sábado, 29 de diciembre de 2007

Paratoadau nos Galan a chwiban y Capten


Mae Xosé a finna mewn tipyn o gyfyng gyngor nawr. Mae hi’n un o’r gloch y bora ac ŷn ni’n dal i bendroni. Rŷn ni’n mynd mas i ‘Detox’ ar bwys Tottenham Court Road ar nos Galan ond fydd ‘na neb yma i edrych ar ôl Benjamin. Fi allwn i ofyn i Mr Wilderbeast drws nesa i edrych ar ei ôl e ond mae’n dueddol o edrych arno i bach yn ‘dodgy’ hyd yn oed, ac wi ddim yn fodlon ei drwsto fe gyda Ben. Bysa fy war byth yn madda ifi ‘tasa rwpath yn digwdd.

Sdim byd amdani – bydd rhaid iddo fe ddod mas gyda ni. Wi ddim yn ei drwsto fe yn y fflat ar ei ben ei hunan – mae’n rhy depyg ifi. Wi wedi ei weld e’n edrych ar label y botel wisgi ac ifi ddim isha cyrraedd nôl a gorffod mynd ag e am ‘stomach pump’ yn yr A&E yn Earls Court. Efallai bysa hwnna’n dysgu gwers iddo fe ac fe gela fe ddeall wedyn bod alcohol yn beth peryg, ond wedi gweid ‘ny, wnath e ddim cael effaith barhaol arno i. Wi’n dal i gael hunllefau am y ‘stomach pump’ ‘na cofia, ac ma' hwnna'n mynd nôl blynydda erbyn hyn. Bysa’n well gen i gel un o’r dildos ‘King Kong’ ‘na i lan fy nhin na gorffod mynd trwy hwnna eto - dyw e ddim yn brofiad pleserus iawn.

Mae Ben yn lico gwisgo ‘hoody’, ac felly fe gaiff e roi hwnna dros ei ben e ac fe wnewn ni beinto mwstash arno fe jwst rhag ofn. Mae’n dalach na Pablo - ond mae pawb yn dalach na Pablo - ac rŷn ni’n napod y boi ar y drws, felly dyla popeth fod yn iawn. Fe alliff e wara gyda ei ‘game boy’ yn y cornel. Bydd rhaid inni gadw golwg arno fe cofia, neu fe fydd e’n tynnu lluniau lan sgyrtia’r merched gyda’r ‘mobile phone’ byrnws fy mrawd iddo fe am y Nadolig. Ma’ fe wedi cel cwpwl o luniau o fam Xosé yn barod. Fysa fe ddim yn mentro gwneud hwnna gydag Iria neu ar ei gefn fysa fe a chael dou lygad du yn shino fel pwrs milgi o fewn dim..

Fe wnewn ni adael iddo fe ddod i‘r clwb gyda ni ond fe wna i roi ugain punt iddo fe a chyfeiriad Rob lan yn Walthamstow rhag ofn bod y ddou o’onon ni’n cael ‘cop off' a neb i edrych ar ei ôl e wedyn. Efallai na fydd ugain punt yn ddigon am dacsi ar nos Galan ond fe alliff e iwso ei fys a lwcdeithio ‘to – mae i weld yn eithaf da yn gwneud hwnna. Weta i ddim byd wrth Rob ond fe ddylai fe fod yn iawn – athro yw e, felly mae hen ddigon o brofiad 'dag e wrth ddelio â phlant dienaid.

Rhag ofn iddo fe fynd ar goll, fe ddysgwn ni’r un tric i Ben ag rŷn ni’n iwso gyda Pablo. Mae Pablo yn tynnu at 35 oed erbyn hyn ond ma’ fe mor fach fel bo ni’n cel problemau rownd y rîl pob tro rŷn ni’n mynd mas ag e - mae’n amhosibl ei weld e os oes ‘na eithaf ‘crowd’ o bobl ac ma' fe wastod yn mynd ar goll. Erbyn hyn, mae gin Xosé a finna y chwiban ‘ma - union yr un fath ag yr oedd gin Gapten Von Trapp er mwyn ffindo ei blant cyn bod Julie Andrews yn rhoi trefn ar ei fywyd. Mae’n eithaf da – un chwythad ac mae Pablo wrth ein sodla ni cyn bo’ ni’n cael cyfla i droi rownd.

Fe dreison ni iwso un o’r ‘dog whistles’ ‘na unwaith ond dŷn nhw fawr o iws. Roedd Pablo’n pallu ei chlywed hi ac roedd ‘na lwyth o fwngrels yn ein cwrso ni i lawr yr hewl wedyn. Un diwrnod, bu raid inni fynd am loches yn ‘The Horse and Duck’ yn Camden High Street. Mae’n gas gen i gŵn pan fôn nhw’n treial sielffo dy goes ar ganol yr hewl ac mae Xosé yn eu casáu nhw ‘full stop’. Roedd ‘na uffach o sŵn cyfarth y tu fas i’r dafarn wedyn ac doedd dim taw arnyn nhw. Bu raid inni gal tacsi oddi yno - wi’n deall erbyn hyn fel mae’r ‘celebrities’ yn teimlo gyda’r ‘paparazzi’ ar eu hôl nhw wedi noson yn Stringfellows. Roedd hi’n uffach o job inni gael mynd i mewn i’r tacsi a’r holl ffycin cŵn ‘na yn ein becso ni. Towlson ni’r wisl i’r llyn yn Battersea Park yn y diwedd – hen beth peryg oedd hi.

No hay comentarios: