viernes, 19 de septiembre de 2008

Y claf a'r traed diglefyd


Wi wedi ffwcan ‘y nhroed i lan nawr – o’s ‘da fi ddim clem beth ifi wedi ei ‘neud, ond ma’n ‘ala los y diawl pob tro wi’n doti pwysa arni. Dim ond un drod sydd fel ‘ny; ma’r drod dde yn iawn, ond alla i ddim clunhercan rownd y lle ar un drod neu bydda i’n edrych yn ffycin stiwpid. Roedd ‘na fenyw yn y pentra ‘slawar dydd – un o’r village idiots ‘na; ac roedd hi’n hopan bob yn ail gam ac yn slamo’r drod arall i lawr wetyn. Roedd hi wastod yn gwishgo daps am ei thrad ac Annie Dap oedd pawb yn ei gialw ddi. Wi’n gallu cydymdeimlo â’r fenyw nawr – ma’n amlwg i rwpath mawr ddigwdd idd’i thrad hi heb sôn am ei phen; ond ‘mond nawr wi’n gweld shwt broblam odd gynti ddi.

Wi nôl yn y gwaith nawr ar ôl gwila bach - sy’n golygu ‘bo fi ar fy nhrad am oriau bwy gilydd ar fysus Llundain yn rhoi holiaduron mas a helpu’r werin idd’u llanw nhw. Dyna jobyn shit ontefe – gwast gradd prifysgol; ond er gweud hynny, ieithoedd modern own i’n astudio yn y coleg a ‘sbron neb yn siarad Sysnag yn Llundain y dyddia hyn, felly mae bach o iws i’r holl addysg wedi’r cwbwl - ma mwy o bobol o Sbaen a Phortiwgal yma na welid di o Saeson. Y peth gwaetha yn y job ‘ma yw bod gyrwyr bysus lawr fan hyn yn dychra a stopid y bys bob yn ail funud ac rwyf inna’n cel fy nhowlu o un ochor y ffycin bws i’r nall trw’r amsar. Wi’n ofan taw industrial injury sy ‘da fi ond chaf i ddim compo – jobyn contract yw e, ac felly ‘sda fi ddim hawliau.

Wi wedi gwglo ‘problema traed’ ar y we a bysa hi’n well ‘taswn i heb wneud shwt beth. Fi’n troi’n glaf diglefyd; unrhyw sympton man nhw’n priodoli i drad tost – wi’n cretu ‘bo fy nhrod bach i yn joddef o’ano fe. Burning feet yw un o’ enyn nhw ac er taw burning foot sy ‘da fi, wi’n rhannu’r un symptomau â’r rhai sy’n diodda o’rwth hwnna a bagad o afiechydon eraill ‘ed. Trwy lwc, roedd merch Xosé wedi gadael paced o’i ‘sanitary towels’ yma pan oedd hi’n aros yma ym mis Awst ac fi ddotas i un o’r rhain o dan fy nhrod dde er mwyn esmwytho’r ddolur. Bu raid ifi byrnu pâr o sgitsha seis yn fwy nag w i’n iwso fel arfar er mwyn cal y tyweli misglwyf a’r odour eaters i ffitio i miwn i’r esgid ond o leiaf wi’n gallu cerad yn well nawr. Beth sy’n rhyfadd yw bod nhw’n dyweli misglwyf - yn ôl y label - y galliff menyw eu hiwso o’r newydd ar ôl golchad decha – a oes bosib cretu shwt beth? I’m ffordd i o feddwl, peth digon drwg yw eu hiwso nhw ar ôl bod dwyrnod wrth y gont heb sôn am eu hiwso nhw eilwaith wedi dwyrnod o dan dy drad. Bydda i’n eu newid nhw pob dydd a doti un newydd i miwn – wi’n gallu bod yn reit ddigywilydd ond nid mor ddigywilydd a ‘ny.

Pan own i’n byw ar bwys Caernarfon, roedd Mrs Williams drws nesa yn cel y meddyg trad i ymweld â hi bob hyn a hyn ond a gwed y gwir, roedd ei thraed hi yn ffycin horrible ac heb ots nac onibai, 'odd angan help ernyn nhw. Rodd hi’n arfadd conan am ei thrad hi trw’r amsar a heb fod angan gofyn iddi hi, bysa’r sgitsha yn dod off a hitha’n dangos pob un corn a gwyshican odd ar y trad ffycin horrible ‘na. Y co cyrn oedd hi’n gialw’r meddyg traed – enghraifft o iaith y Gogledd, mae’n depyg – ond digon rhwydd odd hi ifi gal diall am be’ odd hi’n mynd mlan biti fe pan odd ei thrad hi o dan fy nhrwyn i - a honco’n dangos pob un dim odd yn bod ernyn nhw. Byswn i’n mynd at y meddyg trad fy hunan, ond ma’n siŵr bo nhw’n codi crocbris - sdim amdeni felly ond diodda a gobitho gwelliff y peth o’i hunan.

1 comentario:

Anónimo dijo...

Haia Ceri. Jyst i ddweud 'mod i wedi newid i flog arall.