viernes, 16 de noviembre de 2007

Gweithio bant - Seisyllt ab Wmffre


Dôn i ddim yn meddwl y celen i gyfle i flogio tan y Nadolig ond rwyf wedi dod o hyd i gyfrifiadur yn y llyfrgell ‘ma yn Redditch ar bwys Birmingham, felly dyma fi nôl ar y blog i chwydu fy mherfedd - mae angen bach o therapi arno i.

Rwyf wedi dechrau gweithio ar stondin yn y ganolfan siopa ond yn anffodus mae rhaid ifi weithio gyda’r brych ‘ma o’r enw Seisyllt ab Wmffre. Wn i’m amdanot ti ond wi’n meddwl bod hwnna’n enw ffycin stiwpid; pan wnaeth e gyflwyno ei hun imi rown i’n meddwl bod nam ar ei leferydd. Fe ofynnais i iddo fe a oedd pobl yn tynnu ei goes oherwydd ei enw ond wnaeth e jwst edrych arno i’n syn – own i ddim yn ei feddwl e’n gas ac fe dreiais i awgrymu bod ei enw fe bach yn rhyfedd, ond roedd e’n pallu gweld hynny. Lwcus na chas e mo’i eni yn f’ardal i; fe fysa plant y pentref yn gadael llonydd i Jeremiah Snotgrass a phigo ar Seisyllt druan – sdim dowt biti hwnna.

Wi ddim yn credu ei fod e’n fy lico i ryw lawer; dyw e ddim yn gweid gair wrtho i – man a man ifi siarad â’r wal. Ma fe’n eistedd wrth fy ochr i ar y stondin yn darllen y Beibl trwy’r dydd; rwyf innau’n darllen ‘Viz’ – mae hwnna’n reit ddifyr. Er mwyn tynnu arno fe, fe ofynnais i a oedd ei lyfr e’n reit ddifyr hefyd a dyma fe’n ateb nôl yn eitha swrth taw llyfr yr Arglwydd oedd e. Roedd hwnna’n ormod o demtasiwn ifi ac fe wetas i fy mod i wedi darllen ‘The Fellowship of The Ring’, ond heb gael gyfle i ddarllen y ddou arall eto. Os felly – dyma fe’n slamo’r Beibl i lawr a cherdded off am awr a hanner. Mae’n amlwg bod mwy o synnwyr digrifwch gyda’i rieni nag sy gyda fe.

Dyw pethau ddim yn gwerthu’n rhy dda ar y stondin ac ychydig o arian rŷn ni’n ei wneud. Er mwyn helpu’r achos ryw ychydig fe etho i i ‘Poundshop’ echddo a phrynu llwyth o jars coffi am bunt yr un a’u rhoi nhw ar ein stondin ni a’u gwerthu nhw am £2.50. ‘Sdim rhagor i gael yn ‘Poundshop’, felly maen nhw’n gwerthu’n reit dda gyda ni. Fe wetws Seisyllt wrtho i fy mod i’n anfoesol yn gwneud shwt beth ond rwyf i wedi ei weld e’n pigo ei drwyn ac yn glanhau’r baw ar ei drwser ac wi’n meddwl fod hwnna’n waeth o lawer, felly pwy yw e i weid dim.

Mae gen i bythewnos arall fan hyn cyn symud mlan i Fanceinion a gobeithio na fydd e gyda fi yn y fanna. Dyw e ddim yn berson hawddgar. Fe soniais i wrtho fe fy mod i’n ysgrifennu blog o bryd i’w gilydd ond fe wetws e’n syth nôl y bysa’n well gynto fe gael ei garcharu yn ‘Guantanamo Bay’ na darllen dim byd gen i. Rwy’n ei gredu fe hefyd, felly fi alla i weid beth wi’n moyn biti’r pwrsyn digywilydd – fydd ei fawr callach

1 comentario:

Nwdls dijo...

Dwi newydd chwerthin fel udfil gwallgo o flaen y cyfrifiadur. Diolch Ceri!