viernes, 23 de enero de 2009

Gwaith, fy ffrind newydd a'r goleuni


Dyma fi’n dychra nôl i witho heddi ar ôl hirlwm gwila’r ‘Dolig. Bach o shit yw gwitho ‘to ond ma’ rhaid i ddyn ennill ei ginog. Odd biti 70 o bobol newydd yn dychra nôl ar y gwaith wi’n ei ‘neud ar fysus Llundain ac own i’n gorffod hyfforddi’r fenyw ma o Sri Lanka. Moni yw ei henw hi, ond yn anffodus, fe briotws hi â’r Almaenwr ‘ma - a’i sdeil e oedd Fucher, felly ei henw hi nawr yw Moni Fucher. Wir bois, wi ddim yn neud hyn lan – bysa fe’n jôc rhy rwydd i neud hwnna lan ac ifi wastod wedi ffindo bod mwy o hiwmor mewn bywyd go-iawn nag y galliff unrhyw ddigrifiwr ei greu yn ei ben.

Erbyn amsar cino, odd ei henw hi wedi mynd rownd y depo ac odd pobol yn dychra snigran pan ela hi hibo. Bai fi odd hwnna ac own i’n timlo’n reit flin bo fi wedi gweud wrth bawb, felly fi benderfynas i dreial achub y sefyllfa a chal gair yn ei chlust.

Dyma fi wrthi:

Look here now Moni – I’m Welsh and the Welsh don’t take the piss out of anybody, be they friend or foe, so i’m going to help ‘ew out on this one - change you’re fuckin’ surname fenyw!!

Odd hi ddim yn gwpod am be ffwc own i’n mynd mlan ambwyti fe ar y dechrau, felly bu rhaid ifi egluro wrthi hi wedyn bod Moni yn enw neis iawn, ond bysa rhai pobol yn ei glwad e fel moaney sy’n golygu bod rhywun wrthi’n cintach trw’r amsar. Fi wetas i bod yr enw yn iawn ar ei ben ei hunan a bysa neb yn ei gysylltu fe â rhyw hen gonan – OND - y sdeil odd y broblam a phroblam fawr i’m ffordd i o feddwl. Dyw Moni ddim yn mynd gyda Fucher – wetas i heb flewyn ar dafod. Gofnas i wrthi ddi wedyn beth odd enw’r teulu. Own i’n rhyw hannar gobitho bysa hi’n gwed Lisa a bysa Moni Lisa gida ni wedyn a dyna iti jôc gwael a thwp ond trwy lwc Siffi oedd cyfenw ei theulu.

Odd hi ddim yn lico’r cyfenw Siffi ac yn meddwl bod Fucher yn lot gwell, ond ar ôl fy nghyngor i a chyfyng gyngor ar ran y ddou o’ ni, dyma hi’n penderfynu y bysa hi’n lico cymeryd fy sdeil i - ac felly Mona Jones ma’n moyn cal ei galw yn y gwaith o hyn ymlaen. Wi’n timlo’n eitha emosynol biti hwnna a gwed y gwir. Fi dexstas i bawb yn y gwaith yn gweud taw ‘mond jocan own i biti Moni Fucher a Moni Jones yw ei henw iawn hi ac wi’n credu ‘bod ni wedi cal get away gida’r newid stori mor bellad.

Ma’ Moni ond yma ers mis yn Llundain ac ifi’n timlo bo fi wedi achub ei chroen hi rhag pob sen a sarhad. A gwed y gwir, winna’n timlo witha ‘bo fi'n foi mor ffein yn ei helpu ddi mas fel bo goleuni’r Arglwydd yn shino mas o ‘mhen ôl i.

1 comentario:

Anónimo dijo...

Ti'n ffycin seren Kez.

;)