sábado, 5 de enero de 2008

Angie Lewis - yr hen geg


Mae fy war i'n dod i lawr i ôl Ben ‘fory. Mae ei ffrind hi – Angie Lewis - wedi snitsho arnon ni; simo fy war i'n gwpod y gwahaniath rhwnt cefn y cyfrifiadur a phen ôl y fuwch a bysa hi byth wedi darllin fy mlog – yr hen geg ‘na Angie sydd wedi ei rhoi hi ar fy nhrywydd. Does wbod be’ ma' ddi wedi gweid wrthi hi ond ifi wedi palu fy medd fy hunan wrth roi petha ar y blog. Wi’n dyfaru dechra’r blog ‘ma nawr os yw’r wrach ‘na yn ei ddarllin.

Doedd hi erioed yn fy lico i. Roedd hi’n hen beth comon yn yr ysgol ‘sgetyn. Roedd hi’n cysgu gyda’r bois i gyd ar ôl aelwyd yr Urdd ar nos Wenar – wel nid cysgu gyda nhw ond ti’n gwpod beth ifi’n ei feddwl. Fe ela hi â nhw y tu ôl i’r gastanwyddan yn y parc; roedd wastod garn o goncyrs ar y llawr ar ôl iddi hi fod yno. Wetas i wrth Gronw Davies y bysa fe’n well gen i sielffo mwnci neu dorri fy ngheilliau bant cyn y cela hi afael yndo i. Wetws Gronw hwnna wrth ei dad a’i dad wedyn – ceg fawr y cwm – yn gweid be’ wetas i wrth ei ffrindiau fe i gyd yn y British Legion lle’r oedd Angie yn digwdd bod yn cal peint o 'Welsh Bitter'. Dyw hi byth wedi madda ifi oddi ar ‘ny.

Ffonws hi fi echnos – ma’n rhaid bod rhywun wedi gadael clawr ei harch hi ar agor. Rhoias i’r ffôn i lawr; bu raid ifi ei gadael hi off y bachyn wedyn – doedd dim stop ar ei galwadau. Dyw hi ddim yn rhoi’r gorau iddi’n rhwydd; fe wnaeth hi adael neges ar fy mlogiad diwethaf wedyn yn gweid fy mod i yn y cachu – ac ifi’n ei chredu. Mae llais gweiddu fy chwaer yn wath na’r un ‘banshee’. Efallai na ddyliwn i weid hwnna ond alla i ddim bod mewn mwy o drwbwl, felly fi weta i be’ fi’n moyn. Dim ots be' weta i nawr – bydd Mrs Trwyn-Ym-Mhopeth yn edrych dros fy ysgwydd.

Roedd Morfudd Blaengyfre wedi fy ffono i ryw ychydig cyn y Nadolig yn gofyn a oedd want arno i gymryd rhan yn y plygain yng nghapel Pencader. Rown i’n ofni ar y pryd bod gweithio yng nghrombil y Llyfrgell Genedlaethol wedi ei hela hi off ei phen. Wi’n gallu gweld nawr – roedd y Bod Mawr wedi ei defnyddio hi i’m helpu i mas o dwll. ‘Taswn i wedi mynd i’r plygain, fyswn i ddim wedi blogio am anturiaethau Ben a fi i lawr ‘ma yn Llundain; ond wedi meddwl, bysa Ben wedi dod i lawr i Lundain a finna ddim yno idd’i helpu fe – God works in mysterious ways.

Wetas i wrth Ben iddo fe beidio â sefyll lan drosto i – bysa fy war ond yn meddwl ‘bo fi wedi dylanwadu gormod arno fe. Dyna Ben yn gweid wedyn – ifi ddim yn ffycin stiwpid, ifi’n mynd i dy feio di am bopith. Mae pen da arno fe – nelswn i’r un peth. Roedd y diddanwr Eurwyn Pontsiân yn gweid ‘slawar dydd – os wyt ti byth mewn trwbwl, trïa ddod mas ‘no fe - ond ifi'n ‘fucked’; wi wedi'i roi e i gyd i lawr ar ddu a gwyn ond mae eto obaith i Ben. Wi’n synhwyro ei bryder ond o leiaf, fe gaiff e gefnogaeth ei fam-gu – fy mam i. Fuws hi erioed yn iawn gyda fi; own i’n gorffod edrych am gefnogaeth mam-gu - ei mam hi - ond fel ‘na mae pethau’n mynd ontefe.

Alla i weld ei fod e’n poeni, cofia – ma’ fe’n moyn aros fan hyn gyda’i wncwl Ceri – ma’ na ddagra yn cronni yn ei lecid e pan ma’ fe’n meddwl nag w i’n edrych. Mae e wrthi’n clau’r fflat ifi nawr; ma’n gwpod am safonau glendid ei fam yn well na fi.

Wi’n mynd mas am beint heno – bach o hwyl cyn y storom ac os wyt ti’n darllen hyn Mrs ffycin Trwyn-Ym-Mhopeth – ifi ddim yn mynd â Ben mas gyda fi, felly paid di â rhaffu dy gelwydda wrth ‘ym war; rho’r clawr ar y tecilt a cher nôl i mewn i dy arch, wnei di! Byswn i’n lico dod i lawr ‘na a thowlu dart at dy detha silicon ffals di – ond mae gen i barch mawr at bobl y cwm a gwi ddim isha i’r ffrwydrad eu hela nhw off i ebargofiant, felly cadw di dy geg di dan glo ac fi gatwa i'r 'darts' 'sda fi yn ddiogel yn fy mhoc i - 'y nghariad annwyl!

2 comentarios:

Angharad Lewis dijo...

Ha blydi ha - rwt ti'n meddwl bo ti mor blydi clyfar Ceri. Gei di ddeall beth yw clyfar pan gyrhaeddiff fi a Linda lawr na fory y coc oen ishda ag iti- WANCAR!!

Cer i Grafu dijo...

Are you coming down in the car or are you using your broomstick?

Gei di fy ffono fi nawr - sbozo bo rhaid ifi dderbyn yr inevitable.