viernes, 28 de noviembre de 2008

O gath i gath


Rŷn ni’n cal cyfarfodydd o bryd i’w gilydd er mwyn trafod rheola’r fflat – ma’r tri o’ni’n ffrindia ers sbel nawr ac byddwn ni’n mynd mas, sniffan amall i gyffur a smoco un arall, stryman gitar, cal jôc a chwpwl o beints o flan y teli a mynd i weld y stripper a’r digrifwr yn y Labour Club acha bora dydd Sul – dyna be’ 'newn ni, union yr un fath â phawb arall - ond bid a fo am hwnna, un dwyrnod y mish, rŷn ni’n esgus trafod a dadla fel pobol wahanol a diarth - a phob un o’ni ‘n cal y cyfla i ddweud ei ddweud - pob un â’i gyfla i roi’r gyllath yn y nall am ryw gamwedd ne' i gilydd.

A gwed y gwir, dim ond Pablo sy’n dod â’i gyllath e mas a dychra cintach a lladd ar bawb - rŷn ni’n dou jwst yn gatal i’r byd fynd yn ei flan yr un fath ag arfar. Ma’ fe itha constant - rhaid gweud - ac ma’ wastod fagad o gwynion yn ei ben. Wi’n cretu bo fe’n itha anal os gweta i galon y gwir – ma’n lico bod popith yn deidi a phob dim yn ei le. Ma’i fam e’r un peth a phan mae hi’n dod i aros, ma’ ddi fel cal y ddwy fenyw lanhau Kim & Aggie off y teli o gwmpas y tŷ. Un tro, rown i’n darllin y llifir Martha, Sianco a rhyw ffycar arall gin ryw awdures hambon o Geredigion pan gwmpws briwshon off y Jacob’s Creamcrakers ‘rown i’n byta ar y pryd a lando ar dop pen y gath; dyma’r gath wedyn yn shiglo ei phen a gatal i’r briwshon gwmpo ar y carpad o’i blan hi. Bai’r ffycin gath odd hwnna ond ath e’n apeshit a’i fam e’n dychra twt twtan a mynd yn syth am y blydi dwstpan a brwsh. Dyw hi ddim yn rhwydd byw ‘dag e – weta i ‘ny wrthot ti nawr.

Yn y cyfarfod diwetha geson ni, dyma fe off yn conan eto byth bo fi’n siafo yn y bath ac yn gatal y blewach rownd yr ochra. Wi wedi treial gwed 'tho fe taw’r sgrwff sy’n clasgu yn fy mola botwm yw e – ond dyw e ddim yn derbyn ‘ny. Wi’m yn gwpod beth sy’n bod ar y crwt – odi fe'n moyn ifi gatw bant o'r bath a dychra drewi fel Mr Edwards 'Ty Capel'; ma’ pobol salw y diawl yn cerad ar hyd strydoedd Battersea pob dydd a ti byth yn ‘y nghlwad i’n conan amdenyn nhw ac yn gweud wrthyn nhw i gatw off y stryd - a dyw bach o flewach yn y bath yn neud dim drwg i neb, ond un fel ‘ny yw e ac wedi bod ariod.

Bythewnos yn ôl, dath e â ffycin cath i’r tŷ a nath e ddim trafod hwnna gyda ni. Geson ni warad o un gath ddychra’r flwyddyn am ‘bod hi shwt ffwdan ac nawr ma’ fe wedi dod ag un arall i’r tŷ. Odd e wedi gialw’r llall yn Julietta ac ma’ fe wedi penderfynu taw Minina yw enw hon – sy’n golygu pwsi yn y Gastilaneg (cath fach - rog ofan bo rhywun yn camddeall). Am enw ffycin stiwpid i roi ar gath ond mae unrhyw enw yn wast amsar - dŷn nhw ddim fel cŵn. Y ffycin mwnci wi’n ei galw ddi am i bod hi’n tringad dros bob man, ac ma’ Xose yn ei galw ddi’n Mixela sy’n air am bidyn yn yr Alisieg – wn i’m pam, ‘sdim un ‘da ddi. Daw hi at ei bwyd yn y gegin os fi’n bwrw fforc yn erbyn plât, ond fi allai i alw Minina, Mixela ne’ ffycin mwnci arni sbo’r Nadolig yn pasho ac ni ddaw hi ddim.

Ma’n depyg bod Pablo yn gweld collad rwpath i weidddu arno nad yw’n ei atab e nôl. Gobeitho na chaiff e byth blant – ne’ byddan nhw’n rytag bant gyntad sylweddolan nhw pwy mor anal yw e. Wrth gwrs am ‘bo fi ddim yn lico catha – ma' catha yn lico fi ac alla i ddim cal gwarad o’r ffycars. Ma' Minina yn lico dod i lan ar y soffa wrth ym ochor i pan ifi ar y compiwtar ac yn moyn ishta ar y llygotan. Bydda i’n gorffod citsho yn ei gwar, ei chwnnu hi lan a ‘i doti ‘ddi ar y llawr, ond ma’ ddi’n meddwl bo fi’n wara gêm ac yn dod nôl trw’r amsar; byswn i’n gorffod neud hyn trw’r ffycin dydd ‘taswn i ddim yn citsho yndi yn y diwadd, rytag dŵr oer y bath a’i thowlu ddi yn yr ‘effin dŵr – dyna’r unig ffordd mae’n diall bod y gêm ar ben. Bydd Pablo yn meddwl taw ei blew hi yw fy mlew i yn y bath nawr, siwr o fod - ond fe alliff e fynd i grafu.

Ffordd arall o gal ei gwarad hi yw trwy weiddu Psssssssssss arni ac ma’n cymeryd y bawan yn reit gloi wetyn ac off â hi - ond ma’n dueddol o fynd yn gas, fflyffan ei chot a'i chwt hi mas, dychra hisan fel cobra a threial ‘y nghrafu i cyn nido off y soffa. Bydd hi mor ewn wedi'ni, ac bydd hi'n dishgwl arno i’n fygythiol o’r llawr tra’n hisan, felly ma’n well da fi esgus bo fi’n dal i wara cyn ei thowlu ddi miwn i’r bath. Chredi di fyth y swn sy'n dychra dod mas o waelod ei chorff pan ma' ddi yn y bath - ma' ddi'n swno'n depyg i Linda Blair yn 'The Exorcist' - really spooky! Yn well byth a help mawr, ifi newydd ffindo mas am lavender air freshner o Boots (£0.99 ar gynnig) ac ma’ hwnnw’n neud sŵn Pssssssssssss wrth wasgu'r peth bach 'na ar y top - a welid di mo’r gath am oriau ar ôl ifi wistrellu hwnna drosti. Ffycin gwd fuddsodiad odd hwnna.

1 comentario:

Anónimo dijo...
Este comentario ha sido eliminado por el autor.