lunes, 14 de enero de 2008

Y cerydd


Mae’r gwyliau a’r meddwi drosodd nawr – ddoe oedd dechrau’r flwyddyn newydd. Wi’n dilyn arferiad Cwm Gwaun â’r Hen Galan – nid bo ‘fi’n dod o Sir Benfro ond unrhyw hen esgus i mysdyn y parti.

Newydd ddod nôl mae Pablo o’i wyliau yng Ngalisia; ma’n cal uffach lot o wyliau yn ei waith a ‘sdim rhaid iddo fe dalu trethi yn y wlad ‘ma ‘chwaith. Weta i ddim lle ma’ fe’n gweithio ond ‘tasat ti’n mynd i Kings Cross a gofyn am buteindy ‘La Cage’, fyddi di fawr o dro yn ei ffindo fe. Fi allwn i roi cyfeiriad y wefan mas ond mae rhaid iti fy napod i gyntaf. Fe sydd wrth y drws yn gofalu am gotiau pobl ac yn rhoi condoms mas.

Ethon ni mas am beint ‘da’n gilydd neithiwr; mae Pablo wastod mewn hwylia da ar y dechra ond ‘down hill’ yw hi wedyn. Man a man ifi a Xosé wneud y gora mas o’r ‘sefyllla tra bo fe’n annwyl; o fewn deuddydd, bydd e ond yn dechrau hwfran dros bod man a chlau’r ‘ash trays’ cyn bod ni’n cal cyfla i droi rownd.

Welas i ddim lot o’ano fe yn y dafarn a gwed y gwir. Ma’ fe wedi rhoi’r gorau i smygu nawr ac ifi heb, felly tu fas i’r dafarn buais i yn cal mwgyn o dan y canopi – bydd rhaid ifi roi’r gora iddi ‘ed ond wi’n siŵr y bysa hi’n rhwyddach ifi fynd i Mount Doom a threial cael y ffycin fodrwy ‘na off yr hobbit Frodo ‘na.

Wi’n siŵr bo fi wedi dala annwd yn gorffod smoco tu fas. Dyw bywyd ddim yn deg. Fi geso i gerydd gin Hedd echnos hefyd. Ma’ rhywun wedi bod yn iwso fy enw a’m cyfrinair a gadael ‘one liners’ a sylwadau plentynnaidd ar y peth
maes-e ‘na. Roedd ambell i sylwad yn swno’n depyg i rwpath wetswn i, felly wn i’m – efalla taw fi sydd ar fai, ond wi’m cofio dim!!

Fi geso i shaw o bobl off y ‘maes-e’ ‘na yn ymweld â’m blog i wedyn a phob un wan jac o’nhw yn dod i mewn ar y blogiad ‘netho i biti Hedd a fi – yr un â’m blydi llun i arno fe, felly wi’n cymryd taw ‘top nobs’ y maes ŷn nhw a bo ‘da nhw ryw seiat gyfrinachol â’r ddolen ‘na at fy llun. ‘Sdim ots – nace fi oedd e; diniwed ifi, wir yr!!

No hay comentarios: