jueves, 10 de enero de 2008

Llais llen - Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau


Wi wrthi’n darllen y llyfr ‘ma geso i’n anrheg gin fy ffrind Gwyn. Odd gen i stori dda am Gwyn a’r afr wen ‘ma yn Nolwyddelan ond ma’ fe wedi talu am fy nhawelwch nawr. Wna i ddim sôn am y mwnci yn sŵ Caer ‘chwaith a diolch o galon iddo fe am y llyfr, gyda llaw.

Enw’r llyfr yw Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau gan yr awdur
Llwyd Owen. Wi ond ar ei ddechrau, ond yn barod, ma’ fe wedi sgrifennu biti’r boi ‘ma Luc yn rhoi ei gachu yn gymysg â mwstard er mwyn gwneud brechdan idd’ i fos a chael wanc dros lun o Beti George off y rhaglen radio 'na 'Beti a’i Phobl', felly mae petha’n argoeli’n dda.

Roedd Gwyn yn gwed wrtho i fod Llwyd wedi ennill £10,000 o bunnau am ei ail lyfr – Ffydd gobaith cariad - yng nghystadleuath
Llyfr y Flwyddyn. ‘Sneb wedi rhoi'r llyfr 'na ifi eto (!?) ond os yw e’n debyg i’r llyfr cyntaf, mae’n haeddu pob ceiniog. Colli mas nath e ar ddewis gwrandawyr Radio Cymru a nhwytha’n dewis rhyw gofiant i Saunders Lewis – wel ‘sdim ffycin syndod fan yna, oes e? Dyna’r boi enillws wobor y gwrandawyr wedyn yn gweiddu - Viva democratiaeth - wn i’m os yw hwnna’n dangos wir ddemocratiaeth ond heb os, mae’n gwed rhywbeth am afael rhyw fath o Gymry dosbarth canol ffroenuchel ar ein diwylliant.

Yn ôl y sôn, fe gas e drafferth i gyhoeddi’r llyfr cyntaf ar y dechrau; wedi’r cwbwl, does bosib y bysa fe at ddant y bobl neis neis ddiwylliedig eisteddfodol ‘na. Dŷn nhw ddim mor ffycin dda yn barnu odyn nhw, ne’ fe gelan ni rwpath gwerth chweil ar S4C a rhagor o bethau mae’r Cymro cyffredin eisiau ei ddarllen. Da gweld bod y sefyllfa’n cael ei herio a wara teg i’r
Lolfa am ei gyhoeddi.

Ma’ rhaid ifi fod mor ofalus os barna i rywpath yn y byd Cymraeg – byw yn llundan odw i a phwy ffwc hawl sy gen i; dera nôl a chyfrannu - y coc oen - gaf i. Ma’ na hen wetiad Cymraeg sy’n mynd - rhydd i bawb ei farn – sy wedi cal ei ddamshal dan draed gin lawar i un; rhydd i bawb ei farn os wyt ti’n un ohonon ni - dylsan nhw weid; mae’r Cymro cyffredin wastod ar y tu fas.

Ma’ blynydda lawar odd’ ar ifi ddarllen dim byd yn y Gymraeg heblaw am stwff ar y we a hwnna ond ers blwyddyn. Pan own i’n wneud lefel A, roedd rhaid inni ddarllen stwff y boi ‘ma oedd yn sôn am y wlad – Storiau’r tir oedd y llyfr os wi’n cofio’n iawn a thair cyfrol yn perthyn iddo - y tir glas, y tir coch ac wedyn y tir du; own i’n meddwl y bysan ni’n cal darllen rhywbeth biti seicedelia yn y 60au ond credi di fi, does â nelo’r llyfr ddim oll â hwnna.

Llyfr arall y bu raid inni astudio wedyn – traed mewn cyffion - gobeithiwn y celsan ni glwad am bach o sadomasocistiaeth yng Ngogledd Cymru ond twyll mewn ffordd oedd y teitl. Wi bron wedi bennu llyfr Llwyd Owen ond own i biti blwyddyn a hanner yn treial gweithio fy ffordd trwy’r ddou arall ac wedyn dôn i ddim yn deall y cwestiynau yn yr arholiad.

2 comentarios:

Prysor dijo...

Am ei ail nofel - 'Ffydd Gobaith Cariad' - ennillodd Llwyd wobr Llyfr y Flwyddyn 2007.

Dwi'm yn meddwl iddo gael trafferth cyhoeddi 'Ffawd Cywilydd a Chelwyddau', chwaith. Mae'r Lolfa wastad yn barod i chwalu ffiniau.

O ddiddordeb i chdi, efalla - dyma video golygedig o'r noson yn Palas Print wythnos o'r blaen, pan o'n i'n holi Llwyd am ei waith. Noson dda iawn, sdi. Gret gweld llenyddiaeth Cymraeg yn boblogaidd efo pobl ifanc.

Cer i Grafu dijo...

Ti'n gwpod be' - am yr ail nofel own i wedi gwed iddo ennill y wobr ond fi wnetho i newid hwnna ar y blog ar ol biti pythewnos ar ol ddarllin rwpath ar y we - a finna'n gobeitho wedyn na fysa neb wedi sylwi.

Fi'n cofio'n iawn newid y peth - drychas i lan yn y geiriadur shit 'sda fi i weld a oedd 'trydydd' yn treiglo llyfr ne beido.

Wi'n newid e nol nawr ond nace bai fi oedd e - y ffycin misinformation ar y we yw e!!