domingo, 3 de agosto de 2008

O’r closèt yn ‘Crud yr Awel’ i Battersea a Soho Square



Pwy benwthnos, dyma Tomos Gerwyn Williams yn bwrw drws rhif 55, St George Mansions a gofyn noddfa gyda fi – fe yw fy mab bedydd.

Mab i Siriol a Deiniol yw e - ac mae Deiniol a finna’n ffrindia gora ers dyddia plentyndod. Roedd fy mam i a Ruth - ei fam e - yn ffrindiau bora oes, ac am i’r ddou ohonon ni ddod i miwn i’r byd ar yr un amsar, bu i’r ddou o’ ni gal ein bwydo ar detha’r naill fam a’r nall yn ysbyty Llwyn-y-Gelli. Dyna pam mae’r ddou ohonon ni hyd heddi yn gallu cymysgu ein diodydd heb deimlo’n dost. ‘Sdim lot o ffrindiau bora oes â’r teip ‘na o gadwyn ac does bosibl i neb ei thorri hi. Dyna pam mae Deiniol ishta brawd ifi - a’r rheswm pam bo fi’n digwdd bod yn dad bedydd i Tomos Gerwyn.

Daeth TomGer i lawr i Lundain am i uffach o storom gorddi yn ‘Crud yr Awel’ – eu cartref nhw - a bu i TomGer rytag off a lando fan hyn. Yr hanas yw i’r dwlbyn ddod mas yn gay ryw dridiau ar ôl ei ben-blwydd yn ddeunaw oed. Rown i’n gwpod ei fod e’n dwlu ar The Sound of Music, Cabaret, Oklahoma a The Texas Chain Saw Massacre ond down i ddim yn meddwl bod y sefylla mor ddifrifol â hwnna, ond fel ‘na mae - fel 'na mae pethau’n digwdd, ontefe. Mae dyn yn dychra off yn smoco Silk Cut ac wetyn ma’ fe’n bennu off yn smoco Canabis ac yn meddwl am wpo nedwyddi yn ei fraich cyn bo ti'n troi rownd.

Yn anffodus, bu ei dad e’n mynd trwy mid life crisis a’i fam e’n ffarwelio â’r misglwyf - amseru gwael iawn; doedd yr un na’r llall o' enyn nhw yn eu hiawn bwyll ac doedd dishgwl i’r un na’r llall o' nhw siarad sens. Fe gyrhaeddson nhw i lawr yma o fewn dou ddwyrnod i TomGer lando yma ac ‘yfi oedd yn gorffod bod yn ‘go-between’ rhyddon nhw wedyn – gwae fi! Own i’n ffilu diall nag adwaith Seiriol na Deiniol. Dim ond llynadd buws y tri o’ni yn ‘civil wedding’ Bedwyr a Cledwyn a phob un ohonon ni’n dala un o’r ‘sparklers’ ‘na rwyt ti ti ei gal adeg noson Guto Ffowc - a thowlu reis drost eu pennau nhw pan ddethon nhw mas o’r Swyddfa Gofrestru yng Nghaerdydd. Ma’n depyg taw ffilu ymdopi â’r peth yn eu hiard gefan nhw eu hunain oeddan nhw.

Hyd heddi, ifi’n dal heb ddeall pam nath Deiniol adweithio mor wael a pham nag odd e’n gallu gweld ei dwpdra a’i ragrith. Mae Deiniol yn foi ffein ei wala ac wi’m yn folon i neb weud dim yn ei erbyn e. Wthgwrs, rwyf inna’n gallu gweud petha cas amdano fe, ond os dechreuiff rhywun arall arno fe – mae ‘na ffycin rycsiwns i gal ac ifi fel yr Incredible Hulk yn ymosod ernyn nhw.

Fe setlws pethach i lawr yn y diwadd; er rhaid gweud taw hawsach o lawar odd catw’r ddisgil yn wastod rhwnt Siriol a TomGer. Fi wetas i wrthi na fysa byth raid iddi orffod cystadlu â’r un ferch am gariad ei mab ac odd hi’n reit hapus biti hwnna - ond Deiniol oedd y broblam, er syndod i bawb, a fynta’n dueddol o fynd mlan a mlan ambwyti ei ‘credentials’ rhyddfrydol.

Wedi tridiau yn y fflat ac angan newid ar yr awyrgylch, fe ethon ni i gyd i mas ar y prynhawn dydd Satwn ac rown i’n cico fy hunan am gynnig Soho fel lle i fynd. Digwydd bod taw’r penwythnos 'na oedd penwythnos Gay Pride, er, 'in hindsight' - roedd y seins na i gyd; doedd ‘na’r un plentyn i’w weld yn cerad ar hyd strydoedd Llundain ac roedd yr anifeiliaid anwes i gyd i weld fod wedi eu cloi lan ac roedd cymylau duon yn ymestyn dros y ddinas i gyd.

Wrth gyrraedd Soho wedyn a diall beth odd yn mynd mlan, gofnas i i Pablo fynd ar ysgwyddau Xosé er mwyn gweld o bell lle’r oedd y gays mwyaf ‘flamboyant’ a llwyddson ni i osgoi'r rheinco trwy lwc, ac roedd Deiniol i weld yn ddigon hapus pan ffindson ni’n giddyl yng nghenol y gays ‘na sy’n lico gwisgoedd milwrol ac heb ddim byd 'camp' yn eu cylch nhw – ac fe geson ni gwpwl o gans o Strongbow a Stella Artois yn Soho Square ac wi ddim yn credu ‘odd Deiniol wedi sylwi beth oedd yn mynd mlan o'i gwmpas - diolch byth.

No hay comentarios: