lunes, 31 de diciembre de 2007

Lluniau merched porcyn


Fe ddaeth ymwelydd i mewn i’m blog heddi ar ôl chwilio am rywbeth yn AOL o dan ‘lluniau merched porcyn’ – wi’n gweid ‘rhywbeth’ ond mae’n eitha amlwg am beth roedd e/ hi’n chwilio. Ta p’un i, dyma’r canlyniad gas e/ hi a diolch iddo/ iddi am wneud ifi bisho wyrthin.

Web Results
Results 1 - 2 of about 2 for lluniau merched porcyn Page 1 of 1
Learn More About Web Results

· BBC - Cymru - Y Selar
Wedyn yn araf ac yn gynnil, dechre dod a menywod topless/ porcyn mewn iddo fe heb i neb sylwi ......
.
· Cer i Grafu: julio 2007
Porcyn. Fe siafes i’r blew off rownd 'y ngheilliau i echnos. ..... Af i ddim i fanylion ond...


Mae ‘na lun o ferched porcyn wrth ochr y blogiad ‘ma nawr rhag ofn bod eraill yn cael eu siomi.

Wi ddim yn cofio ysgrifennu am siafo ‘ngheilliau a gwed y gwir ond mae’n amlwg ‘bo fi wedi. ‘Sdim ots – bywyd yw bywyd ontefe. Bydd rhaid ifi eu siafo nhw eto nawr – mae hwnna sbelen nôl yn mis Gorffennaf. Diolch yn fawr iddo/ iddi am fy atgoffa a blwyddyn newydd dda!

No hay comentarios: