domingo, 9 de diciembre de 2007

Gweithio bant - y cyfaill gwir yn yr ing fe'i gwelir


Own i wedi ei dyla hi neithiwr, paid â sôn. Bysa Cocwyllt yn gallu yfed Oliver Reed o dan y ford ‘tasa fe’n dal yn fyw ac mae treial dala lan ‘da ddi yn stiwpid – wi’n dioddef nawr, mae ‘mhen i’n powndo. Ethon ni mas i’r ‘gay village’ ‘ma yng nghanol Manceinion; own i’n meddwl bysa Cocwyllt yn gadael llonydd i’r dynion ond cael a chael fuws hi hyd yn oed yn y fanna. Roedd hi’n mynnid aros yn y dafarn ‘ma lle’r oedden nhw’n cynnal y blydi ‘karaoke’ ‘na. Wi’n beio’r Urdd – doedd dim modd cael Cocwyllt off y llwyfan; does fawr o lais canu gyda ddi ond mae’r bersonoliaeth yn fawr a bu pawb wrthi’n curo dwylo a gweiddu. Yng nghanol ‘Hey Big Spender’ dyma hi’n wara lan i’r gynulleidfa a fflasho’r bronnau ac roedd hwnna i weld yn fwy poblogaidd yn y ‘gay bar’ ‘ma nag yn y clwb rygbi yn Aberaeron.

Bu raid ifi adael y lle yn y diwedd; yn hollol ddiniwed a difeddwl, dyma fi’n cynnau ffag a’r ddwy fenyw fawr ffwrchwyllt ‘ma yn gafael yndo i’n sydyn reit ac yn fy nhowlu i mas. Doedd Cocwyllt fawr o help; dyma hi’n dod at y ffenest ac yn gweid y bysa hi’n fy ngweld i nôl yn y fflat. Dyna’r tro diwetha wi’n mynd mas am noson gyda hi. Wi ddim yn gwpod be wnaeth ddigwydd iddi hi wedyn a sai’n mynd i ofyn chwaith. Bu raid ifi gael tacsi adre ar fy mhen fy hunan ac mae hi’n lwcus na cheso i mo fy lladd gan ryw nytar yn y ddinas ddiarth.

Wi wedi gadael iddi hi weithio ar ei phen ei hunan ar y stondin heddi. Wi’n pwdu ac mae fy mhen i’n troi wrth glywed am ei holl anturiaethau rhywiol; dyw hi ddim yn wilia am ddim byd arall a gwed y gwir. Rwyt ti’n cael y delweddau ‘ma yn dy ben ac mae’n anodd cael eu gwared nhw wedyn. Roedd hi’n sôn ar y ffordd sha thre echnos am y boi ma wnath hi dreulio’r noson gyda fe yn Abertawe; boi byddar oedd e a dyma hi’n gweid taw yn y bore, yn lle cloc larwm, fe ddechreuws y gwely ‘ma siglo a symud o ochr i ochr er mwyn ei ddihuno fe – yn union fel y gwely ‘na yn ‘The Exorcist’ meddai hi. Mae hi’n gweid iddi gael uffach o sioc a bron iddi gael ei thowlu ar y llawr. Own i’n synnu clywed bod y gwely’n gallu symud o gwbl a’i phwysau hi arno. Rhyfedd o fyd ontefe ond wi’n gwpod ei bod hi’n gwed y gwir; fe ddigwyddws union yr un peth i’m ffrind Steffan ar ôl treulio noson gyda ‘Deaf Daphney’ i lawr yng Nghaerdydd.

Os yw hi’n gweid y gwir a ‘sdim rheswm gen i ama dim, bydd y byd a’r betws yn cael ei gweld hi wrthi cyn bo hir. Mae hi a’i sboner Gaz yn meddwl postio un o’u sesiynau nhw ar y peth porno ‘na - X Tube. Efallai bod ‘na ‘niche market’ iddyn nhw ond licswn i mo’u gweld nhw wrthi – bysa fe’n fy rhoi i off rhyw am byth. Welsat ti ddim lot o’enyn nhw ar sgrîn fach y cyfrifiadur cofia – bysa rhaid iddyn nhw ei ddangos e ar sgrîns un o’r ‘multiplexes’ ‘na.

Wi ddim yn lico gweid pethau cas amdeni hi a bydda i’n ffrind iddi hi yfory ond am heddi, mae hi wedi pechu.

1 comentario:

Anónimo dijo...

jejeje :D