sábado, 3 de enero de 2009

'Loads of money', ei golli a 'shadenfreude'


Loes calon yw’r wasgfa ariannol, ontefe. Ots ‘da fi am y ‘city types’ bondigrybwyll sydd wrthi’n colli popith. Ma’ rhyw deimlad o schadenfreude yn dod drosto i biti nhw. 'Ha ha' - ac eto 'ha ha' chwetyn. Ots gen i eu gweld nhw'n canu'n iach idd'u harian nhw, ac ma' rhyw ffycar yndo i yn eitha joio'r peth. Dyma odd eu cytgan nhw - loads of money a da gen i ganu nol iddyn nhw - but not any more you fuckers!
.
Er hynny, pan fo rwpath fel ‘ny yn cyrradd lawr gwlad, winna’n itha pissed off – rhaid gweud. Digwdd ifi byrnu dou stêc tshop yn Somerfield ddo’, ac er mor anodd ei chredu, fe ddath y bil i £5.75. Own i’n arfadd eu cal nhw ar y slei am £1.50 gin Avril yn yr Asparagus yn Battersea Park Road, ond oddi ar i Somerfied ddoti’r petha metal ar y pacad sy’n achosi i’r drysa sgrechin biiiiiip wrth fynd mas, ma’ Avril erbyn hyn ond yn gwyrthu tymatos, bylbs garlleg a winwns yn y dafarn. A gwed y gwir, rŷn ni’n lwcus i gal tun o ‘Princes Tuna in Light Mayonaisse’ off hi nawr ac ifi’n gwrthod yn lân a chymryd y pethach disgownt daw hi i miwn â nhw o bryd i’w gilydd. Man nhw’n tshep a sdim ffrils biti nhw, ac er bod pobol dlawd yn dueddol o fyta unrhyw shit - nace fi yn, weta i 'ny 'thot ti nawr; ma gen i bach mwy o class na ‘ny.

Wi’n cefnogi busnesau lleol i’r eithaf, cofia - ond ombai bod Avril yn dychra twgyd a gwyrthu pethach gwell nag amall i dun o ‘Spagetti Meat balls’ o Lidls – ma’n flin ‘da fi, ond nag w i'n mynd idd’i chefnogi ddi ragor. Ma’ unrhyw bygar yn gallu twgyd o Lidls – ma’r gwt 'co le ti'n talu yn rhy hir ac man nhw’n talu cynlleiad i’r staff fel nag os ffyc all o ots ‘da nhw pwy sy’n cerad mas gida eu Girabaldi biscuits ne’ beth bynnag.

Ma’ Fu Manchu yn dilyn yr un llwybr. Yn lle cal fideos teidi – ma’n fe’n gwyrthu’r ‘sgreeners’ ‘ma lle ti’n clwad pob un ffycar swnllyd yn ystod y ffilm ac ma’ hannar y ffilms yn Mandarin Chinese ta p’un i. Bysat ti’n meddwl ‘sa fe’n ddigon call i ishta ar ei ben ei hunan yn bell o’r slobs ‘na i gal ail-ffilmo’r peth yn iawn - ond ma’r credit crunch yn effeithio ar bawb ac dyw e ddim yn gallu ffwrdo’r seddi gora nawr.

Wn i ddim be ‘na i gida'r wasgfa ariannol 'ma. Walla af i nol i glau’r toilets yn Peking pan fo’r twristiaid yn frith dros y lle – dyna’r unig job sefydlog geso i ariod – gewn ni weld.

3 comentarios:

Anónimo dijo...

Dwi heb ymweld â dy flog ers amser maith, a rŵan rhaid gofyn i fy hun sut yffach anghofiais i ble i gael chwarthiad da pan oes angen.
Bwyddyn newydd hapus!

Cer i Grafu dijo...

Blwyddyn newydd hapus iti hefyd ansicr. Own i'n drist bot ti wedi rhoi'r gora i flogio, ond braf gen i weld bo ti wedi ail-gydio yndi.

Cerixx

y prysgodyn dijo...

ia, blwyddyn newydd ddai ti Ceri!

Chwerthin yn braf wrth ddarllen hwn. Atgoffa fi o'r Cwm (tafarn) ym Mlaenau Ffestiniog erstalwm. Yr hogia'n piciad dros ffordd i Spar ac yn dod nol efo llwyth o stêcs a sosejis a becyn, ac yn cwcio'r cwbwl ar raw ar y tân!