viernes, 9 de noviembre de 2007

Ymddiheuriadau


Bore heddi fe wnetho i flog a rhoi fideo arno biti’r boi ‘ma o Lanelli oedd ar X-factor. Roedd e’n ‘camp’ ofnadwy ac fel y gwetas i ar y blog yn swno fel Dale Wilton yn canu ag ‘aubergine’ i lan ei din. Mae neges yn dod i lan nawr yn gwed nag yw’r fideo ar gael rhagor er ei fod ar gael o hyd ar ‘youtube’. Rwyf wedi dileu’r blogiad i gyd. Wi’n gobitho taw rhyw glitsh oedd hwnna ond mae fe wedi gwneud ifi feddwl. Er imi roi’r fideo ar y blog am ifi weld y boi yn reit ddifyr a doniol, fe all pobl eraill ei weld e’n sarhaus a di-barch ato ac ymddiheuriadau lu os felly maen nhw’n ei weld e. Simo fi'n moyn tynnu'n groes i neb.

Tueddu i ysgrifennu a’m tafod yn y boch ydw i ac yn gweld rhai pethau’n ddoniol na ddyliwn i o bosibl. Pan gollws fy wncwl Samuel ei fraich dde mewn damwain, fe wetas i wrth fy mrawd - o leiaf fe fydd hwnna’n ei wneud e’n llai o wancer nawr - mae hwnna’n ddoniol ifi a’m brawd ac i wncwl Samuel a gwed y gwir ond nid i bawb.

Ta p'un i, fe fydda i’n gweithio bant yfory, felly dyma ddiwedd y cyfnod blogio ‘ma – efallai bydda i nol adeg Nadolig, gawn ni weld. Mae fy mos wedi ela tocyn ato i i fynd i Birmingham yfory a dim ond £5.00 gostiodd yr effin tocyn iddo fe - mae fe'n dynn ei boced 'twel; bydda i'n cyrraedd Victoria Station yfory ac fe fydd 'na geffyl a chert yn aros amdano i siwr o fod. Bydda i'n dod nol i Lundain o Newcastle Upon Tyne, ac os caf i'r un math o docyn fe fydd hi'n flwyddyn newydd arno i'n cyrraedd yma.

2 comentarios:

Anónimo dijo...

Ceri, I'm so sorry to see you go. Yours has been my favorite Welsh blog - you've often made me laugh out loud. And as far as what you should or shouldn't make fun of - it's the serious stuff that most needs it.

Thanks, too, for all your feedback on my blog. Pob lwc.

Cer i Grafu dijo...

Diolch o galon iti 'achan. Wi heb roi'r gorau i'r blogio - jwst bod dim cyfrifiadur i gael gen i tra bo fi bant. Wi'n gwitho saith niwrnod yr wythnos, felly mae amser yn brin hefyd ond fe bostia i rywpeth pan gai gyfle.