sábado, 13 de septiembre de 2008

Cadw dy blydi myshrwms


‘Bthdi mish yn ôl, buas i’n watsho rhaglen ddogfen ambiti’r fenyw ‘ma sydd yn y llun wrth ochor y cofnod ‘ma. Lauren Harries yw ei henw hi ond dyn odd hi ar un adeg – James Harries – a dath e i amlygrwydd fel crwtyn bach teip Lord Fauntleroy ar raglen Wogan ‘slawar dydd yn trafod henbethau os gweli di’n dda. Teip o grwt odd e y bysa unrhyw fam yn hwpo gwäell i lan ei chont er mwyn ei ladd e cyn iddo fe ddod mas o’r groth ‘tasa hi’n gwpod fel bysa fe’n troi mas. O ran y ‘sex change’ gas e wedyn, ‘odd y corff newydd ddim ymysg y gwaetha welsad di ond pan ti’n dishgwl ar y gwynab ar ei dop e – rwyt ti’n dychra mynd i fyd y twilight zone. Own i’n pisho ‘munan wyrthin yn watsho’r rhaglen ac er bo fi’n gwpod na ddylswn i wyrthin am ben pobol erill, pwy ffwc ots– wi bell o fod yn wleidyddol gywir ac ifi eriod wedi gweud bo fi. Ta p’un i, fi wna i sôn eto am y ddrycholiath ‘na yn y man.

Yr un noswith, dath Pablo nôl â’r fideo ‘ma o’r ffilm 'Como Agua Para Chocolate’. Stori serch yw hon am Tita De La Garza a Pedro Muzquiz. Mae Tita yn gywan ola’r nyth ac yn ôl hen draddodiad y teulu, mae rhaid iddi hi aros gytra yn ddi-briod a dishgwl ar ôl ei fam hyd nes bo honco’n marw - ac itha hen ast o fenyw yw’r fam gyda llaw. Ma’ Pedro yn galw draw i’r ffermdy er mwyn gofyn caniatâd gin y fam i gal prioti â Tita ond dodd ffyc all o obaith gyda fe ac ma’r fam yn gweud y galliff e brioti Rosaura - y ferch hynaf - ond taw tynged Tita yw gorffod edrych ar ei hôl hi. Ma’ Pedro yn penderfynu prioti Rosaura er ei waetha - ond dim ond am ei fod e’n gwpod y bydd e’n cal byw yn y ffermdy ac yn gallu gweld Tita bob dydd. Yng nghwrs amsar, ma Pablo a Rosaura yn prioti ond ma Pablo yn hen gadno ac ma’ fa’n iwso pobun esgus i bido â chysgu gyda ddi nes bo fe’n rytag mas o esguson ar ôl tri mish. Ei sielffo hi fydd rhaid felly - ond cyn iddo fe gyflawni’r briotas, ma’ fe’n mynd i lawr ar ei bengliniau wrth ochor y gwely a gweud:

Señor, no es por vicio ni por fornicio; si no por dar un hijo a tu servicio.

[Arglwydd, nid yw oherwydd anfoesoldeb neu buteindra ond er mwyn rhoi mab i’th wasanaethu]

Mae’n adrodd gweddi’r Arglwydd wed’ni ac yn gorchuddio corff Rosaura â lliain gwyn sydd â thwll bach yndo er cael mynediad at ei dirgelwch – ac ma’ fe’n neud y busnas.

‘Odd Rosaura ddim mor salw a hynny a down i’m yn diall pam oedd raid iddo fe gwato ei chorff hi â’r llian – odd yr olygfa i weld yn depyg yn fy meddwl i i beth wetws Dic Penwern wrthon ni pan nath e sielffo Mair Lewis a hitha â’i dillad amdeni a balaclafa dros ei phen yn y tai bach ym Mharc yr Arfau flynydda nôl. Dyw e ddim yn rhamantaidd iawn i’m ffordd i o feddwl.

Buson ni’n trafod y peth wetyn ac odd Xosé yn gweud wrtho i taw peth crefyddol oedd e, siwr o fod, a bod hi’n bosib gweld y gwaed ar y lliain ar ôl i’r fenyw golli ei morwyndod – ti’n gallu dangos y llian i’r byd a’r betws wedyn i brofi bod dy wraig yn forwyn, medda fe. Wi’m yn gwpod os odw i’n cretu Xosé - ma’n wilia dwli lot o’r amsar - er buson ni’n gytǔn na fysa peth tebyg byth yn gwitho yng nghefn gwlad Cymru na Galisia; ‘sa ti’n lwcus i ffindo morwyn o fewn pum can milltir i ddyffryn Tywi na Valdevinho; bysa rhaid i’r merched gafflo a doti bach o saws tomato coch arno fe mas o’r satchets ‘na ti’n eu cal am 20 cinog ym McDonalds

Dodd Pedro Muzquiz ddim mor grefyddol â ‘ny ‘chwaith wrth feddwl - gwath odd e’n sielffo Tita yn y sgubor ryw bum munud ar ôl yr olygfa ‘na yn y ffilm, ond ‘na i ddim gweud rhagor rhag sbwylo’r diwadd.

Pan bennodd y ffilm, geson ni bach o barti gyda’r madarch hudol a’r Tequila gas Xosé’n anrheg gin ei frawd yn Santiago de Compostela - ond wi byth yn mynd i neud ‘ny ‘to. Fi grashas i mas erbyn diwadd a dychra breuddwydo taw fi oedd Pedro Muzquiz ac ar ôl rhoi Barry White ar y CD, dyco fi’n mynd yn freuddwydiol hapus am y twll yn y llian oedd yn cwato corff Rosaura De La Garza. Wedi bennu’r busnas, dyma fi’n ishta yn y gadar ar bwys y gwely, cynnu ffag a sawru’r foment. Dyco fi’n edrych i’r dde yn fy mherlewyg wedyn ac odd Rosaura yn dychra cwnnu lan ond pan slipodd y llian off ei chorff – pwy oedd o dano fe ond y ffycin Lauren Harries ‘na. Fi ddinas i‘n reit siarp yn wŷs shwps a dychra sgrechin. Y peth nesa wi’n cofio odd Xosé yn slapo ‘ngwynab i a Pablo wrthi’n shiglo fi’n ffyrnig.

Ryw dridiau wedyn, bwcas i le yn y Priory am fis ar gynllun ‘detox’ a dyna pam wi heb flogo ers sbelan. Ma’n lle eitha da ac i fan‘co ma’ lot o celebrities yn mynd – ti jwst yn bifhafo dy hunan, cal bach o seicotherapi a byta lot o betha shit ac wedyn yn cal enema diwadd wthnos. A bod yn onest, bu bron ifi ffindo Iesu Grist a dychra darllin y Beibl ond un o side effects yr enema odd hwnna ac own i'n iawn o fewn cwpwl o ddyddia. O ran y celebrities, dim ond Kerry Katona own i’n napod a dim ond am ei bod hi‘n hysbysebu Icelands bob munud pan wt ti’n watsho 'I’m a Celebritiy - Get Me Out Of Here'. Wi’m yn cretu taw cyffuriau odd ei phroblem hi ‘chwaith; mae hi’n byta gormod o’r shit ‘na yn Iceland – odd hi’n edrych fel fersiwn dew o Dawn French. Bysa’n well iddi gatw off y bwyd a stico at y drygs. Ta p’un i, wi’m yn byta stwff Iceland ac ifi’n catw off y cyffuriau ac yn enwedig y blydi myshrwms 'na. A gwed y gwir, wi’n timlo’n lot gwell nawr - bron â bod yn normal.

No hay comentarios: