martes, 8 de enero de 2008

Benjamin: Dere nol gloi!

Newydd fynd mae fy chwaer ag Angie. Mae hi ond yn hanner awr wedi pedwar ac mae pelydrau golau dydd yn dal i belydru i lawr arnon ni. ‘Alla i ddim deall sut mae Angie yn dal i fod yn gig a gwaed yn hytrach na llwch â’r chwilod duon mawr yn cropian ar hyd ei gweddillion – ond dyna ni; dyfal donc a dyrr y garreg ond rŷn ni’n siarad am yr ‘undead’ ‘fan hyn. Wi byth yn mynd i gredu’r ffilmiau Dracula ‘na eto - mae’n amlwg bod angen uffach lot mwy idd’u lladd nhw na rhyw ffycin ‘crucifix’, ewinedd garlleg a bach o olau dydd. Nid oedd hyd yn oed y ‘stake’ wpws Gronw i mewn idd’i chalon hi biti wyth mlynedd yn ôl yn dda i ddim.

Ma’r fideo ‘ma iti Ben ac mae dy Wncwl Ceri di’n ei feddwl e. Dere nôl yn gloi, fy nai dienaid – bydd wastod groeso iti ‘fan hyn!

No hay comentarios: