sábado, 22 de diciembre de 2007

Gweithio bant - Hedd perffaith Hedd yn Basingstoke


Mae’r gwaith yn dod i ben yfory, diolch byth. Bues i’n gweithio gyda Hedd Hambôn yn Basingstoke. Ma' fe’n un o’r ychydig sydd yn darllen y blog ‘ma ac wn i’m pam ond dyw e ddim yn hapus iawn ‘bo fi’n ei alw fe’n ‘hambôn’ ond ‘sneb yn gweid y gair ‘josgin’ yn ein hardal ni; mae rhai pobl yn gallu bod mor groendenau. Mae’n gweid ‘bo fi’n blentynnaidd, anaeddfed ac yn amharchus ond a gwed y gwir wi’n gweld hynny yn dipyn o rinwedd – pawb a’i farn ontefe.

Wi wedi addo na fydda i’n cyfeirio ato fe fel ‘Hambôn’ byth eto. Dyw e ddim yn addas nawr ta p’un i. Mae e wedi colli lot o bwysau a dyw e ddim yn edrych dim byd tebyg i’r ‘pot-bellied pig’ ‘roedd y teulu yn arfadd cadw yn y sied glo. Ma' fe wedi gadael cefn gwlad hefyd ac yn byw ym Mhontyberem erbyn hyn ac felly, nid hambôn mohono - ots be’ wetiff neb.

Boi ffein y diawl yw e mewn gwirionedd ac ifi'n ei lico fe lot – boi synhwyrol a charedig ac mae ei galon e yn y lle iawn. Ma' fe a’i wraig – Mrs Hambon – newydd byrnu ci ac yn lle pyrnu ci pert, fe ethon nhw i’r ‘dogs home’ yn Llanelli a dewis ci nad oedd ei eisiau ar neb – rhyw ast salw a’i thetha’n llusgo ar hyd y llawr wrth gerdded o le i le. Casi yw ei henw hi ac wi wedi gweld llun ohoni hi ac heb air o gelwydd, bysa ‘Gollum’ yn well enw arni ddi. Dyw fy nghalon i ddim yn y lle iawn a byswn inna wedi ei thowlu hi o flaen y bws cyntaf i ddod heibio – mae ‘na hen ddigon o bethau salw yn y byd 'ma.

Mae ei wraig e wedyn yn achub ceffylau sydd ar fin cael eu lladd er mwyn gwneud ‘burgers’ i werthu yn Asda ac maen nhw’n cael byw eu dyddiau olaf yn hapus braf yn yr ardd gefn. Mae Hedd yn gweid bod y dom yn dda iawn i’r planhigion ond nid dyna’r rheswm pam maen nhw’n edrych ar eu holau nhw. Wi'n eu cefnogi nhw cant y cant yn eu brwydr yn erbyn y cyngor - wedi'r cwbwl, mae pobol yn cadw cwyningod a cholomennod a phob math o betha yn yr ardd gefn. Mae un cymydog yn cadw ceiliog yno ac mae ceiliogod yn cadw uffach o ffycin swn. Fyswn i ddim yn ei chefnogi hi, cofia; roedd mam a'i hwfer bob bore yn ddigon i'm ela i'n benwan.

Licswn i fod wedi cael ci ond roedd mam yn gweid bod cŵn yn drewi ac doedd hi ddim isha un yn y tŷ. Roedd bopa Dot drws nesa yn tŷ ni trwy’r amser ac roedd hi’n drewi’n waeth na’r un ci, felly bach yn annheg oedd hwnna. Bysa ci wedi bod yn lot fwy o hwyl na bopa Dot – roedd hi’n arfadd ishta ar y soffa ac agor ei cheg fel pysgodyn heb fod yr un gair yn dod mas o’i cheg hi erioed. Roedd fy chwaer a finna’n ei galw hi’n boba Mong ond fe geson ni uffach o gerydd gan mam am hwnna. Un dda yw mam ac mae hi wedi fy nysgu i i barchu pawb – ots pwy mor simpil ŷn nhw.

Mae Hedd wedi bod yn fy helpu i â’m cyfrifiadur yn ystod yr wythnos a dangos imi sut mae gwneud pethau. Ma' fe’n dipyn o ‘wizz kid’ gyda’r cyfrifiaduron. Bydd e’n cymryd drosodd y peth ‘maes-e’ ‘na cyn bo hir sydd yn rhyw fath o fforwm i’r Cymry gael dweud eu dweud. Ma' fe’n gweithio ar wefan hefyd sy’n dangos lluniau o anifeiliaid sydd yn edrych yn debyg i sêr Hollywood. Efallai af i i mewn i weld y peth ‘na am yr anifeiliaid ond fe wna i gadw bant o’r peth ‘maes-e’ ’na – mae’n gas gen i Gymry sy’n malu cachu.

No hay comentarios: