viernes, 14 de noviembre de 2008

Dickhead, Leatherhead, Fu Manchu a'r lesbian cannibals


Bu uffach o rycshwns yn y tŷ nithwr. Odd Xosé wedi bod mas ar griws gida’r bobol o’i waith a dath e nôl yn feddw racs – yn wath nag ifi wedi ei weld e eriod. Odd Pablo a finna’n watsho The Texas Chain Saw Massacre ar y pryd, ond ar ôl gweld y stad odd arno fe, fe ddotson ni fe yn y gwely, rhoi carthan drosto a’r bowlan olchi-lan wth ei ochor ac wedyn mynd nôl i weld y ffilm. Ar ôl biti hannar awr pan odd y ffilm wedi cyrradd y pwynt lle ma’ Leatherhead yn cwrso’r fenyw ‘ma rownd clos y fferm â’r llif- gadwyn yn ei law a ti'n gweld y fenyw stiwpid ‘na'n rytag drost y clawdd yn sgrechin ei thits hi off – dyma Xosé yn cerad yn ei gwsg i mewn i’r 'stafall fyw, tynnu ei bidyn e mas a dychra pisho drost y teledu.

Wel, bois bach - dyma Pablo yn cwnnu lan a dartan fel milgi mewn ras milgwns a dychra gwiddu, tyngu a rheci y tu ôl i gefan Xosé nes bo fynta'n dino o’i drwmgwsg, yn troi rownd ac er ei waetha yn cario mlan i bisho dros Pabliño. Odd Xosé druan ddim yn gwpod lle odd e heb sôn am beth odd e’n ei neud, ond wetyn dyma Pablo yn citsho ym mhopith o fewn ei gyrradd a’u towlu nhw ato fe – oen ni’n lwcus nag odd ffycin chainsaw yn y tŷ.

Wi’n cofio siarad ag
Euronwy un tro biti rwpath tepyg odd wedi dicwdd iddi hi; odd hi yn y gwely gyda’r boi ‘ma o Bencader ac yn y bora bach, dyma fe’n cwnnu lan, agor drws y wardrob a phisho drost ei shŵs Manolo Blahnik. Dyw hi dal ddim yn siarad â’r boi ‘na. Wetws hi wrtho i pe tasa fe wedi pisho dros ei ffrog hi o 'Primark', bydda ‘na ddim cymaint o ots ‘da ddi - ond un shallow fel ‘na fuodd Euronwy ariod. Er hynny, o’nd yw hi’n rhyfadd bod rhai dynon meddw yn neud pethach fel ‘na - dwyt ti byth yn clwad am fenwod yn twtan lawr yn y wardrob i gal pishad ar ôl noson mas ar y tequila – man nhw wastod yn ffindo’r tŷ bach, ots pwy stad sy’ ernyn nhw.

Ta p’un i, ath pablo idd’i ‘stafall e mwn yffach o hwyliau drwg ac bu raid ifi helpu Xosé i glau’r gwa'd odd yn diferu odd’ ar ei dalcan, ei foch a’i wefus ac fi netho i gynnig plastar iddo fe – iddo fe gal ei ddoti fe ar y cwt odd ar ei bidyn. Ar ôl hynny, fe ishton ni i lawr ar y soffa fel ‘tasa ‘na ddim byd wedi digwdd ac fi ddysgas i fe i weud ‘I am a dick-head’ yn Sysnag, ac wedi ‘ny, rhoias i’r Lesbian Cannibals yn y peiriant DVD.

Fi geso i’r ffilm ‘na oddi wrth Fu Manchu * yn yr Asparagus; rwyt ti’n cal wech ffilm am bumpunt ac fi ddewishas i Quantum of Solace, Willy Wonka and the Chocolate Factory, The Texas Chain Saw Massacre, Psycho a Saw (rhannau 4 a 5). Wi’m yn gwpod beth oedd y Lesbian Cannibals yn neud yn eu cenol nhw ond ma''n rhaid bod Fuey wedi drysu. Ma' fe’n treial wpo’r ffilmiau 'fucky fucky' arnon ni drwy’r amsar ac mi ddath hi’n amlwg taw un o’r ffilmiau ‘na oedd y Lesbian Cannibals. Ar glawr y DVD, odd y broliant ‘ma gweud – Watch them eat each other in gory Technicolor – ond dodd dim canibals yn y ffilm o gwbwl – dim ond lesbians wrthi’n joio ‘i hunin. Dechreuws Xose wdu lan hannar ffordd trwy’r ffilm ond effith y cwrw a’i gydwybod odd hwnna. Wi’n cretu taw’r tro nesa daw Fuey i mewn i’r dafarn, fi ‘na i dreial swopo’r ffilm 'na am Psycho 2.

Dyw Pablo a Xosé ddim yn siarad â’i giddil ar hyn o bryd – ne’ a bod yn onast, dyw Pablo ddim yn siarad â Xosé. Ma’ itha cwiddil ar Xosé biti’r holl beth ac er mwyn codi ei galon e, fi wedi gweud wrtho fe i bido â becso a bo fi’n dal yn ffrindia gida fe – er ‘tasa fe wedi pisho arno i, byswn i wedi neud union yr un peth â Pablo.

* Ōl –nodyn:

Y tro diwethaf ifi sôn am
Fu Manchu ar y blog, dyma fi’n cal e-bost gin Mr Fuk Yuu o Bentrefoelas yn gweud na ddylswn i gyfeirio at rywun o ‘China’ fel Fu Manchu. Wi’m yn ei feddwl e’n gas ond ma’ pawb yn yr Asparagus yn ei alw fe’n Fu Manchu ac wi’m yn gwpod beth yw ei enw iawn e ta p’un i. Licswn i bwysleisio bod ‘regulars’ y dafarn yn gymysgedd o bobol o wahaniath lefydd a sdim un o’ nhw’n rhagfarnllyd neu’n hiliol – heblaw am Heroin Mick sydd ddim yn lico pobol o Kingston, Jamaica am ryw reswm ne’i gilydd – ond ei broblam e yw hwnna.

3 comentarios:

Anónimo dijo...

Es normal.

Cer i Grafu dijo...

Claro que si - es la vida si no la movida o viceversa :)

Hogyn o Rachub dijo...

Mae Dad fi'n piso dros y lle pan ddaw o Besda 'di meddwi. Un o atgofion fy mhlentyndod ydi fo'n dod adra o Besda Chrusmas îf a gwneud hynny.

Bellach fi sy'n gyfrifol am ffasiwn bethau. Ma Mam yn teimlo'n anobeithiol.