Fe fuon ni yn y cachu ddydd Gwener; mae Cocwyllt a finna wedi pechu pawb erbyn hyn. Wi’m yn siwr be’ ddigwyddws ‘ta Cocwyllt yn y ‘gay bar’ wthnos ddiwetha – ac yn rhyfedd iawn, dyw hi ddim yn gweid dim byd - ond fe ddaeth dwy lesbiad at y stondin i godi cynnen gyda hi. Wi’n credu bod bach o genfigen yn hedfan o gwmpas y lle’n rhywle. Dyw Cocwyllt ddim yn un i gymryd nonsens gan neb a bu diawl o ffradach. Fe wnaeth hi roi ‘head butt’ i un ac wedyn bu’r tair o’enyn nhw yn rowlio ar hyd y llawr a’r dyrnau yn mynd i bob man. Roedd hi’n reit ddifyr i watsho a gwed y gwir ond fe ddaeth rheolwr y ganolfan siopa i lawr yn y diwedd a galw’r heddlu.
Bysa’n well ‘tasa Cocwyllt heb ddechrau dadlau gyda rheolwr y ganolfan a’r plismon wrth ei ochr. Dyma hi’n galw’r rheolwr yn ‘superscilious twat’ ond a bod yn onest, own i’n reit ‘impressed’. Bach o Sysnag gei di glywed gin Cocwyllt ond pan wetiff hi rwpath, mae fe wastod yn dda. Aeth y plismon bant â Cocwyllt wedyn ac fe wetws y rheolwr ifi dynnu’r stondin a’i gwân hi o’na.
Bu raid ifi dynnu’r stondin i lawr ar fy mhen fy hunan, rhoi’r stoc i gyd yn y ‘loading bay’ ac aros i’r giaffar – Mr Seffton – gyrraedd o Orllewin Cymru. Doedd e ddim yn hapus iawn. Wnetho i ddim byd ac fe wetas i ‘bo fi’n hollol ddiniwed a bai Cocwyllt oedd e i gyd. Dyma fe’n gweid wedyn bod y ddou o ‘ni cynddrwg a’n gilydd a ‘tasa hi ddim wedi neud rhywpeth, mater o amser fysa fe nes bo fi’n coco rhywpeth lan. Wi’m yn credu ei fod e’n deg ifi gael fy rhoi yn yr un cae â Cocwyllt – mae hi’n lot gwaeth na fi.
Bu raid ifi aros iddo fe wedyn pan aeth e i dreial cael Cocwyllt mas o’r ddalfa. Roedd hi wedi hanner nos pan gyrhaeddson nhw. Mae’n gweid nawr nag yw e’n mynd i adael inni weithio gyda’n gilydd ragor. Dyma fe’n penderfynu ela Cocwyllt i weithio yn Ballymena yng Ngogledd Iwerddon gyda Seisyllt ab Wmffre o bawb. Roedd e’n mynd i’m ela i draw ‘na ar y dechrau ond fe wetas i bo fi’n tynnu ‘mlan yn grêt gyda Seisyllt a’n bod ni’n cael uffach o hwyl ar y stondin. Roedd hwnna’n ddigon iddo fe newid ei feddwl – wi’n dechrau deall llinyn meddwl Mr Seffton erbyn hyn.
Mae Cocwyllt i fod i fynd nôl i orsaf yr Heddlu ym Manceinion ar y 22ain o Ragfyr ond bydd hi yn yr Iwerddon nawr. Fe wetas i wrth y giaffar ei fod e’n ei mentro hi wrth roi Cocwyllt ar y ‘Stena Line ferry’ i’r Iwerddon tan Noswyl ‘Dolig a hitha’n gorffod mynd nôl i le’r heddlu cyn hynny ond dyma fe’n gweid os bydd y llong yn suddo - fe fydd y llong yn suddo. Own i ddim yn ei feddwl e cweit fel ‘na ond wi’n gallu gweld y peryg hwnnw hefyd.
Rwyf inna nôl yn Llundain nawr. Fy nghosb i yw gweithio gyda Hedd Hambôn tan y Nadolig yn Basingstoke. Wi’n credu bod y lle ‘na o fewn can milltir i Lundain ac mae rhaid ifi deithio i mewn i’r gwaith bob dydd. Fe ddylai hi fod yn iawn i weithio gyda Hambôn os galla i arwain y sgwrs oddi ar bynciau’r clos a’r buarth. Mae fe ond newydd ddod mas o’r uned seiciatryddol yn ysbyty Glangwili ond mae Mr Seffton yn gweid ei fod e’n well erbyn hyn a’i fod e wedi stopo gwneud synau anifeiliaid. Gobeithio wir - mae’n dân ar fy nghroen idd’i glywed e’n gweryryd, brefu a rhochain trwy’r ffycin dydd.
Wi’n credu bod y gosb i’r ddou o’onon ni bach dros ben llestri. Wi ddim yn credu ‘bod ni wedi gwneud dim byd mor wael â ‘ny - heb ei fai heb ei eni ontefe. Wi’n gwpod be’ sy wedi mynd o dan ei groen e a does a nelo fe ddim byd â ni - ond ni sy’n gorffod dioddef. Wthnos ddiwetha, fe aeth e am gyfweliad i fod ar y rhaglen BBC ‘na - ‘Dragons Den’. Yn y rhaglen ‘ma, rwyt ti’n mynd o flaen grwp o ‘entrepreneurs’ reit lwyddiannus gyda dy gynnig busnes ac os ŷn nhw’n meddwl bod gwerth iddo fe, fe wnan nhw fuddsoddi yn dy gwmni. Triws Mr Seffton roi ei gynllun e iddyn nhw, sef prynu llwyth o lwyau bren o Woolworths am 25c, cael llwyth o’r pacedi ‘chewing gum’ ‘na sydd yn dod a’r datŵs ‘shit’ ‘na y mae plant yn gwlychu er mwyn rhoi ar eu dwylo, ac wedyn rhoi’r rhain ar grud y llwy a’u gwerthu nhw am 3.99 fel crefftwaith. Ma fe isha gwerthu’r ‘chewing gum’ wedyn am 50c. Clywas i hyn i gyd gan Mrs Seffton oedd yn meddwl bod y syniad yn hurt ond roedd hi’n ofan gweid dim. Wedws hi wrtho i y bu rhaid iddyn nhw gael y ‘security’ i mewn er mwyn ei dowlu fe mas o’r stiwdio a hwnco’n gweiddi - ‘But I could be the next Gerald Ratner!’
No hay comentarios:
Publicar un comentario