miércoles, 20 de febrero de 2008

Losin y Diafol


Wi’n mynd i ddychra rhoi’r gora i ysmygu heddi. Torri i lawr y bydda i yn y lle cyntaf. Mae gen i garton o ‘Ducados’ yn y ddrâr ac fi wnaf i gael un o’r rhain bob hyn a hyn. Tabaco du o Sbaen yw’r ffags hyn ac yn wir iti, maen nhw’n gryf y diawl; bydda i’n dychra siarad ‘fatha Marlon Brando yn ‘The Godfather’ ar ôl dou fwgyn a ‘mhen i’n powndo fel ‘taswn i wedi bod yn dawnso yn y clwb nos â photelaid o ‘poppers’ wedi stwffo i lan fy nhrwyn. Fe ddylan nhw fy helpu i i dorri lawr ond gewn ni weld.

Ma’n depyg y gelli di gal y patshys ‘na am ddim ar yr NHS ond ma'n anodd cael gafael ar feddyg i lawr fan hyn a sai’n mynd i bonsan rownd y lle yn treial cal gafael ar un. Wi wedi cal y llyfryn ‘ma o’r llyfrgell sydd i fod i’th helpu di i roi lan, ond dyw petha ddim yn edrych yn addawol iawn. Mae ‘na holiadur yndo fe sydd yn gofyn nifer o gwestiynau iti; un o’ nhw yw pam wyt ti’n moyn rhoi lan ond ifi ddim a gwed y gwir – y gost yw e; maen nhw’n mynd yn ddrutach bob dydd. ‘Taswn i’n byw yn Sbaen, byswn i’n cario mlan; maen nhw’n reit tshep yn ‘fan’na. Mae ‘na ddarn arall i lanw i mewn sy’n gofyn iti pryd wyt ti’n dueddol o smoco ac yn cynnig rhestr fer iti fel – wyt ti’n smoco ar ôl bwyd neu a wyt ti'n smoco wrth ddarllen papur newydd bla bla bla - ac wedyn mae’n nhw’n gweid wrthot ti i dreial newid dy arferion. Wel, sai’n mynd i stopo byta – bysa hwnna’n stiwpid ac a bod yn onest, wi’n smoco ym mhob un sefyllfa maen nhw’n sôn amdeni a lot rhagor hefyd, felly heblaw am fynd i’r carchar ne'’r ysbyty am fis, bydda i’n ei chael hi’n anodd iawn.

Mae ‘na rifau ffôn ar gael i siarad â rhywun ‘tasa’r temptasiwn yn mynd yn drech na thi; rhywpath tepyg i’r Samariaid ‘sbo. Y drafferth yw bod ffono a smoco yn mynd law yn llaw gen i hefyd a wir Dduw iti, wi ddim isha siarad â rhyw dwat hunangyfiawn ffuantus yn gweid wrtho i shwt i fyw fy mywyd newydd di-fwg – fi alla i fynd i’r capal os wi’n moyn siarad â rhywun fel ‘na.

Wi wedi cyfrif lan y pwyntiau am fy atebion ar yr holiadur ac ifi yn y cwmpas 0-5 a’r cyngor wyt ti’n ei gal yn y cwmpas hwnnw yw nad wyt ti’n barod i roi lan eto. Doedd hwnna ffyc all o iws – beth yw’r pwynt rhoi sbrag yn yr olwyn cyn dechrau. Wi wedi towlu’r llyfryn bant nawr; fi wna i dreial ei wneud e ar fy mhen fy hunan.

Y peth sy’n fy mhoeni i fwyaf yw bod pobol yn gallu mynd yn anniddig a diflas wrth bennu smoco ac wi’n gallu bod yn eitha anniddig ar y gora; wi ddim isha mynd yn wath. Buas i’n gweid y drefn wrth y fenyw ‘ma yn y lifft bora ddoe; wi’n dueddol o gael ‘rant’ ar bawb yn y lifft sy yn ei iwso fe i fynd i unrhyw lawr sy’n is na’r chweched lle’r ifi’n byw. Roedd hon ond yn mynd at y llawr cyntaf ac ma’ hwnna ond yn golygu rhyw ddeg stepan ‘tasa hi’n cerdded i lan y grisiau. ‘Sdim syndod bod pobol yn ffycin dew y dyddia hyn a dyna be' wetas i wrthi. Os oes pobl yn iwso’r lifft ‘na ac yn stopid ar bob un llawr cyn y chweched, fi alla i fod yno am ffycin ugain munud. Bydd rhaid ifi ysgrifennu at y cyngor biti hwnna – mae’n warth o beth!

Wi’n credu y bydd hi’n well ifi gerdded lan y staera o hyn mlan ac osgoi’r lifft ne’ bydda i’n cal clatshan gin rywun os af i ar gefan fy ngheffyl gwyn wrth dorri lawr ar y ffags - a'r lifft yw'r lle mwya tebygol ifi ddychra brygowthan.

4 comentarios:

Linda dijo...

Lwc dda i ti ....mae o'n bosibl !

Cer i Grafu dijo...

Diolch iti Linda; haws dweud na gwneud ond dyfal donc amdeni sbo.

Anónimo dijo...

While surfing on the Net I found your blog, I stopped at it to have a rest and I explored it. There is interesting stuff displayed. Now I continue my surfing…
Make a stop at my blog, if you wish. Ciao.

Cer i Grafu dijo...

Grazie Gian - it's obvious you're not Welsh 'cos they think it's a load of crap - mancan di buon senso - but explore me more by all means!!

A presto

ceri