lunes, 7 de enero de 2008

Y llygad ddu a'r ewinedd garlleg


Daeth fy war ac Angie i lawr i ôl Ben ddoe ac maen nhw’n dal yma – rôn nhw’n moyn gwneud bach o siopa yn Regents Street a dyna le maen nhw ar hyn o bryd. Dethon nhw i lawr yng nghar Angie ac fe wetas i wrthyn nhw i roi’r car yn y lle parcio ar gyfer preswylwyr y fflatiau. Mae gen i docyn arbennig i roi ar gar ymwelwyr fel y cân nhw barcio heb gael dirwy gin y wardeiniad sy’n crwydro’r lle o fore gwyn tan nos. Wetas i mo hynny wrth Angie cofia; gobeithio y caiff hi ddirwy – bydd hi’n ffycin lwcus i osgoi hwnna.

Odd rhaid ifi fynd i lawr idd’u hôl nhw wedyn ac fe roias i ‘crucifix’ rownd fy ngwddwg jwst rhag ofn bod tymer ddrwg ar Angie ond withws e ddim. Dyma hi’n dod mas o’r car a rhoi uffach o glatsian ifi. Ma’ ‘na ddiawl o lygad ddu gen i nawr – o leiaf, odd e heb ddigwdd gynt sy’n dipyn o sypreis. Dyma hi’n gweid wedyn:

Mae’n flin ‘da fi; own i ddim yn ei feddwl e’n gas.

- wi’n credu bod hi’n wedi codi hwnna mas o un o’m blogiadau i – hen sgeran yw hi!

Bu Xosé wrthi’n cwcan pryd o fwyd i’r pump ohonon ni ond pan welws e fy llygad i, roedd e’n pallu canolbwyntio’n iawn. Roedd e’n pisho wyrthin pob tro edrychws e arno i. Cogydd yw Xosé a dyw’r Galisiaid ddim yn rhoi rhyw lawer ar dy blât di ond be’ gei di – ma’ ddi’n sbeshal. Bysa un o loddestau Harri’r VIII ddim yn ddigon i lanw bola Angie, cofia.

Ma’r moroedd wedi tawelu tipyn bach nawr – rŷn ni’n deulu reit debyg fel ‘na; does ‘na’r un ohonon ni’n gallu dala dig am fwy na phum munud. Dyw Angie ddim fel ‘na – mae hi’n dod mas o’i harch hi bob nos ac yn cofio pob un cam gwag yn ei herbyn hi erioed.

Wi wedi rhoi lot o ewinedd garlleg yn fy nghypyrddau fel na fydd hi’n dechra wilmentan. Wi wedi clywad ambell i sŵn hisian oddi wrthi, felly ma’ ddi wedi trio pan oedd fy nghefan i wedi troi.

Mae hi wedi cymryd at Xosé ac mae’n bihafio ei hunan. So’r un o’nhw’n deall ei gilydd ond ma’ fe i gyd yn y llygid ac ma gwpod bod shelffad heb gymhlethdodau ar y gweill wastod yn ddeniadol. Chân nhw ddim cyfle yn y fflat ‘ma, cofia. Rŷn ni i gyd ar dop ein gilydd nawr.

Roedd fy war - wara teg iddi - yn poeni’n fwy bod Ben wedi bodio i lawr i Lundain na ‘bo fi wedi mynd mas ag e i glwb. Dyma hi’n gweid wrtho i:

Iawn - nos Galan oedd hi ac fe wna i fadda iti’r tro hyn.

- ac wedyn, mae hi’n troi at Ben ac yn gweid union yr un peth wetas i wrtho fe biti ‘paedophiles’ mewn loris. Rhoias i gig reit siarp iddo fe o dan y ford rog ofan bysa fe’n gweid y peth ‘na bod rhaid iddyn nhw dalu gyntaf ond dyma Ben wedyn yn dod mas â’r perl ‘ma:

Ma’n ddrwg ‘da fi mami – na i byth mo ge ‘to – fi’n dy garu di, fi’n dy garu di – ma’n amhosib iti ddeall faint ifi’n dy garu di.

- a hwnna i gyd â’r deigryn bach ‘ma yn ei lygad e. Fel yr aeth e ati i gwtsho ei fam wedyn, dyma fe’n rhoi winc slei imi – ffycin hell, mae’n dda; own i byth yn gallu cal y deigryn ‘na mas ar y diwedd.

Benjamin fy nai - ma nhw’n gweid bod gwaed yn dewach na dŵr, ac ifi mor ffycin prowd ein bod ni’n rhannu’r un gwaed tew.