lunes, 18 de febrero de 2008

Gwaith, gyrfa, bysys Llundain a'r Bwyles



Mae gen i wythnos off gwaith nawr. Gweithio i ‘London Transport’ odw i ar gytundebau byr trwy’r amser. Bob tro ma’r ysgolion ar eu gwyliau, ‘sdim gwaith gen i ‘chwaith. Yn wahanol i athrawon, simo fi’n cal fy nhalu yn ystod y gwylia ‘ma ond ma’n well gen i dorri’r brethyn ar gyfer y cyfnodau hynny na gweithio pob dydd o'r flwyddyn. Mae’n rhoi rhyddid ifi, ac os ifi’n moyn mynd off i rywla am fis ne’ flwyddyn a gwneud petha eraill - ifi’n gwpod y galla i wastod ddychwelyd at y ffald.

Dyw e fawr o job ond ifi’n fawr o weithiwr chwaith. Mae’n rhaid eu bod nhw’n fy lico i; maen nhw’n diswyddo pobol newydd bob yn eilddydd, ond ifi a rhyw ddeg arall yn dal yno, a hwnna ers sawl blwyddyn erbyn hyn. Fi ddetho i mas o groth mam â’r bwriad o joio m’unan; fi wnetho i’n o lew yn yr ysgol a mynd i brifysgol Aberystwyth a dod mas â gradd yn fy mhoc er mawr syndod ifi a phawb - ond o ran gyrfa; doedd hwnna erioed ar y gorwel. Gweithio fan hyn, fan draw odw i er mwyn byw, nid byw er mwyn gweithio; bydda i’n ffyced pan ddaw dydd y pensiwn ond wi’m yn dishgwl byw mor hirad a hynna.

Wi wedi cal jobs teidi mewn swyddfeydd ac yn y blaen ond mae meddwl am fynd i mewn i’r un offis pob dydd a gweld yr un un bobl, malu awyr am yr un un petha a phydru yn y fan a’r lle yn codi cyfog arno i. Fydda i byth yn gyfoethog ond o leiaf wi’n hapus ac ma’ hwnna yn bwysicach na dim ifi – ma’ bywyd yn rhy fyr i fratu amsar.

Ma’r gwaith ifi’n ei wneud nawr yn golygu mynd acha bysys Llundain – i lan ac i lawr ar daith y bws a rhoi holiaduron mas. Gwitho mewn tîm o ddou ŷn ni, un yn rhoi holiadur mas a’r llall yn ei gasglu i mewn – un ar y drws ffrynt a’r llall ar y drws cefan; yn depyg i George Michael a'r boi arall 'na yn y grwp 'Wham' 'slawar dydd. Gweithio gyda rhywun gwahanol pob dydd odw i a dyna be’ wi’n lico biti’r jobyn. Weithiau, rwyt ti’n cal rêl coc oen ond wedyn fe elli di gal gweithio gyda rhywun difyr y diawl. Wi wedi gweithio gyda phobl o bob rhan o’r byd - a dau Sais wi’n credu. Wi’n lico cwrdda phobol wahanol, o lefydd gwahanol, o wledydd gwahanol a chei di fyth mo hwnna mewn offis. A gwed y gwir, ma’r job hyn yn fy siwtio i i’r dim.

Ddydd Merchar diwethaf, own i’n gweithio gyda Bogna Wojciech o wlad Pwyl. Menyw ffein y diawl yw hi ac fe ddetho i i werthfawrogi ei diwylliant hi a hitha i werthfawrogi diwylliant Cymru. Gwetws hi wrtho i ei bod hi a’i sponar yn mynd ar eu gwyliau i Fetws y Coed yn yr haf ac felly fi ddysgas i iddi hi weid – dos i ffwcio dy nain. Er bo’ fi’n dod o’r De, ifi’n gwpod shwt fath o regi sy ‘da nhw yn y Gogledd ‘na; buas i’n byw yng nghyffiniau Caernarfon am sawl blwyddyn ac er na fyswn i ddim yn siarad fel ‘na – rhydd i bawb ei lafar - wi ddim yn gogoffobig o gwbwl.

Dysgws Bogna imi ddweud odpierdol się, świnio sy’n golygu ffyc off y mochyn. Wnath hi ddysgu imi cześć hefyd sy’n golygu 'shwmae' a hynny os wyt ti’n cyfarch ffrind iti. Wi’m yn napod bron neb o Wlad Pwyl, felly fydd cześć yn ffyc all o iws ifi ond mae’n gas gen i’r Pwyliaid sy’n treial wpo o flaen y gwt i fynd i mewn i’r clwb ar Nos Satwn, felly fe ddaw odpierdol się, świnio yn handi iawn, greda i.

No hay comentarios: