viernes, 28 de diciembre de 2007

Benjamin - fy nai dienaid


Geso i uffach o sioc neithiwr; dyma gnoc ar y drws a 'ti byth yn gwpod pan fo’r ffycin bwmbeilïaid ‘na yn mynd i droi lan. Fe droison ni’r miwsig i lawr ac esgus bod neb i mewn ond wedyn mae’r llais ‘ma yn gweiddu trwy’r blwch llythyron – Ceri, agor y ffycin drws – Ben sy ‘ma!

Rown i mewn sioc - Benjamin fy nai oedd e. Ma’ fe ond yn ddeuddeg mlwydd oed ac roedd y clown wedi ffindo dechra’r M4 rywsut neu’i gilydd a bodio i lawr i Lundain. Roedd e wedi lliwo ei wallt yn wyrdd yn nhŷ un o’i ffrindiau, cael uffach o gerydd gin ei fam wedyn a phenderfynu rhedeg bant. Dechreuais i wara rhan yr wncwl call a gweid pwy mor stiwpid oedd e a phwy mor beryglus oedd gwneud shwt beth. Wetas i y galsa fe fod wedi cael ei abiwso gin ryw ‘paedophile’ mewn lori – ond dyma fe’n gweid nôl y bysa rhaid iddo fe dalu gyntaf. Wn i’m pam ond mae ei ben e’n lot henach na’i gorff. Pan oedd e’n fach iawn, roedd e’n arfadd mynd yn benwan a llefain pan oen ni’n galw ‘bachgen drwg’ arno fe ond dyw hwnna ddim yn gweithio ragor. Wi’n eithaf prowd ohono fe a gwed y gwir. Mae’n fy atgoffa fi ohono fi fy hunan pan oeddwn i’n grwtyn bach.

Ffonas i fy war wedyn a gweid be’ oedd wedi digwydd ond roedd hi heb sylweddoli ei fod e wedi mynd. Mae hi’n gweid y daw hi i lawr idd’i ôl e pan fydd yr ysgol yn ail-ddechrau ym mis Chwefror ond ifi’n siŵr bod yr ysgolion yn dechrau nol sbelen cyn hynny. Bydd rhaid ifi tsieco lan ar hwnna.

Mae’r tŷ yn llawn dop nawr. Mae Pablo wedi mynd nôl i Galisia dros yr ŵyl ond fe ddaeth rhieni Xosé a’i ferch bymtheg oed – Iria – i gymryd ei le. Byddan nhw’n mynd nol cyn nos Galan, ond mae pawb ar dop ei gilydd ar hyn o bryd.

Mae Xosé a’r teulu wedi mynd mas i wneud bach o siopa ac ifi wedi ela Ben i brynu paced o ffags ifi. Wetas i wrtho fe i droi i’r dde ar ôl gadael y fflat a cherdded at Asda sydd biti dwy filltir bant; ‘tasa fe’n troi i’r chwith, bydda fe yn Somerfield o fewn munud. Fe gaf i gerydd pan ffindiff e mas ond ‘sdim ots; ifi isha bach o amser wrth fy mhen fy hunan.

Y bore ‘ma, fe ethon ni i Clapham Junction. Roedd e’n moyn ifi byrnu ‘iPod’ iddo fe; fe gas e 'toblerone' yn y 'Poundshop' yn y diwedd; dyw arian ddim yn tyfu ar goed fel ‘sa mam yn gweid. Fe geso i beint yn y ‘Windermere’ wedyn. Wetas i wrth Ben i roi ei fraich e i lan yn yr awyr a’i phlygu hi y tu ôl i’w ysgwydd a hwpo ei dafod e mas fel y bobl ‘mongs' 'na’. Maen nhw’n gadael plant i mewn wedyn. Own i’n arfadd gwneud na i dad-cu pan oedd e’n moyn peint yn y 'Con club' yn Nhonypandy ar ôl mynd â fi i’r gem rygbi ar ddydd Sadwrn; mae rhai pobol yn dal i feddwl bo fi’n ‘mong’ yn y clwb ‘na – dyna pam wi’n byw yn Llundain.

Mae Ben yn siarad yn fwy na fi – ‘sdim taw arno fe. Ma fe’n gweid y gair ‘fel’ ar ddiwedd pob brawddeg. Wi heb glywed hwnna yn Gymraeg o’r blaen ond mae’n reit gyffredin yn Sysnag y cymoedd; fe wetan nhw bethau fel ‘How ar you, like?’ neu ‘Look at the tits on her, like!’. Mae'n bennu lot o'i frawddegau ag arddodiaid hefyd ac fe gas e gerydd gen i am hwnna, ond fel pob plentyn sydd wedi colli dadl dyma fe’n gweid wrtho i – ti’n smelo ti yn!. Fi alla i fod yn blentynnaidd hefyd ac fi wetas i nôl – ti’n salw ti yn, ti’n edrych fel pwrs mochyn fel!. Bydd rhaid iddo fe wneud yn well na ‘ny i gael y gorau arno i.

Mae Xosé a finna’n mynd mas am gwpwl o beints ‘ta Rob heno. Fe wnaiff Señor a Señora Veiga ac Iria edrych ar ôl Ben. Wnaiff Iria ddim cymeryd dim nosens o’rwtho fe. Gaiff e gyfla i ddysgu bach o Alisieg hefyd - mae’n foi digon ‘bright’; mae’n depyg idd’i wncwl Ceri!

No hay comentarios: