miércoles, 26 de diciembre de 2007

Vagina & Clitty - lost opportunity!


Byrnais i 'WinTV' heddi – y pecyn ‘ma i gael rhaglenni’r teledu ar y cyfrifiadur. Odd e fod yn £49.99 neu rywpath tebyg ond roedd 'da fi'r cwpon 'ma mas o'r 'News of The World' ac fe geso i fe am £29.99 yn PC World yn Wandsworth. Wi wedi ei roi e mlan ac mae'r radio'n gweithio'n grêt ond mae'r stwff teledu yn rhewi trw'r amser er ‘bo fi'n gallu clywad y sŵn yn iawn. Simo fi'n gallu cael y 'remote control' i weithio o gwbwl - efallai taw'r batris yw e ond fe ddethon nhw yn y paced! Mae 'aerial' cymunedol ar y tô hefyd; mae gen i un o'r tylla 'na yn y wal idd 'i gysylltu fe. Fe ddyla fe weithio'n iawn ond wn i'm pam ffwc nag yw e. Wnetho i roi cyfeiriad y giaffar iddyn nhw - Dolwerdd, Llanfihangel-ar-Arth - a gobeithio bod trwydded teledu ginto fe neu fe gaiff e uffach o ddirwy.

Wi'n pallu cal y meicroffôn byrnais i yn ‘Poundshop’ i weithio chwaith. Lawrlwythais i dipyn o raglenni 'audio' off y we i weithio gyda ‘Windows’ ond siarad â fi fy hunan odw i - dyw e ddim yn recordo ffyc all. Fe elen i ag e nôl ond mae'r tocyn trên i Basingstoke yn costio £14 a dim ond punt oedd y meicroffôn o ‘Poundshop’ - felly ‘sdim pwynt. ‘Falla bydd rhaid ifi byrnu meicroffôn arall.

Roedd Hedd, Esther ei wraig a Casi’r ast yn mynd i fwrw’r Nadolig yn 'Dalar Wen' ‘ta’r teulu i gyd. Mae ‘na ddegau o’enyn nhw. Simo nhw’n gatholigion ond dyw’r gair ‘condom’ ddim yn eu geirfa nhw. Mae Hedd bach yn slow off y marc ond efallai bod 'low sperm count' 'dag e a simo fi'n moyn bod yn bersonol - felly taw piau hi. Gobeithio nag oedd Casi wedi ela gormod o ofan ar blant bach ei chwiorydd â'i thetha'n llusgo dros bob man. Fi own i'n mynd i fynd lan i'r 'Two Brewers' yn Clapham i weld y drag act 'ma - Vagina & Clitty - ond yfais i ormod o wisgi yn y fflat a dechreuws fy mhen i droi. Own i'n pallu cysgu chwaith - pob tro rown i'n cau fy llygaid, roedd y byd yn symud ar garlam. Wi wedi dysgu fy ngwers ac heno wi ond yn yfed seidir.

Boas festas y bon ano novo - blwyddyn newydd dda i bawb - feliz anio nuevo - enjoy the New Year and don't moan so much, you miserable fuckers!

No hay comentarios: