viernes, 7 de diciembre de 2007

Gweithio bant - y pantomeim


Ethon ni i weld pantomeim neithiwr – ‘Aladdin’ yn y Lyceum yn Warrington ar bwys Manceinion. Wi’n lico pantomeims ond mae chwiw ar newid pethau y dyddiau hyn a dod â phethau cyfoes i mewn. Roedd y dyn drwg – Abanazar – yn treial cael gafael ar lamp hudol Aladdin ac own i’n ffilu deall pam oedd rhaid iddo fe gael y ‘daleks’ idd’i helpu fe yn lle’r ‘triads’ neu Fu Manchu – bysa hwnna wedi bod yn fwy credadwy. Roedd y ‘daleks’ yn edrych mwy fel fershiwn ‘shit’ o Mr Blobby â phidyn ar ei ben. Roedd Cocwyllt yn meddwl taw’r ‘teletubbies’ oedden nhw ond un eitha di-glem yw hi ar y gorau; mae hi’n dal i feddwl bod Dame Edna Everidge yn fenyw go-iawn. Yn yr ail hanner, fe ddechreuson nhw ganu cân oedd yn mynd – ‘We exterminate, we terminate ...’. Fe gollson ni bob amynedd gyda nhw ar ôl hynny a gadael cyn y diwedd.

Bues i mewn pantomeim unwaith yn yr ysgol gynradd – wel nid pantomein fel y cyfryw ond sioe i‘r Nadolig a gwed y gwir. ‘Elen Benfelen a’r Tair Arth’ oedd enw’r sioe. Yr unig olygfa wi’n ei gofio yw’r olygfa pan oedd y tair arth yn cyrraedd y tŷ – yn gynharach, roedd Elen Benfelen wedi torri i mewn i’r tŷ ac mae’r eirth wedyn yn sylweddoli bod rhywun wedi bod yn cysgu yng ngwely un arth, wedi eistedd ar gadair yr ail arth ac wedi byta uwd y drydedd arth. Fi oedd y drydedd arth a’m llinell i oedd – ‘Pwy sydd wedi bod yn bwyta fy uwd i?’ – ond wedyn dyna Gronw Davies yn gweiddu mas – ‘Fat Gary, ma fe’n byta popeth’. Aeth y lle’n ffradach wedyn; fe gwnnws Fat Gary a dechrau hemo Gronw a chyn pen dim roedd pawb wrthi’n ymladd â’i gilydd. Dyna’r sioe Nadolig olaf nethon ni; bu raid inni ganu ffycin carolau pob blwyddyn ar ôl hynny.

Fe etho i â’m nai i weld pantomein unwaith. Fe ddechreuws pethau off yn wael wrth imi gael llond ceg gan fy chwaer – ei fam – am ei alw fe’n ‘Benjy’ yn lle Benjamin. Mae hi wedi cael ‘pebble dash’ ar ffrynt y tŷ ac yn dechrau meddwl ei bod hi’n un o’r crachach. Fe wedws Ben wrtho i nes ‘mlan bod ei ffrindiau fe’n ei alw fe’n ‘Ratty’ ar ôl y gân ‘na ‘Ben’ gan Michael Jackson – bydden i byth wedi meddwl am hwnna; onid yw plant heddi’n glyfar. Fe wetas i wrtho fe y bysai’n well ‘tasa fe ddim yn gweid dim byd wrth ei fam. Os clywiff hi ei ffrindiau fe’n galw ‘Ratty’ arno fe, fe fydd hi’n amen arnyn nhw.

Fe ethon ni i weld ‘Snow White & The Seven Dwarfs On Ice’ yn y lle sglefrio ‘na ym Mryste ond joion ni ddim – roedd hi’n rhy ffycin oer. Mae Ben yn reit debyg ifi a simo fe’n lico’r oerfel chwaith. Doedd y sioe fawr o gop. Roedd y corachod biti dwywaith seis pawb arall ac roedd y lleisiau heb gael eu syncroneiddio’n dda. Fe gwmpws Eira Wen gwpwl o weithiau ac roedd Dopey yn cwmpo pob tro daeth e mlan. Doedd neb yn siwr a oedd hwnna’n rhan o’r sioe neu jwst ‘bo fe’n pallu sglefrio. Ar ôl yr egwyl, dyma Basil Brush o bawb yn mynd ffwl pelt ar yr iâ ac yn dechrau towlu anrhegion at y gynulleidfa. Chredi di byth ond ‘ice pops’ roedd e’n towlu aton ni. Gallsai fe fod wedi cael llygad rhywun mas ac myn yffach i, pwy sy isha ffycin ‘ice pops’ pan oedd y lle’n ddigon oer i’th geilliau gwmpo off – bysa ‘Fisherman’s Friend’ wedi bod yn well.

Gofynnws Ben ifi be’ ffwc oedd Basil Brush yn gwneud yn sioe ‘Snow White’; fe wetas i taw un o anifeiliaid y goedwig oedd e a ‘tasa fe’n rhegi fel ‘na ‘to, byswn i’n gweid wrth ei fam. Wi’n siwr ei fod e’n dysgu rhegi gyda’r crots ‘na sy’n ei alw fe’n ‘Ratty’ – ‘sneb arall yn y teulu’n rhegi; wel neb heblaw am Anti Eileen sy’n rhegi fel powyn ond mae mam yn gweid taw effaith y ‘prozac’ yw hwnna a ta beth i, simo ni’n cal ei gweld hi’n amal.

No hay comentarios: