domingo, 2 de diciembre de 2007

Gweithio bant - cywirdeb gwleidyddol


Mae Cocwyllt yn gweid wrtho i na ddyliwn i weid pethau cas am Seisyllt a gadael llonydd iddo fe. Mae hi heb ddarllen be’ wi’n ysgrifennu amdeni hi eto. Fe glyws hi ‘bo fi’n ysgrifennu blog ond wetas i taw dim ond cyfrannu at ‘Cristnogblog’ odw i ac aiff hi ddim yn agos at hwnna. Un ffein i siarad i yw hi cofia; pan oedd Hannah Hwren yn glwc â’r dwymyn doben arni hi, fe dalws hi saith bunt i roi pwt yn y ‘Tivy-Side’ yn gweid – ‘Dymunwn adferiad buan i Hanner Evans o’i hanwylder meddyliol’ – ac wedyn rhoi llun o’r ‘elephant man’ uwchben y neges.

Fe wetas i wrthi hi i edrych am y trawst yn ei llygad hi ei hun ond aeth hwnna reit dros ei phen hi – perl o flaen y mochyn. Dyw Cocwyllt ddim yn gyfarwydd â’r dywediadau Beiblaidd ‘ma. Fe ddysgais inna lwyth o’enyn nhw pan oeddwn i’n blentyn bach yng ngwely Mr Davies, gweinidog yr Annibynwyr yng nghapel Hermon – a gwed y gwir, fe ddyliwn i gael iawndal am hwnna ond mae’r bygar wedi marw erbyn hyn.

Mae rhaid iti fod mor ofalus o beth rwyt ti’n ei weid y dyddiau hyn gyda’r peth cywirdeb gwleidyddol ‘na ac mae ysgrifennu’n fwy byth o beryg – mae popeth ar gof a chadw wedyn. Ifi yn sensro fy hunan ar y blog ac os cadwa i bant o’r Moslemiaid, fe ddyliwn i fod yn iawn. Doedd pethau ddim yn arfadd bod mor eithafol. Roedd ‘na foi yn y dafarn gartra a ‘Popeye’ roedd pawb pawb a phobun yn ei alw fe oherwydd ei lygad gwydr. Fysat ti ddim yn cael galw hwnna arno fe bellach; bysa gwarchodwyr yr unllygeidiog ar dy war. Doedd dim ots ’dag e a bysa fe’n jocan ambiti’r peth. Tynnai fe’r llygad mas, ei ddala fe wrth ei dalcen a dechrau siarad fel un o’r ‘daleks’ ‘na mas o Dr Who. Dro arall, rhoiai fe belen wen yn soced y llygad a rhedeg o gwmpas y lle’n gweiddu – ‘That’s the last fucking time I’m playing ping-pong’. Doedd y peth yn poeni dim arno fe.

Mae ‘na foi o’r enw Tommy Munchkin wedyn; y dyddiau hyn chei di ddim galw ‘munchkin’ arno fe. Wi’m yn credu y gelli di ei alw fe’n ‘Tommy the dwarf’ chwaith; erbyn hyn person bach o ran ei uchder yw e. Mae fe’n ffrind da i’r bois i gyd ac mae’n ddefnyddiol iawn. Unwaith fe ofynson ni iddo fe ddilyn Wil Coc Braich Babi i mewn i’r tŷ bach er mwyn cael tynnu llun o’i bidyn. Roedd Wil heb sylwi ei fod e yno; does neb yn gwpod ei fod e o gwmpas y lle a gwed y gwir nes bo fe’n tapo dy ben-glin i weid ‘sut mae’. Fe allai fe fod yn ysbïwr i MI6 – bysa fe’n well na James Bond; fe alla i ei weld e nawr fel milgi bach yn rhedeg ar ôl Scaramanga ac yn cnoi ei ben-ôl.

Iwan Cachu Buwch - dyna un arall iti ond wn i’m pam bysan nhw’n conan am yr enw ‘na. Does neb yn cael hwyl am ben rhyw nam corfforol; mae fe jwst yn drewi o gachu buwch. Bach o sebon a gwerthu’r fferm a bysa fe’n iawn.

Euronwy Cocwyllt a Hannah Hwren – dyna eu natur ontefe. Efallai eu bod nhw’n gaeth i ryw fel ‘sex addicts’ ac wi’n gwpod nad wyt ti ddim i fod i gael hwyl am ben ‘addicts’ ond be’ ffwc – Cocwyllt a Hwren fuon nhw imi erioed.

Wil Coc Braich Babi – mae hwnna’n fwy o ‘compliment’ a sai erioed wedi ei glywed e’n conan am yr enw; i’r gwrthwyneb, fel ‘na mae’n cyflwyno ei hunan i bawb. Mae fe’n wir hefyd; fe welson ni’r llun dynnws Tommy Munchkin ohono fe yn y tŷ bach. Dyna pam mae’n cael llwyth o fenywod canol oed ar ei ôl e a fynta’n bell dros ei ddeg a thrigain.

Mae ‘na stori am ddyn yn y Rhondda wi’n ffindo’n reit ddiddorol - ‘Judy’ mae pawb yn ei alw fe ac fe ddywa i at y rheswm yn y man. Hen ddyn yw e erbyn hyn – mewn gwth o oedran – ac mae fe’n lico wara biti a rhoi ei ddannedd doti yn niodydd pobl eraill. ‘Sneb yn meddwl bod y peth yn ddoniol neu’n glyfar a dylai fe wpod yn well yn ei oedran e. Mae pawb yn gorffod cadw golwg arno fe trwy’r amser ac os yw ei wyneb e’n cwmpo mewn, rwyt ti’n gwpod bod y ffycin dannedd ‘na mas. Mae’n uffach o sioc os maen nhw’n dod atot ti wrth yfed dy beint. Roedd ei wyrion yn ofan mynd draw idd’i weld e; dôn nhw byth yn gwpod lle bysa’r dannedd doti ‘na yn bennu lan. Siwrnai fe wnaeth e eu rhoi nhw yn ‘Readybreck’ ei wyres a phan ddethon nhw i’r golwg ar ei llwy, doedd dim taw ar ei sgrechain am oriau. Fe ddealli di erbyn hyn idd’i ddannedd e fod mas lot mwy na fuon nhw i mewn ac fel ‘na buws hi erioed.

Fe gas e’r enw ‘Judy’ pan oedd e’n ddyn ifanc di-ddannedd yn gweithio ym mhwll glo y Cambrian. Roedd y ‘pit head baths’ yn y pwll hwn yn fach a chyfyng a bu raid i’r glowyr wasgu at ei gilydd o dan y cawodydd. Ymhen amser, fe ddaeth y pwll hwn yn boblogaidd iawn gyda’r ‘gays’ yn y cwm ac yn wir, bu ddigon o’enyn nhw i ffurfio seindorf pres. Ar y dechrau roedd pawb yn galw’r dyn ‘ma’n ‘gummy’ am resymau amlwg ond gyda dyfodiad ambell i ‘gay’ muy ‘camp’ na’i gilydd, fe ddechreuson nhw alw ‘Judy’ arno fe am taw enw gwreiddiol Judy Garland oedd Frances Gumm. Dyna’r hanes y tu ôl idd’i enw fe ac mae’n wir pob gair – cris croes tân poeth.