martes, 6 de noviembre de 2007

Vegetable designer cutters & condoms




Bydda i off yn gweithio yng Nghanolbarth a Gogledd Lloegr tan y Nadolig, felly prin fydd y blogio am sbelen. Wi ar gytundeb gwaith ‘ta chwmni arall ar hyn o bryd ond mae’r gwaith yn dod i ben pythewnos cyn y Nadolig, felly wi’n mynd i roi'r gorau i hwnna a mynd i weithio i'r cwmni arall ‘ma.

Bydd y job wi'n ei wneud nawr yn ail-ddechrau ym mis Ionawr, felly rown i isha esgus i bennu’n gynnar heb eu hypseto nhw. Bues i dros y penwythnos yn treial meddwl am rywpeth i weid ac yn diwedd wedas i wrthyn nhw fod fy nhad wedi manglo ei law yn y peiriant torri gwair ac am fod fy mrawd ar gwrs dysgu cneifio yn Awstralia am fis, roedd angen ifi fynd adref i helpu ar y fferm. Wi’n meddwl ifi ddod bant ag e – roedden nhw’n swnio’n eitha ‘sympathetic’. Wi’n dueddol o fynd dros ben llestri wrth wilo am esguson ond wi’n credu ifi fwrw’r hoelen ar ei phen y tro hyn.

Gweithio i gwmni nid anhysbys o Orllewin Cymru bydda i nawr. Bob Nadolig mae’r cwmni yn rhentu gofod mewn amryw o ganolfannu siopa ac mae biti deg o’ni mewn canolfannau gwahanol yn gwerthu stwff reit neis a gwed y gwir - hynny yw pawb heblaw amdano i. Bob blwyddyn mae’r bos yn cael stoc ychwanegol o rwtsh cefn lori a dyna beth sy’n cael ei werthu ar fy stondin i.

Eleni mae fe wedi cael llwyth o ‘vegetable designer cutters’ oddi wrth Don Iago ‘Corleone’ Edwards o Lanymddyfri. Teclyn yw hwn sy’n torri, pilo a chreu siapau neis gyda llysiau a ffrwythau. Wi i fod i roi ‘presentation’ bob awr a hanner ar y stondin er mwyn dangos i’r bobl pwy mor glyfar yw’r peth hyn ond wi wedi bod yn practiso ers wythnos ac wi’n gwneud cabolach llwyr mas o’r courgettes ac mae sudd y tomatos yn mynd dros bob man. Fe alla i jwst abowt pilo taten ‘ta’r peth ond mae’n gloiach i iwso cyllell cyffredin a gwed y gwir wrthot ti.

Rŷn ni’n gwerthu’r peth am £9.99 – meddylia shwt wyneb sy dag e! Am hyn rwyt ti’n cael y teclyn bach arall ‘ma am ddim sydd i fod i dynnu’r galon mas o afal! Wi jwst yn torri’r afal yn shwps bob tro wi’n treial wpo’r ffycin teclyn yndo fe. Wi’n credu y gwna i roi’r fideo mlan i ddangos i bobl – bydden ni’n siwr o werthu mwy fel ‘na, ac wi’n ei gweld hi’n wast o fwyd da os wi’n gorffod ei wneud e. A bod yn onest pwy sy isha tomato a melon mewn siap calon, wedi’r cwbl.

Y llynedd oedd y gorau - fe gas e focseidi ar ben bocseidi o hen stoc ‘Ann Summers’ mewn ocsiwn yn Llanrhaeadr ym Mochnant. Dim ond fi ac Euronwy Cocwyllt o Bentrecagal oedd yn folon gwitho ar y stondin hwnnw – roedd gormod o gywilydd gin bawb arall ond fe joion ni mas draw.

Fe fuon ni’n gwerthu ‘vibrators’, ‘dildoes’, ‘crotchless panties’ a llwyth o bethau ecsotig. Y peth gorau oedd y ‘glow in the dark condoms’. Ar ôl y diwrnod cyntaf pan oen ni nôl yn y fflat, fe etho i’r bathrwm a gweitho min ar fy mhidyn, rhoi’r condom ffliwresent ‘ma mlan a diffodd y golau. Ti’n gwpod be’ – maen nhw’n gweithio hefyd. Fe weiddiais i ar Euronwy i ddod i mewn idd’i weld e, ac yn wir iti, fe fuws y ddou o’ni yn ein dyblau’n chwerthin hyd nes ifi golli'r min a'r condom yn slipo off.

Ar y stondin y bore wedyn, fe roion ni gondom ar un o’r dildoes a'i roi e mewn bocs cardbord a thorri twll bach yndo fel y gallai pawb bipo i mewn idd’i weld e’n sheino. Roedd y bocs ‘na yn boblogaidd iawn ac fe werthon ni mas o bob un condom, ac yn wir iti roedd ‘na gannoedd ohonyn nhw. Gobeithio bod y bos yn sylweddoli pwy mor dda rŷn ni’n gwerthu’r stwff hyn.

No hay comentarios: