domingo, 13 de enero de 2008

Pavarotti - Nessun Dorma

Own i’n meddwl taw amser am bach o ddiwylliant ar fy mlog i oedd hi. Nace boi diwylliedig ydw i o bell ffordd ac off ŷf i nawr am gwpwl o beints er taw’r Saboth yw hi - ond ifi’n dwlu ar y boi ‘ma’n canu.

Pavorotti yw ei enw fe ac mae ei dylwth e’n dal i werthu ‘ice cream’ mewn ambell i siop yn y cymoedd. Ma’r hufen iâ yn ‘shit’ ond ma’ gin y boi ‘ma lais angel. Newydd fynd at ei greadwr ma’ fe ac ma’r nefoedd ar eu hennill a ninna lawr fan hyn ar ein colled yn ddirfawr. Heddwch i’w enaid.

No hay comentarios: