viernes, 7 de noviembre de 2008

Jack The Porn Ripper a fforymau trafod


Ethon ni i weld Jack The Porn Ripper yn y Vauxhall Tavern nos Lun a joias i mas draw. Dath y dyn ‘ma ar y llwyfan a thynnu ei ddillad e off nes bo fe’n borcyn a gofyn i’r gynulleidfa mewn acen Bwyleg - Do you want to see me let one rip? - ac wir Dduw iti, dyma fe’n dychra rhechin i’r emyn hwyliog 'When The Saints Go Marching In' tra’n wthu trwmpet fel Louis Armstrong. Fi own i’n pisho m'unan wyrthin ac wedyn fel pièce de résistence, dyma fe’n neud bach o ventriloquy ac yn cal sgwrs â thwll ei din - oedd hyd yn oed yn well. Dyna i gyd odd ei act, ac er bod Rob yn meddwl bod y peth yn hollol puerile – a gira fel ‘ny ma' Rob yn iwso pam ma’n moyn sarhau rhywun ne' rwpath - mae’n well gen i hiwmor y whoopee cushion a’r rhech nag huodledd geiriol rhywun fel Stephen Fry yn gwneud teth mas o’i hunan byth a hefyd - er cystdlad y bo. Melys moes mwy.

Yn anffodus, ifi wedi slofi lawr ar y blogo ond bydda i’n trial posto yn achlysurol. Wi wedi ffindo pethach erill i’m difyrru ar y we erbyn hyn. Wi’n eithaf hoff o’r fforwm drafod ac yn enwedig y rhai sy’n cal eu rhytag gan Americanwyr - o bosib am eu bod nhw mor groendenau ac mae’n rhwydd tynnu arnyn nhw. Dylsa fod cwilydd gen i mewn gwirionadd ond pwy ffwc ots. Dyma un atab netho i roi i ryw Americanwr ar ryw fforwm neu’i gilydd oedd yn gofyn a odd ‘marmots’ i gal yng Nghymru:

I don't know what a marmot is to be honest with you - is it a type of pig; I've never heard anyone talk about them in Wales. I do remember one time though being in Fforest Fach with my girlfriend and this pig-like thing came hurtling towards us and it ran off with my trousers and her knickers in its snout. Do marmots do that - if so, then we've got them, and the sooner someone gets rid of them the better.

Petha bach sy’n plesio dwlbyn fel fi ontefe, ond ifi’n joio. Geso i bach o ffrae ar un fforwm odd yn perthyn i ryw fudiad Efengylaidd yn yr Unol Daleithiau. Fforwm drafod oedd hi oedd yn annog 'sexual abstinence' cyn prioti ac yn gofyn i bobol ifanc wishgo’r modrwyon arian ‘ma. Ma’r fwtrw yn reit debyg i’r un odd gin Frodo ond bod ei fwtrw e‘n gweud "One Ring to Rule Them All. One Ring to Find Them. One Ring to Bring Them All and In The Darkness Bind Them." – tra bo eu modrwyon nhwtha’n gweud "God wants you to be holy, so you should keep clear of all sexual sin. Then each of you will control your body and live in holiness and honor." Digon teg - ond own i’n anghytuno â lot ôn nhw’n gweud a phenderfynais i roi fy marn ar y fater a thynnu arnyn nhw ryw dipyn ond dôn nhw ddim yn ei lico fe o gwbwl ac man nhw wedi dileu pob un neges ac ela e- bost ato i’n gweud y byswn i’n mynd i Uffarn ac ifi beidio ag ymuno yn y drafodaeth byth eto. Am bobol groendenau!

Ma’n lladd amser on’d yw hi, ac wi’m yn meddwl ‘bo fi wedi bod yn rhy gas wrthyn nhw. Mae maes-e yn well – nid fi yw’r unig un sy’n wara biti o bryd i’w gilydd ar hwnna, ond ifi’n posto’n gall erbyn hyn ar ôl cal cerydd gin Hedd y llynadd am adael one-liners fel hyn - sydd yn sexist ma'n debyg. Ma’n rhaid bod y cymedrolwyr wedi cal sgwrs amdano i ne’ rwpath - gwath gyda’r cerydd e- bost, fe ddath bagid o bobl i ymweld a’r cofnod blog ‘ma odd’ ar y ddolan ar faes-e. Digwydd ifi ofyn cwestiwn pwy ddwyrnod ar y maes ifi gal gwpod beth oedd trolio a fflamio yn ei olygu ac oddi wrth yr ateb, wi'm cretu bo fi'n neud 'ny, felly mae fy nghydwybod yn glir ac fi alla i gario mlan, ond bydda i'n bihafo ar maes-e - cris croes tan poeth!

Bydda i’n itha bishi dros y Nadolig a’r flwyddyn newydd. Bydda i off yn gwitho gyda Mr Seffton dros y Nadolig ac wedyn, ma’ gen i achos llys ddechrau Ionawr am bido â thalu treth y cyngor a chyda bach o lwc, fi ga i’r opsiwn o fynd i HMP Wandsworth am bythewnos er mwyn gwaredu’r £400 sy arno i iddyn nhw. Gobitho y ca i witho gyda ei fab Hedd ond y llynadd fi ddotas i drawing pin ar ei sedd, ac er bod y peth yn ddoniol iawn pan ishtws e arno fe, aeth y briw yn septig a bu rhaid iddo fe ela diwrnod yn yr Accident and Emergency yn Southampton Infirmary – felly wi’m yn siŵr os bydd e’n moyn gwitho gyda fi eleni, ond gewn ni weld.

3 comentarios:

Anónimo dijo...

Difyr

:D

Hogyn o Rachub dijo...

Croeso'n ôl i flogio, ro'n i'n drist yn meddwl ella dy fod wedi diflannu am byth :(

Cer i Grafu dijo...

Diolch o galon bois.

Wi wedi dysgu rhywbeth newydd heddi - own i'n meddwl boch chi'n bod yn 'sarci' gyda'r symbols 'na fel 'tsa nhw'n golygu rhywbeth fel AS IF!- ond ifi'n diall beth man nhw'n ei feddwl nawr.

Ma pawb arall shord yn casau'r shit fi'n towlu mas ac ifi wedi cal traffarth gyda un o ganghennau merched y wawr yn y cymoedd am ddwyn anfri ar y lle, felly diolch o galon ichi'ch dou unwith 'to

ceri XX