jueves, 17 de enero de 2008

La Cage - helpu mas yn y puteindy


Wi wedi bod yn helpu mas yn y puteindy – La Cage – yn Kings Cross. Own i ddim isha ‘chwaith ond ffafr i Pablo yw hi. Gweithio y tu ôl i’r bar odw i mewn crys gwyn a dici-bô os gweli di’n dda. Ma' ffrind Pablo - Román - yn dost ac odd angen rhywun ar frys ac fe wnath e gynnig fy enw i. ‘Sdim ots, un dienaid buas i erioed - arian yn y poced yw e ar ddiwedd y dydd ac ifi’n cael £70 y noson, felly boi digon hapus odw i.

Ma’ ddi dros ugain punt am siortyn bach o wisgi neu gan o 'Heineken' yn y bar ‘ma ond mae’n costio’n fwy na hwnna am gan o ‘7 Up’ neu ‘Sprite’. Wiw iddyn nhw wrthod cael diodyn ‘chwaith; ma’r bownser yn gyfuniad o Rambo a Schwarzenegger mewn un corff ac ma’n dueddol o sefyll reit y tu ôl iddyn nhw wrth ordro rwpath.

Enw’r fadam yw Mademoiselle Fifi ond nid dyna ei henw iawn hi - mae hi’n dod o Croydon ac mae hi’n lot rhy hen i fod yn ‘mademoiselle’. ‘Sneb yn gwpod beth yw ei henw iawn hi ac mae’n gwrthod gweid. Wi’n teimlo bach yn stiwpid yn galw Fifi arni ond am £70 y noson, wi ddim yn mynd i gonan.

Wi ddim yn gwpod os yw’r peth hyn yn gyfreithlon - ‘massage parlour’ yw’r enw swyddogol ar y lle ond er hynny, mae pawb i weld yn gwpod shwt fath o le yw e ac ma’ rhyw iaith gyfrin gyda nhw hefyd. ‘Massage’ yw wanc ac fe gei di wthad am ugain punt extra; ‘sauna’ yw shelffad go iawn – ‘hot & steamy’ ontefe; ‘sdim lot o ddychymyg gyda nhw. Dim ond un ferch sy’n fodlon gwneud y ‘cawod’ a dim ond bore dydd Mercher a bore dydd Gwener mae hi’n gweithio; weta i ddim rhagor biti hwnna ond mae hi’n boblogaidd iawn. Dyw e ddim at ddant pawb ond wedi’r cwbwl, nid pawb sy’n lico pob un siocled yn y bocs o ‘Cadbury’s Milk Tray’ os caf i newid ychydig bach ar feddyliau Forrest Gump.

Bydd fy shifft heddi’n dechrau am hanner nos tan saith o’r gloch y bora, felly fi gaf i beint neu ddou cyn dychra. Dyw Mademoiselle Fifi ddim yn gadael ifi yfed wrth 'bo fi'n gweithio; wn i’m pam – ma’ ddi ond yn cal y ‘four-packs’ ‘ma mas o Asda ac maen nhw’n reit tshep ac a gwed y gwir, mae pob un person arall yno off eu pennau. Wi yn cael peint am ddim wrth bennu, cofia ac ma’ gen i ddewis – peint neu wthad ond at y peint ifi’n mynd wastod. Bysa'r ddou biti’r un pris 'tasa rhaid ifi dalu ond ma’r peint yn para’n hirach am taw un slow iawn yn ifad odw i.

2 comentarios:

Wierdo dijo...

Diolch am y comment hyfryd ar fy mlog, doedd o ddim yn creepy o gwbwl ;-)

Ma'n rhaid i mi fod yn onesd, dwi rioed di bod ar dy flog di o'r blaen (ddim i mi gofio bethbynnag) a dwi newydd dreulio 20 munud go dda yn darllen cyn-bostiau cyn cofio mod i fod i fynd i gwrdd a rhywun yn y llyfrgell!! (bleuch)

Mi nath y post yma...wel....agor fy llygaid! I mean, £20 am ddiod?! Be ddiawl?! ;)

Cer i Grafu dijo...

Diolch o galon iti Mari.

Pam ti heb fod 'ma o'r blaen - sdimots, mae 20 munud yn ffanastig ;)

Fi ddetho i'n ail mewn un blog am y person mwya secsi ond Tom Cruise aeth a'r wobr - dyna pam wi'n ofan bo pobol yn meddwl 'bo fi'n 'creepy' ;)