viernes, 13 de julio de 2007

Parch


Wn i’m be’ oedd yn bod ar Rob neithiwr. Roedd e reit mas o’i natur. Fe gyrhaeddson ni’r clwb ‘ma biti hanner nos a’r lle yn dywyll i gyd, ond pwy oedd wrth y bar ond Andrew ac ifi’n ei nabod e ers sbel. Roedd Rob yn ei napod e hefyd ond down i ddim yn gwpod hynny, ond dyma iti Rob yn gwed wrtho fi yn ddistaw bach – shgwl Ceri, mae’r boi ‘ma yn fud a byddar felly paid ti a chymeryd y ‘piss’.

Own i’n gegrwth ac yn eitha crac a gwed y gwir a gwedes i wrtho fe ‘mod i’n derbyn pawb yn ddi-arwahan, a shwt yn y byd y galle fe feddwl ‘swn i’n gweid rhywbeth mas o’i le - ta p’un i, rown inna a ‘deafy dumbo’ yn ein napod ein gilydd ers sbelyn. Fe aeth Rob yn benwan wedyn a gweid taw nid yn y cymoedd ŷn ni nawr – wn i’m be’ wedes i iddo fe fod fel ‘na, felly etho i off ar ben fy hunan i bwdu a chael mwgyn yn y ‘beer garden’ mas yn y cefn.

Nos Iou oedd hi a dyna pryd mae Fu Manchu yn dod rownd â’i ffilms cefn lori. Own i ddim isha drwgdeimlad rhynto fi a Rob, felly penderfynais i brynu ffilm iddo fe. Wi’n gwpod bod Rob ag eitha diddordeb mewn hanes, ac mae gynto fe lwyth o lyfrau hanes yn ei dy fe, felly fe brynais i gopi o Star Wars – The Phantom Menace iddo fe sy’n adrodd stori gynnar Anakin Skywalker a’i frwydr yn erbyn yr ochr dywyll. Doedd e ddim fel ‘tasa hwnna rhyw lawer at ei ddant e a gwed y gwir, ond fe wnath e ddiolch imi a rhoi cusan ar bob boch.

Fe ofynnws e imi wedyn sut rown i wedi cael gafael ar y ffilm ‘na ac fe wedes i wrtho fe taw Fu Manchu oedd yn eu gwerthu nhw. Pwy yw Fu Manchu? mynte fe - felly dyma fi’n gweid wrtho fe taw Fuey oedd y boi a’r llygaid ‘slitty’ a oedd nawr yn treial gwerthu’r ffilms i’r merched tew y diawl ‘na oedd ar bwys y toiledau lle’r oedd y ‘gays’ i gyd yn hongad mas. Os felly, dyma Rob yn mynd yn hollol benwan ‘to.

Mae’n rhaid taw pwysau gwaith yw e ne’ rywbeth. Sai’n mynd mas ‘dag e ‘to ‘sbo fe'n dechrau parchu pobl ychydig yn well.

No hay comentarios: