sábado, 28 de febrero de 2009

Troeon gwaith, Geoff a 'rehab'.



Own i’n gwitho shifft nos nithwr – nos Wenar odd hi ‘ed – ond wi ddim yn mynd i gonan. A gwed y gwir, buo i’n conan shwt gymid bo fi’n gwitho shiffts cynnar, fel nag oes troed gen i sefyll arno. At hynny, ma’n well gen i witho shifft hwyr, er bod hi'n ffwcan dy nos Wenar lan wetyn – sydd wastod wedi bod yn noson barti yn fy niwylliant i.

Hannar o hyn a ‘annar o’r nall yw shiffts bora a noswith. Os bydda i’n gwitho shifft gynnar, sdim bowyd gen i yn ystod yr wthnos am bo fi’n cwnnu’n gynnar biti 3 y bora a bennu biti 5 yr hwyr. Bydda i’n gorffod mynd i’r gwely ar ôl cyrradd yn dre er mwyn cwnnu am 3 y bora - y bora wedyn. Ti gei di shiffts noswith wetyn a bydda inna’n cal cysgu digon cyn gorffod ail-ddechrau yn yr hwyr - ac witha, fi gaf i noson mas – ond y drwg yw bo fi’n colli sesiwn ifad nos Wenar pan fo pawb arall wrthi.

Buo i’n gwitho gida Geoff nithwr. Artist yw e sy’n creu darlunia fel Picasso ne wn i’m pwy – fi heb weld ei stwff, ond ma stiwdio ginto fe yn ei fflat, felly ma’n rhaid bo fe’n dda yn ei waith am bo fe’n ennill arian wrth wyrthu’r darlunia hyn, twel. Gwitho gida ni yw e am bo fe’n moyn cwrdda phobol, cymdeithasu fel, ac wrth gwrs, ma’n helpu talu’r morgais ryw dipyn.

Boi posh yw Geoff o gefndir cyfoethog – fe wetws hwnnw wrtho i pan ethon ni am beint wedi’r gwaith, ond own i’n rhyw ama hynny pan wetws e bo fe wedi bod mwn rehab am flwyddyn. Wedi’r cwbwl pwy all ffwrdo hwnna ond pobol o linach ne’ arian.

Fi geso gyfla i ofyn iddo fe pam rehab, ac ma’n depyg taw alcohol yn fwy na drygs fu ei broblam - ac a gwed y gwir, own i’n meddwl hynny am bod drygs adloniadol yn dshepach nag alcohol, ac nid tir y cyfoethog ŷn nhw o bell ffordd erbyn hyn- y drygs - ond fel y gwetws e wrtho i, ma’ cymysgu’r ddou yn rysait reit beryg a pho fwya o arian sy ‘da ti, mwya o gyfla i gal lot o’ nhw a chymysgu’r ddou.

Ma' Geoff off i Baris y penwthnos hyn ac ma’n dod nôl ddydd Sul – ‘co ti posh; wi’n gorffod safo lan i fynd i Brighton ym mish Gorffenaf am benwthnos - 'co ti mor glawd odw i. Dyw bywyd ddim yn deg ond o leiaf, fuas i ariod yn rehab am flwyddyn – amall i ddwyrnod, ond nid blwyddyn!

No hay comentarios: