domingo, 18 de enero de 2009

Paxo, Nigella a Betsan


Un o’m hoff raglenni teledu yw University Challenge. Wi ddim yn ei gwylio hi ar y teledu, cofia, ne’ bysa rhaid ifi dalu am y liswns. A gwed y gwir, wi’n watsho pob ffycin dim sy’n dod off y teli ar y we erbyn hyn. Mae pethach i gal fel youtube, ac fe gei di U4D, BBCiPlayer ac S4/Clit lle ti’n pwsho’r botwm iawn ac yn cal gweld pob un dim rhaglen y dwyrnod wedyn. Fi alla i aros dwyrnod heb becso os fi’n safo dros ganpunt y flwyddyn – dim probs.

Nage blog gwleidyddol yw hwn, ond pan ti’n gallu cal cant a mil o sianeli teledu o’r byd pen penbaladr - pam ddiawl bo rhaid i ddyn dalu am ddwy sianal y BBC a thitha’n gallu gweld bron popith sydd arnyn nhw y dwyrnod wedyn. Pe bai angan, ma' ddi’n bosib ifi a phawb arall watsho rhaglenni’n fyw ar y BBC gida Zatoo ar y we. Rwyf inna’n folon aros ‘sbo’r dwyrnod wedyn, ombai bod gin Nigella ryw raglen biti cwcan mlan - dim ond wedyn byswn i’n folon risgo bod y ffycars yn galw hibo.

At hynny, ‘sdim signal yn dod off gliniadur oes e, felly ŵ i ddim yn gwpod shwt y gallan nhw ddala neb ‘tasan nhw’n digwdd watsho pob un dim yn fyw. Wi’n cal llythyron off y bobol liswns o Fryste bron pob pythewnos yn gwed bod dim liswns yn y fflat a’u bod nhw yn y cyffiniau yn tsheco lan ar bobol. Dyw’r ffycars ddim yn rhoi 'stamp adressed envelope' gida’r rhybudd, felly wi’m yn mynd i dalu ffortiwn ar stamp er mwyn gweud wrthon nhw bod dim teli ‘da fi. Wi’n eu gweld nhw’n bobol ddi-gywilydd y jawl – os ti’n lico gwishgo siwmper binc, dyw hwnna ddim yn golygu bo ti’n gay ac os nag oes teledu yn dy dŷ, fflat ne’ ble bynnag, dyw hwnna ddim yn gweud bo ti’n clatsho bant wrth watsho Nigella ar y BBC yn fyw! Innocent before proved guilty – dyna’r gyfrith yn Lloegar ontefe – ac ma ‘nghydwybod i’n glir!

Ifi’n parchu’r gyfrith i ryw radda ac yr unig dro ifi dorri’r gyfraith a chal fy nal odd pan own i’n gweithredu gida bois yr iaith yn ystod ymgyrch y Sianel pan ath criw o’ ni rownd pentrefi Cwm Tawe a Chwm Gwendraeth yn rhybuddio pawb bod fan liswns y teledu y tu ôl inni ac i bawb wrthod talu y drwydded ne’ ddylsan nhw droi’u televisions nhw off gloi. Fi benderfynas i taw fy rhan i o‘r ymgyrch ddyla fod i annog plant Cefn Parc Eithin i shoto brics at y fan teledu pan ela fe hibo. Cheso i ddim cyfla i annog plant Gwaun Cae Gurwen i neud yr un peth am i’r heddlu fy nghadw i o dan glo hyd nes bo nhw’n mynd â fi o flan ynadon Abertawe. Mas law, fi bennas i lan miwn carchar cadw ar gyfar troseddwyr ifainc ym Mrynbuga yng Ngwent o bob man. Y peth sy’n agor crachan gen i cofia, yw’r ffaith na cheso i ddim un llythyr o gefnogath off y Gymdeithas pan own i yno; dim ond llythyr swyddogol ar bapur A4 yn fy niarddel i o Gymdeithas yr iaith am byth – y ffycin rebels dosbarth canol ishda ag ŷn nhw!

Ta p’un i, wi’n crwydro nawr ac yn ranto o bosib. Wi’n lico University Challenge am fod y boi ‘na sy’n ei wneud e yn treial acto fel ‘bo fe mor wybodus. Paxman yw ei enw e, ac ma’n ela fi i wyrthin. Alliff unrhyw ffycar fod yn wybodus os yw e’n cal yr atebion mlan llaw. Fi’n siŵr bo fe’n neud bach o ymchwil extra ar wicepedia cyn bod y rhaglen ar yr awyr ac yn nodi rhai ffeithiau yn y gobaith y bydd rhai cystadleuwyr yn gwed rwpath twp fel ‘bo fe gallu dod drosto yn ddeallus y jawl a bod yn sarci wrthyn nhw. Fi’n lico neud ‘ny ar fforyma trafod wrth ymatab i rywun ond ‘swn i byth yn ei 'neud e miwn pub quiz ne rwpath ffurfiol fel University Challenge, ac mae Betsan Powys yn boleit iawn yr un fath a fi - hyd yn oed wrth yr idiots mwya twp ar y Mastermind Cymru ‘na.

Dyma Paxo wrthi pwy noswith:

Jeremy Paxman (cwisfeistr): Starter for ten -who gained the title of Empress of India in 1877 by declaration of the House of Commons?
Coleg yr Iesu, Rhydychen:
Elton John
Jeremy Paxman (cwisfeistr):
ELTON JOHN!! – for godness sake, she was born in the 1950’s. I despair Jesus College. The correct answer is Victoria, Queen of England, who was a rampant hetrosexual filly who liked dressing in black, - nothing like Elton John!!

Ma’ angan gras witha – on’d o’s e?

6 comentarios:

Hogyn o Rachub dijo...

Anghytunaf. Mae rhywun yn gwisgo pinc yn bendant yn gê. 'Blaw am genod.

Cer i Grafu dijo...

Pych! Pinc yw pinc -sim byd gay biti'r lliw. Odd Dumbo'r eliffant yn binc ac dyw hwnna ddim yn gweud bo fe'n gay :)

Hogyn o Rachub dijo...

Roedd Dymbo'n gê - ffaith! :)

y prysgodyn dijo...

pinc - lliw Bazooka, Hubba Bubba a fy mhenbiws. Cyd-ddigwyddiad? Ei thinc not...

Anónimo dijo...

Mae gwisgo pinc yn eitha gay, ond nid cweit mor gay â gwrando ar Coldplay.

Anónimo dijo...

Mae'n eithaf reassuring fod wancyrs fel ti yn mynd i fod yn extinct mewn 50 years am fy mod sensible pobol fel fi wedi mynd i fyw yn Lloegr, a fydd 'miscegenation' [look it up, ie..] yn achos i'r Cymry farw allan..

Be fydd Dafydd Iwan yn canu pryd hynny ??