jueves, 3 de enero de 2008

Groucho Marx, Mr Wilderbeast a Mr & Mrs Schneider


Geson ni nos Galan arbennig o dda. Smyglon ni Ben i mewn i’r clwb heb ddim trafferth o gwbwl. Roedd ‘na lot o bobl mewn gwisg ffansi ac roedd Ben yn edrych fel Groucho Marx gyda’r mwstash beinton ni ar ei wyneb, felly doedd neb fawr callach ‘bo fe ond yn ddeuddeng mlwydd oed. 'Nethon ni sigâr iddo fe mas o un o’r ‘bog rolls’ yn y tŷ bach, benthyg trwyn plastig a sbectol gan Enrique ac yn wir iti - fe wnaeth e ennill potelaid o Tequila inni i gyd yn y gystadleuaeth wisg ffansi am ddeng munud i hanner nos. Roedd Xosé a finna’n reit browd ohono fe.

Mae lot o Sbaenwyr yn dod i’r clwb ‘ma ac fe fuon nhw’n dysgu brawddegau iddo fe a oedd yn lot neisiach na’r rhegfeydd ddysgws e gan Iria. Roedd e’n rhoi cynnig eitha da ar ddawnsio’r ‘paso doble’ yn y diwedd hefyd – wara teg iddo fe. Joiws e mas draw ac ifi’n credu ei fod e’n cael eitha tipyn o ddiwylliant yn aros fan hyn gyda’i wncwl Ceri.

Fe brynais i botel o ‘Bacardi Breezer’ iddo fe - wi isha iddo fe barchu alcohol ac i beidio â meddwl ei fod e’n beth mawr ac a gwed y gwir roedd yr alcopops yn costio llai na’r caniau o Coca-cola. Wi’n siŵr iddo fe dwgyd ambell i un arall off byrddau pobl eraill cofia, neu fysa fe byth wedi hwdu lan yng nghefn y tacsi fel nath e.

Bydd ei fam e’n siwr o ofyn be’ nethon ni nos Galan ac felly rŷn ni’n mynd i weid inni fynd mas i McDonalds i gael un o’u ‘happy meals with strawberry shortcake’ ac wedyn gwylio’r tân gwyllt ar lannau’r Afon Tafwys. Fysat ti byth yn ffindo Ben na finna yn fodlon aros mas yn yr oerfel i watsho'r un sioe tân gwyllt ond wi’n credu y bydd fy war yn llyncu’r stori. Ben fysa’n ei chael hi waetha 'tasa hi’n ffindo mas; bysa hi’n gweiddu arno i am gwpwl o flynydda - wi’n gwpod - ond fi alla i wastod roi’r ffôn i lawr – sdim diengyd i Ben. Wi’n gwpod y bydd hi’n treial ein dala ni mas ond rŷn ni wedi ymarfer be’ rŷn ni’n mynd i weid ac rwy’n siwr y bydd Ben yn wara ei ran e i berffeithrwydd.

Fe gyrhaeddson ni nôl biti pump o’r gloch y bore ac ar ôl agor drws y coridor, dyma ni’n gweld Mr Wilderbeast yn gorwedd ar wastad ei gefn. Rown i’n meddwl ei fod e wedi marw ac roedd ei afael ar ei ‘Tennents Super’ mor dynn fel rown i’n ofan bod ‘rigor mortis’ wedi seto i mewn yn barod ond roedd Xosé yn gallu ei glywed e’n anadlu.

Mae Mr Wilderbeast yn edrych fel un o’r bobl ‘na sydd yn llofruddio pobl ac wedyn yn cwato eu cyrff nhw o dan y patio; mae’n ela’r aeth arno i ond bu raid inni ei helpu fe. Fe etho i i mewn i’m fflat i gael clustog i roi o dan ei ben ac hwpais i diwben o ‘tomato puree’ yng nghil ei geg er mwyn ei chadw hi ar agor rhag ofn bysa fe’n tagu ar ei hwd. Roedd Ben yn meddwl y dylsan ni alw’r heddlu a’r ambiwlans - y perlau sy’n dod mas o enau plant bach weithiau ontefe. Wetas i wrtho fe i beidio â bod mor stiwpid; bysa rhaid inni aros lan am oriau idd’u gadael nhw i mewn i’r coridor wedyn a tasa’r heddlu yn troi lan gyda’r cŵn ‘na sy’n gwynto cyffuriau – bysa Xosé mewn lot o drafferth.

Eiliadau wedyn, wrth ‘bo fi’n cau drws y fflat, fe glywson ni Mr a Mrs Schneider yn dod i mewn i’r coridor a hitha’n gweiddu – mein Gott! Herr Wilderbeast! a’r geiriau Polizei a Krankenwagen yn gymysg â’r llif o eiriau. Dyna Mr Schneider wedyn yn gweiddu Nein! Nein! ar dop ei lais wrth lusgo Mrs Schneider i mewn idd’u fflat nhw a chau’r drws yn glep – felly wi’n cymryd bod Mr Schneider yn meddwl yr un peth â ni.

Doedd e ddim yno yn y bora ond fe welws Xose fe ddoe yn cerdded heibio i’r llyfrgell yn dala can o ‘Tennents Super’ yn ei law, felly mae e’n dal ar dir y byw ond heb ddysgu ei wers – mae’n amlwg.

2 comentarios:

Anónimo dijo...

Angharad sy ma. Paid di byth a rhoi’r ffon lawr arnoi to a rhoi e off y bachyn. Wi wedi gweud wrth dy war be’ sy wedi bod yn digwdd gida Ben i lawr na yn llundan. Dyw hi ddim yn hapus iawn ac fi’n deall pam. Ti yn y cachu boi. Ti ddylsat ti dyfu lan gloi. Ma hi’n dod lawr ddydd Sul, felly rhoi’r ffon na nol ar y bachyn neu fyddi di mewn deeper shit nag wti yndo nawr.

Cer i Grafu dijo...

wff - go away woman - ych, ti wastod yn achosi problema - ma gen i ddigon o broblema fel ma ddi. Pwy agorws clawr dy arch di - own i'n meddwl bod Gronw wedi wpo'r 'stake' yn dy galon di sbelen yn ol. Gad fi fod yr hwch salw - ifi heb wneud dim byd yn rong.