viernes, 30 de enero de 2009

Fi, Fabien y Ffrancwr a'r Bwytawyr Angau


Own i wedi cyffroi drwyddoi ddydd Merchar dwetha; fe ath fy ffrind Fabien a finna i gofrestru gidag un o’r casting agencies ‘ma. Man nhw’n dychra ffilmo rhanna o 'Harry Potter and the Deathly Hallows' i lawr ‘ma yn Llundain ac oen nhw’n moyn casto cwpwl o Death Eaters ar gyfar y ffilm. Yn goron ar y cwbwl, gwetws y fenyw asiant ‘ma bod lleoliad yr ysgol Hogwarts i lan yn yr Alban a bysa cyfla inni ela cwpwl o ddyddia yno mewn gwesty pum seren. Own i ar ben fy nigon a’m calon yn curo. Cymerws y fenyw asiant ffroenuchal ‘ma ein mesuriadau ni a thynnu cwpwl o luniau ohonon ni o bob un ochor, ac wetyn bu rhaid ifi a Fabien aros ryw ychydig pan odd hi’n cal sgwrs gida un o big knobs y ffilm.

Yn anffodus, trows y cyffro yn siom pan nath hi gynnig rhan i Fabien a’m gwrthod i am bod fy nhrwyn i’n rhy fawr i wara un o’r Death Eaters. Own i’n tampan ac yn rhyw ama bysa hi’n dewish Fabien ond odd mwy nag un rhan Death Eater i gal a dyw fy nhrwyn i ddim mor fawr â ‘ny. Y peth yw - odd hi'n ffansio Fabien ac yn fflyrtan gidag e byth a hefyd. Odd hi’n gwed bod tŷ haf gida ddi yn Languedoc Roussillon a rhows hi gynnig ar siarad Ffrangeg ag e hefyd wrth weud – tu es parfait pour un Death Eater. Er fy ngwaetha, fi dorras i ar ei thraws hi a gwed bod nhw’n cal eu galw’n mangeurs de mort yn Ffrangeg, ond ath hwnna dddim i lawr yn rhy dda - ac ath petha’n wath ar ôl hynny.

Own i’m yn lico’r fenyw o’r funud gynta welas i ddi, a bod yn onasd, ond fi drias i fod yn neis wrthi. Own i’n dadla’n rhesymol am gwartar awr bod gin yr actor sy’n wara Severus Snape drwyn lot fwy na m’un i, ac odd e’n un o’r prif Death Eaters yn y ffilm, a phan na withws hwnna, wetas i bod y Death Eaters bron i gyd yn gwishgo ffycin masgia a bod cwcwll drost eu penna nhw ta p’un i. Ei hatab hi i hwnna odd na fysa’r masg yn ffito drost fy nhrwyn i ac heb y masg bysa ‘nhrwyn i’n towlu cysgodion dros y lle i gyd. ‘Sneb ariod wedi siarad â fi fel ‘ny o’r blan ac ath petha o ddrwg i wath pan nath hi sefyll lan y tu ôl i’r ddesg a gweud:

Look, don’t beg! Have you seen Lord Voldemort’s nose? It looks as if someone’s slammed the door on it, but your nose looks like you’re related to a probiscus monkey. He just wouldn’t want you in his gang. If anything suitable comes up, I’ll let you know – perhaps they’ll remake Cyrano de Bergerac one day and I’ll give you a ring.

Am hen ast o ffycin fenyw anghwrtais a digywilydd. Rown i wir wedi cal hen hen ddigon o’ eni ddi erbyn ‘ny - a dyma fi’n cwnnu lan a mynd tshag ati ddi y tu ôl y ddesg a gweud bod fy nhrwyn i’n lot rhy fach i wara Cyrano de Bergerac sy’n fwy na alliff neb weud am seis ei chont hi ac iddi roi ei Death Eaters i lan ei thin. Fi droias i rownd wetyn a cherad mas o ‘na a slamo’r drws yn glatsh y tu ôl ifi.

Af i ddim i weld y ffilm ‘na nawr pan ddaw e mas neu bydda i jwst yn meddwl am y cyfla coll. Buas i’n extra un tro ar ‘C’mon Midffild’ ond dyw hwnna ddim yr un peth. Geso i’r job ‘na am bod Llion odd yn wara George yn un o’m ffrindia gora i- ond dim ond esgus watsho ffwtbol ar ryw ga pêl-droed own i’n gorffod neud ac odd y rhan fwya o drigolion Sgubor Goch â rhan extra yndo hefyd a byddi di’n lwcus i ‘ngweld i am bod y ffycars ‘na yn benderfynol o gal eu gweld ar y teli ar draul pawb arall. Dim ond £10 dalson nhw ifi ‘ed a ti’n cal £250 am Harry Potter. Ma’n wir yn y byd ffilmia ‘ma taw matar o bwy ti’n napod yw hi ombai bod y person sy’n casto yn moyn copan off ‘da ti.

Wi’n timlo’n drist ‘bo fi heb gal wara un o’r Death Eaters cofia – galsa hwnnw fod wedi bod yn gam cyntaf at fod yn un o sêr Hollywood. Mae’r siom yn dod â geiria Marlon Brando i’r cof pan oedd e’n acto miwn ryw ffilm ne’i gilydd – I could've been a contender. I could have been somebody …

Bu raid ifi aros biti awr y tu fas i’r swyddfa wedyn ‘sbo Fabien yn dod mas. Ma' fe’n gwed bo fe’n mynd at y tîm cynhyrchu ddydd Merchar nesa er mwyn cal ei wishgo ar gyfar y rhan. Ma’r ast wedi cynnig rhan iddo fe fel labrwr o wlad Pwyl ar ryw gyfres Ashes to Ashes hefyd ac ma’n cal ffilmo hwnna ddydd Llun. Wi ariod wedi clwad am y gyfres ‘na ond fi alswn i fod wedi wara labrwr Pwylaidd – walla na ddylswn i fod wedi colli fy nhymer i mor gloi gida’r hen fitsh. Er hynny, wi’n falch bod Fabien wedi cal gwaith mas o’nhw; sdim lot o Saeson yn lico’r Ffrancod, felly mae’n neis - iddo fe - bod un o’nhw’n ei ffansïo fe. Gwetas i wrtho fe ar y ffordd sha thre y dylsa fe dreial cal i miwn idd’i nicars hi a walla gela fe ran yn y ffilm Batman nesa - ac own i’n gallu gweld wrth y wên ar ei wynab ‘bo fe’n ystyried y peth. Hei lwc iddo fe – weta i.

3 comentarios:

Anónimo dijo...

Ah wel. Mae'r ffilm yn bownd i fod yn shit eniwê.

Cer i Grafu dijo...

Hebtho i yndi ddi wrth gwrs! ond daw dydd ryw ddydd pan fydda i'n serennu dros bob un ffycar o Hollywood - gan gynnwys Harry ffycin Potter gobitho :)

Hogyn o Rachub dijo...

Fysa chdi'n labrwr Pwylaidd iawn, mae gynnon nhw i gyd drwyna mowr 'fyd...


;)