jueves, 29 de noviembre de 2007

Gweithio bant - Euronwy Cocwyllt


Wi’n ddigon bodlon fy myd erbyn hyn; fe ddaeth Euronwy Cocwyllt i newid lle gyda Seisyllt ab Wmffre. Bydd e’n mynd i weithio ar stondin yn Ballymena a bydd Cocwyllt yn dod gyda fi i weithio ym Manceinion. Wi’n lico Cocwyllt, mae’n gwneud ifi wyrthin; rŷn ni ar yr un donfedd. Pan glyws hi enw Seisyllt, dyma hi’n gofyn yn syth a oedd e’n perthyn i Ffrwchnedd ab Horwth. Roedd yr olwg ar wyneb Mr ab Wmffre yn glasur.

Mae Cocwyllt a’i ffrind Hannah Hwren yn enwog yn y broydd Cymraeg. Nellie a Jerry mae fy mrawd yn eu galw nhw ar ôl ‘Nellie the elephant’ a’r llygoden ‘na mae Tom wrthi’n cwrso trwy’r amser. Mae hwnna’n ddisgrifiad digon teg o’r ddwy o’enyn nhw sbo. Fe wnaeth rhyw fardd neu’i gilydd englyn digri amdenyn nhw un tro ar y rhaglen radio ‘na ‘Talwrn y Beirdd’ ond wi’n ffilu’n lân â chofio fel roedd e’n mynd; bydd rhaid ifi ofyn i Hedd Hambôn i weld os yw e’n cofio.

Mae Hannah Hwren mor fach fel y bysa hi’n cwmpo i lawr y toiled ‘tasa hi ddim yn dala’r ochrau. Mae strabs Pencader yn cael hwyl am ei phen hi ac yn gweid bod hanner hwren yn well na dim – sy’n eitha ffraeth greda i. Wi’n napod Cocwyllt yn well wrth gwrs a dyna iti haden. Mae straeon yn frith amdeni yn Sir Gaerfyrddin a chyffiniau Cwm Tawe. Mae ‘na un arbennig o ddi-chwaeth amdeni ddi, Rhodri Penlan, pelen ping-pong a ‘Mars bar’ ond af i ddim i fanylion. Mae Cocwyllt yn gweid wrtho i taw nid ‘Mars bar’ ond ‘Milky Way’ oedd e a bod Rhodri Penlan yn hen ‘shithead’ am weid wrth bawb, felly taw piau hi.

Roedd hi’n arfadd carco plant Mrs Shadwick ‘Brynoernant’ pan oedden nhw’n fach a ‘sdim syndod eu bod nhw wedi troi mas fel maen nhw. Mae Esyllt - yr ifanca - o dan orchymyn ASBO ac wedi cael ei gwahardd rhag mynd o fewn pum milltir i wersyll yr Urdd yn Llangrannog. Mae Eluned wedi diflannu oddi ar wyneb y ddaear ac mae Sioned yn gweithio fel ‘pole dancer’ yn yr Emporium yn Noc Penfro. Mae Siân wedyn - yr hynaf - yn HMP Pucklechurch ym Mryste am ladd Mrs Morgan ‘Tŷ Capel’ wrth dreial baco’r car nôl i mewn i’r garej ar ôl noson mas ar yr ‘alcopops’ yng Nghastell Newydd Emlyn.

Nid un i gadw pethau iddi hi ei hun yw Cocwyllt a buws hi’n gweid wrtho i ddoe ei bod hi a’i sboner Gaz wedi ymuno â grwp o ‘swingers’ sydd yn cyfarfod pob pythewnos yn hen gapel Bethania ar bwys Pentrecagal. Mae’r Sais ‘ma - Mr Pinkleton - wedi prynu’r capel a’i droi’n rhyw fath o ‘sex dungeon’ i gyplau sy’n lico rhannu profiadau â chyplau eraill. Yn ôl Cocwyllt mae ‘na bâr priod reit barchus o’r ardal yn mynd yno – wna i mo’u henwi nhw ond mae’r gŵr wedi bod yn westai ar ‘Beti a’i Phobl’ ar fwy nag un achlysur.

Wi heb gwrdd â’i sboner Gaz ond wi’n cymryd os yw e’n debyg i Gocwyllt na fysa fe’n gallu mynd ar gefn ceffyl heb ei ladd e. Mae hi’n dal i wara rownd cofia; dim ond ers dou ddiwrnod mae hi yma ac yn barod mae hi wedi copo off â’r boi ‘ma sy’n gweithio yn ‘Shoe Zone'. Daeth hi i mewn i’r stondin y bore ‘ma wedi pinco lan er mwyn cwrdd ag e heno; mae hi’n edrych fel Miss Whiplash ar asid a bod yn onest. Wi wedi gofyn iddi beidio â chysgu gyda fe ombai ‘bo fe’n gallu smyglo pâr o ‘Doc Martins’ seis 11’s mas o’r siop ifi. Mae hi bown o gysgu ‘da fe ond fe gewn ni weld os caf i bâr o sgitsha mas o’r uniad.

Buws hi wrthi trwy’r prynhawn yn siarad am y boi ‘na o ‘Shoe Zone’. Becso mae hi na fydd ‘na ddigon i swmpo yn ei ddillad isa. Roedd hi wedi darllen yn ‘Womans Own’ am y dyn ‘ma â ‘micro penis’ ac mae’n gweid taw un fel ‘na sy’ gan Rhodri Penlan, ac mor anodd oedd hi i gael y maen i’r wal gyda fe. Wi’n credu ‘bod hi jwst yn gweid ‘na i gael dial arno fe ar ôl be’ wedws e amdeni hi a’r Mars bar. Fe wetas i wrthi hi nad oedd seis yn bwysig ond dyna hi wedyn yn awgrymu y dyliwn i dreial gweid hwnna wrth eliffant. Bwyd ar blât imi oedd hwnna ac fe ofynnais i iddi – “Odi seis yn bwysig iti te, Nellie? – a rhedeg o’ na nerth fy nhraed bach.

No hay comentarios: