jueves, 1 de enero de 2009

Pinna bach a netwyddi mawr a'r anaf atchwipio


Bach yn broblematig odd ‘Dolig a’r Flwyddyn Newydd eleni, ac er bo fi’n dueddol o mysdyn coes amall i stori, dim ond y gwir a’r gwir yn unig yw’r hanas ‘ma. Dyma fi’n bennu lan ryw dridiau cyn y ‘Dolig yn yr Accident & Emergency yn 'Ysbyty Westminster and Chelsea' ar ôl cal pin bach yn fy mys bawd. Digwddws ifi dreial wpo drawing pin miwn i’r pren ‘ma a nath y cylch uwch ei ben e sleido lawr ac ath y pin i mewn i’r bys bawd a reit lan at yr ewin. Nath e ddychra neud dolur ar ôl biti wthnos pan drows y briw yn felyn, felly etho i at yr A&E a ‘nath y ffycars fy nghadw i miwn dros y Nadolig a thynnu hannar fy ewin i off.

Fi’n siwr ifi gal mwy o netwyddi mawr yn ‘y nghorff i na’r un ffycin jynci dros yr ŵyl, ac o bob un 'effin hunllef, dyma fi wedyn i ar ward gida wech o bobl henach na hen, a rhai lot henach na Methusalah. Odd un o’nhw’n 97 o’d ac odd e’n gofyn i’r nyrs bob un cynnig gela fe a odd e’n mynd i farw ne’ bido. Byswn i wedi gwed y gwir wrtho fe, ond odd y nyrs yn reit wlanan ac yn gwed wrtho fe i bido â bod mor dwp a bod pawb yno i wella o ran ysbryd a chorff. Er ei geiria o gysur, fe ddath yr Arglwydd ar ei ol ar yr ail ddiwrnod ifi fod yno, ac fi enillas bum punt off yr hen foi yn y gwely wrth ym ochor i a odd wedi beto fi na fysa fe’n mynd at ei ddiwadd tan fora Nadolig fan leia.
.
Wi’m yn gwpod pam nag yw pobl yn fy nghredu i; ma’ gen i drwyn am y pethach hyn. Odd e’n amlwg bo fe ar ei ffordd mas. Y tro cynta ifi ei weld e, odd e’n cysgu a’i geg ar agor fel pysgodyn mas o’r fish tank, ac own i’n meddwl bo fe wedi ei phego hi y noson honno a bod yn onasd. Gwetas i wrth y nyrs a odd yn rhoi fi ar y blydi drip ganol nos y bysa hi’n syniad da ei roi e yn y capal gorffwys cyn bo fe’n dychra smelo, ond odd hi’n gwrthod gryndo arno i.

Ta p’un i, er bo fi wedi ennill y bet, ‘netho i ddim cymryd pum punt off yr hen foi, ond fi geso i ei gerdyn teledu odd â £1.30 o gredyd arno fe ifi gal ei wpo fe yn y teli uwchben fy ngwely i. Own i’n difaru wetyn bo fi heb gymryd y pum punt gwath ath y teli off hannar ffordd trwy 'Mary Poppins' ac odd rhaid ifi wara pocer gida fe i ennill dicon o arian i weld 'The Charlotte Church Nutcracking Christmas Special' ar noswyl Nadolig. Wi’n cretu bod hi’n ffycin rip-off bod rhaid iti dalu i watsho’r teli yn yr ysbyty ac er bod ti’n cal bwyd am ddim, mae’n itha shit.

Own i’n mynd i fynd nôl at y teulu dros y Nadolig ac own i wedi addo y byswn i’n gyrru lan i ganu deuawd gida Morfudd yn nathliadau’r Plygain yn y capal ‘ma ym Mhencader ar bwys Dolgrân – ond ath hwnna i gyd lan y sbowt. Dyw bowyd ddim yn wara mas fel dylsa hi witha, ond fi geso i gyfla i fynd nôl gytra y dydd llun cyn Nos Galan.

Odd hi’n grêt gweld y teulu a phopith ond ath petha o with gytra ‘efyd – nid gida’r tilu ond gida Eddie, fy ffrind gora a’i war Sali nag ŵ i’n lico ryw lawar. Fi wetas i y byswn i’n galw draw idd’i helpu nhw i gal y gadar olwynion electronig brynson nhw mas o'r fan a dros y ffens ac i mewn i'r cartra yn Glyncorrwg Drive er mwyn idd'u mam nhw Barbara gal galifanto yndi rownd y lolfa a'r gegin. Wi wastod yn eu helpu nhw mas fel 'ny, ond own i’n byw hannar fy mywyd gytra yn eu tŷ nhw pan own i'n grwt ac man nhw fel ail deulu ifi, er bod Barbara wedi mynd bach yn dwlali erbyn hyn ac yn meddwl taw fi yw’r Pacistani sy’n byw drws nesa.

Ta pu’n i, llwyddson ni gal y gatar ‘na miwn a chal Barbara i ishta'n gyffwrdus yndi ar ol i Sali ei bwgwth hi a'r harn smwddo. Man nhw'n depyg i'r ceir bach 'na y ma’r grannies yn gyrru rownd canolfannau siopa yndyn nhw, ac yn bethach eitha handi, a gwed y gwir - ond edrych bant ‘nethon ni am eiliad yn unig, a nath y blydi fenyw wpo rhyw fotwm arni a dyma’r ffycin cadar yn baco nôl a mynd yn syth i miwn i’r peiriant golchi gan dorri’r drws a gatal i'r dŵr brwnt i gyd rytag mas drost y parth. Yn wath byth, fe gas Barbara anaf whiplash iddi hi ei hunan a bu raid inni fynd i’r ‘sbyty gida ddi. Odd y lle’n bedlam - ‘nath Sali roi’r goler a odd rownd gwddwg y ci am wddwg Barbara ac off â ni yn y fan. Wetas i wrth Sali bod y goler ‘na i fod i stopid y ci rog llio ei ben ôl ‘i hunan ond odd hi’n bendant bysa fe’n helpu’r whiplash - ond odd hi’n uffach o rwystr idd’i chal hi miwn i’r fan 'ta’r goler na arni ddi ...

Noson arall yn yr Accident and Emergency fuodd hi wedyn, ac a gwed y gwir, wi’m yn gwpod pam odd rhaid ifi fynd, ond ma’ Barbara yn trwsto Mr Patel drws nesa yn fwy na’i mab a’i merch ‘i hunan – dyw ei phen hi ddim yn iawn druan. Ar ôl biti wech awr yn yr ysbyty, dyma ni’n cal mynd o ‘na a Barbara’n gorffod gwishgo un o’r pethach na odd gida’r nyrs ‘na rownd ei gwddwg hi ar ôl i Jack Nicholson dreial ei thagu ‘ddi yn y ffilm ‘na ‘bthdi’r nytars yn yr ysbyty meddwl yn America ne’ rywla.

Dydd Calan yw hi nawr – tynnu at 6 y bora - ac wi’n sgrifennu hyn yn nhŷ Barbara, ac ma’ Eddie a finna wedi agor potal o fodca ac ma’ Sali wedi ei gwân hi diolch byth. Trwy lwc, dyw Eddie ddim yn cal ifad ne aiff e’n wylld – ma’ clefyd y siwgir arno ne’ rwpath – felly, ma fe’n cal y dŵr tonig ac wi jwst yn mynd i ifad y fodca sbo fi’n anghofio popith biti’r dyddia diwetha ‘ma.

5 comentarios:

Anónimo dijo...

This is my first post I'd like to congratulate you for such a great made forum!
thought this is a perfect way to make my first post!

Sincerely,
Johnie Maverick
if you're ever bored check out my site!
[url=http://www.partyopedia.com/articles/diego-party-supplies.html]diego Party Supplies[/url].

Anónimo dijo...

[url=http://www.pi7.ru/foto/1519-neobychnye-foto-prikoly-17-foto.html ]Самая суперская тушь для редких коротких ресниц [/url]
Уехала из Москвы 5,5 лет назад. За это время приезжала в Москву некоторое количество раз, но на пару дней. Мой ветхий паспорт уже недействителен некоторое количество лет. Надо бы заняться заменой паспорта, да все нет вполне вероятности вырваться в Москву надолго. У меня вопрос к тем, кто в курсе. Я буду в Москве скоро, но всего 4 рабочих дня (буду дольше, но выходные и дни прилета-отъезда нет смысла считать). Стоит ли даже связываться с процедурой замены внутреннего российского паспорта на новый? Есть ли в данный момент услуга ускоренного обмена с доплатой за срочность? Я бы, естесственно, могла действовать по привычной мне схеме (подарки, материальное вознаграждение в карман), но я немного отстала от жизни в столице. Может, меня за такие воздействия привлекут к ответственности? Хотелось бы, естесственно, действовать официально

Anónimo dijo...

I fool read a few of the articles on your website trendy, and I unqualifiedly like your style of blogging. I added it to my favorites web stage muster and resolve be checking assist soon. Please repress out my site as approvingly and leave to me conscious what you think. Thanks.

Anónimo dijo...

Ӏ alωays emaileԁ this blog post page
to all my aѕsociates, becauѕe if liκe to гead it next my contacts will tοо.


Look into my wеblog; using a bucket truck
Feel free to surf my web page ... bucket truck safety

Anónimo dijo...

Hmm іs аnyone else hаvіng ρroblems with thе pictureѕ on this blοg loadіng?
I'm trying to find out if its a problem on my end or if it's the blog.
Any feed-bacκ would be greatly appreciated.


Feel free to visіt my ωеb page; bucket trucks
Here is my homepage bucket trucks