viernes, 8 de febrero de 2008

y Brydferth a'r Bwystfil


Bu’r cymdogion yn conan am y sŵn pwy noswaith; fe wpon nhw lythyr drwy’r blwch yn y bora yn gofyn a fysan ni’n gallu cadw’r miwsig i lawr am bo’ nhw’n pallu cysgu. Ethon nhw mlan i weid bod clywed Tina Turner (bai fi) a Monica Naranjo (bai Pablo) drosodd a throsodd yn ormod iddyn nhw. Fe enwon nhw Tina Turner ond bu iddyn nhw gyfeirio at Monica fel rhyw ‘Spanish rubbish’. Roedd Xosé am fynd drws nesa a rhoi pryd o dafod iddyn nhw ond mae’n well gen i gadw’r ddysgl yn wastad, felly fe elson ni Pablo draw i weid wrthyn nhw na nelan ni ‘mo fe eto. Mae Pablo yn depyg i gorrach ac yn dishgwl biti deg mlwydd oed ac fi wetas i wrtho fe i esgus bod yn fyddar hefyd er mwyn codi cywilydd arnyn nhw.

Wi erioed wedi cwrdd â’r cymdogion hyn; wi’n napod Mr Wilderbeast, Herr Schneider a’r teulu o Fietnam neu Tsheina ne’ rywla ffor ‘na yn ein coridor ni ond ifi erioed wedi cael pip ar y bobl union drws nesaf. Roedd Pablo yn meddwl taw Saeson ôn nhw ar ôl galw draw, ond sdim lot o Saeson ar ôl yn Llundain a bysa hi’n rhyfedd tasa’r ychydig rai yn digwdd byw drws nesa inni. Ma’n depyg taw Awstraliaid ne Wyddelod ŷn nhw ond does wbod i sicrwydd o le maen nhw’n dod os yn ni’n gorffod dibynnu ar Pablo; roedd e’n meddwl ar y dechra bo fi’n dod o’r Eidal am fy mod i’n canu siarad - medda fe – felly pwy a ŵyr.

Y rheswm am y sŵn ‘sbo oriau mân y bora oedd bod Marisa wedi mynd o’r diwadd ac fe geson ni barti bach i ddathlu. Un o Galisia yw hi ac mae hi’n rhyw fath o napod Xosé trwy ei gysylltiadau fe a’r blaid genedlaethol yno. Pythewnos buws hi yma y tro hyn sydd yn eitha gwelliant ar y tri mis buws hi yma y tro diwethaf ar ôl gweid ei bod hi’n dod am wthnos. Dyna pam wi heb flogio ers sbelen; fi wnetho i adael iddi hi iwso’r gliniadur er mwyn rhoi taw ar ei siarad. Doedd fawr o awydd blogio arno i pan oedd hi yma; a gwed y gwir, doedd fawr o ewyllys gen i i fyw chwaith ar ôl gryndo ar ei chlebar di-baid - ond fi’n teimlo’n well nawr. Mae’n depyg i rywun yn dod mas o 'coma' am a’r wn i

Heno, ma’ petha nôl i normal ac rŷn ni’n mynd mas i dŷ Enrique er mwyn dathlu ei ben-blwydd. Fe ddylai fod yn noson dda ond gewn ni weld. Wi’n lico Enrique ond ma’n foi rhyfedd; mae’n gwerthu persawr drud ar y stondin ‘ma ym maes awyr Heathrow ond dyw e byth yn dod â dim byd am ddim inni, felly ‘sdim pwynt iti ddechra haglo prisiau gyda fe os ti’n paso heibio ar dy wyliau i rywla – chei di ddim byd. Dyw e erioed wedi prynu peint nôl i’r un o’n ni chwaith, wrth feddwl.

Mae ginto fe’r cymhlethdod ‘ma wedyn ei fod e’n salw ac ma’n gofyn dy farn di byth a hefyd – ody hyn yn fy siwto i, ody fy ngwallt i’n edrych yn iawn, ody fy nghlustiau i’n rhy fawr - a chwestiynau tebyg trw’r amser. Dyw e ddim y peth perta yn y byd ond wetswn i ddim ei fod e’n salw salw. Dyw Pablo fawr o help yn gweid calon y gwir wrtho fe ond un di-flewyn ar dafod a gonest ei farn fuws e erioed. Wi’n well na Pablo ac ifi wedi gweid wrth Enrique sawl gwaith i feddwl am yr holl bobl salw ‘nath briodi rhywun pert ofnadw fel Marilyn Monroe a’r dramodydd Arthur Miller neu’r Tywysog Siarl a Diana. Ar ddiwedd y dydd, nid fel ti’n edrych sy’n bwysig ac wrth ddod i napod rhywun mae’r cariad yn egino os oes 'na gysylltiad yno, ots pwy mor salw wyt ti – nid bod hwnna’n ffyc all o gysur os wyt ti jwst isha shelffad ar ddiwedd noson mas, ac ifi’n credu taw dyna yw problem Enrique.

No hay comentarios: