyn ac odd Rosaura yn dychra cwnnu lan ond pan slipodd y llian off ei chorff – pwy oedd o dano fe ond y ffycin Lauren Harries ‘na. Fi ddinas i‘n reit siarp yn wŷs shwps a dychra sgrechin. Y peth nesa wi’n cofio odd Xosé yn slapo ‘ngwynab i a Pablo wrthi’n shiglo fi’n ffyrnig.

Ryw dridiau wedyn, bwcas i le yn y Priory am fis ar gynllun ‘detox’ a dyna pam wi heb flogo ers sbelan. Ma’n lle eitha da ac i fan‘co ma’ lot o celebrities yn mynd – ti jwst yn bifhafo dy hunan, cal bach o seicotherapi a byta lot o betha shit ac wedyn yn cal enema diwadd wthnos. A bod yn onest, bu bron ifi ffindo Iesu Grist a dychra darllin y Beibl ond un o side effects yr enema odd hwnna ac own i'n iawn o fewn cwpwl o ddyddia. O ran y celebrities, dim ond Kerry Katona own i’n napod a dim ond am ei bod hi‘n hysbysebu Icelands bob munud pan wt ti’n watsho 'I’m a Celebritiy - Get Me Out Of Here'. Wi’m yn cretu taw cyffuriau odd ei phroblem hi ‘chwaith; mae hi’n byta gormod o’r shit ‘na yn Iceland – odd hi’n edrych fel fersiwn dew o Dawn French. Bysa’n well iddi gatw off y bwyd a stico at y drygs. Ta p’un i, wi’m yn byta stwff Iceland ac ifi’n catw off y cyffuriau ac yn enwedig y blydi myshrwms 'na. A gwed y gwir, wi’n timlo’n lot gwell nawr - bron â bod yn normal.