jueves, 27 de diciembre de 2007

The Sound of Music - Sister Motherfucker a Sister Cocksuker

Dyma un o’r fideos ail-ddybio ‘ma sydd yn ôl y sôn yn frenin arnyn nhw i gyd. Yr olygfa lle ma’r lleiannod yn canu ‘How Do You Solve A Problem Like Maria’ yw’r targed mas o fy hoff ffilm – The Sound of Music. Mae’r ail-ddybio arni hi o safon uchel iawn ac rown i yn fy nagrau yn wyrthin. Mae’n siŵr bod y bobl ‘ma wedi cal uffach o hwyl yn ei wneud e. Mae Sister Margareta a Sister Berthe, dwy o’r lleiannod yn y ffilm yn cael eu ail-enwi’n Sister Motherfucker a Sister Cocksuker yn y fersiwn hon. Efallai ‘bo fi’n blentynnaidd ond joias i mas draw. Bydd rhaid ifi ddysgu sut mae gwneud petha fel hyn – fe gelen i hwyl di-ben-draw.

No hay comentarios: