lunes, 21 de enero de 2008

Y fynwent, Pink Floyd a'r Wizard of Oz


Aeth Sandra a finna mas am bryd o fwyd brynhawn ddoe yn Earls Court. Gwitho yn La Cage mae Sandra ac mae Román yn dod nol i weithio ddydd llun, felly mae fy nghyfnod i yno ar ben. Mae dydd Sul yn ddiwrnod eithaf ‘shit’ ac felly fe benderfynson ni gal pryd a diodyn bach gyda’n gilydd i ddymuno au revoir a chodi calon ein gilydd damid bach.

Gwneud gradd yn Seicoleg yn Kings College mae Sandra ac yn puteinio ei hunan dair gwaith yr wthnos yn La Cage er mwyn cal dau ben llinyn ynghyd. Mae’n gweid wrtho i bod y profiad yn ei helpu hi i ddeall seicoleg pobol wahanol hefyd - sy’n bwynt digon teg.

Mae rhywrai yn lico dodi pobol mewn bocsys a bysan nhw heb amheuaeth yn lico iddi hi ffito i mewn i focs y butain ond rhan fach iawn iawn o’i bywyd hi yw’r puteinio ‘ma a rwpath dros dro yw hi, er cystlad ma’n talu. Mae’n gas gen i bobol y bocso ‘ma - rwyt ditha’n strab a hitha’n swil, ‘gay’ yw un a ‘straight’ yw’r llall, parchus yw Siân ac amharchus yw Siôn; ond dyna yw natur dyn er mor gyfeiliornus y bo’r bocso ar gyfer pob un o’enyn nhw.

‘Mond wthnos rŷn ni’n napod ein gilydd ond gyda rhai pobol – dyw amser ddim yn bwysig. Oen ni’n tynnu mlan o’r funud gwrddson ni a chyda’r teimlad o napod ein giddyl erioed. Gyda phobol eraill, chei di byth mo'r teimlad hwnnw er eu napod nhw ers blynydda. Mae’n bosib na welan ni fawr ddim o’n gilydd byth eto; y fath na o le yw Llundain – cyfeillgarwch dros dro nes bod rhywun yn codi pac a diflannu am byth ond bydda i’n ei chofio hi am amser hir.

Ar ôl bwyd ac ambell i ddiodyn, fe ethon ni nôl i fflat Sandra ac wedi inni fynd i mewn i’r fflat, dyma hi’n fy nghyflwyno i i record Pink Floyd - The Dark Side Of The Moon – a syncroneiddio’r sŵn i’r ffilm The Wizard of Oz. Ma’n depyg bod hyn yn enwog a phawb yn gwpod amdano, ond own i erioed wedi clwad am shwt beth. Efallai bod y 'ganja' yn help i’r peth swno a theimlo fel perthynas nefolaidd ac fe gei di glwad a theimlo drostot ti dy hunan os cei di o hyd iddi ar YouTube - fi geso i drafferth i wneud y ddolen; simo i mor glyfar ag ifi'n meddwl 'bo fi ond m
ae erthygl yn Wikipedia amdano yma.

Buodd y 'ganja', y miwsig a’r ffilm yn creu byd arall ac fel mae bywyd ei hunan yn troi a throelli, fe ddechreuson ni garu – wn i’m pam digwyddws hwnna ond dyna a fu ac roedd hi’n brofiad – ei chorff hi fel felfad a’r parch tuag at ein gilydd yn creu’r orgasm o’r mwyaf. ‘Moments’ sy’n gwneud bywyd ac wi’n ddiolchgar am y foment honno gyda hi, y dyn tun, y llew llwfwr, y bwgan brain a Dorothy - ffycin brilliant!

Gadewais i biti naw o‘r gloch y noswaith honno ac wrth gerdded ar hyd y stryd, sylwais i bod y fynwent ar agor ac mae cerad trw’r fynwent yn tynnu o leiaf tri chwarter awr off fy siwrna sha thre. Cwartar awr mae’n cymryd i gyrraedd y pen arall sy’n arwain at Fulham Road ond mae’r ‘gays’ yn lico criwso yn y fynwent ‘ma ac yn y tywyllwch, fe gei di gip ar ambell i gysgod a dyn yn paso heibio neu’n ymddangos o nunlle. ‘Sdim ots gen i be’ wnaiff neb am gal bach o ryw ond wir Dduw iti, own i bron â lladd un boi nath neidio o’r tu ôl i un garreg fedd a gwneud ifi gachu llond fy nhrwser.

Pan gyrhaeddais i’r ochor arall roedd y ffycin clwydi ar gau ac maen nhw’n uchel iawn. Diolch i Dduw, own i wedi bod ar y ganja ne fyswn i byth wedi mentro dringad drostyn nhw. Trwy lwc, fe nath y boi’ ma oedd yn paso heibio ar yr ochr arall fy helpu fi i lawr; fi wnetho i roi un droed ar ei ysgwydd a llwyddo cael fy ngheilliau dros y ‘spike’ ar dop y glwyd – wara teg iddo fe. Gofnws e imi wedyn a own i wedi bod yn criwso gyda’r ‘gays’ – mae’r lle yn fwy enwog am hwnna nag own i’n ei feddwl. Pobol yw pobol ifi ac a gwed y gwir, fi wna i wara fel ma'r awydd yn dod ond gwetas i'r gwir go iawn - taw dim ond cymryd ‘short cut’ own i a newydd fod yn caru i The Wizard of Oz a ‘Pink Floyd’ gyda'r wejan 'ma - fy ffrind - wrth gymryd ambell i wthad o ganga i greu awyrgylch. Yn rhyfedd ddigon, roedd e’n gyfarwdd â’r ‘scenario’ hwnnw.

Wi bach yn rhy ddiniwed, greda i - pawb arall yn gwpod am y petha 'ma ond yfi - ond mae’n rhyfedd fel bo ti’n gallu cwrdda’r bobol neisa yn y byd yn y sefyllfaoedd mwyaf od – mae’n codi dy ffydd di mewn pobol a dyw Llundain ddim y lle gora am hwnna..

1 comentario:

Anónimo dijo...

gwych