domingo, 4 de noviembre de 2007

Dyfyniadau


Fe fues i’n pori dros wefan yr AFI neu’r ‘American Film Institute’ ac yn 2005 fe wnethon nhw holi rhyw 1,500 o artistiaid, beirniaid ac haneswyr er mwyn ffindo mas pwy ffilmau sydd â’r dyfyniadau mwya cofiadwy a phoblogaidd. Mae cant o ddyfyniadau ar y rhestr ac rwy’n gyfarwdd a nifer go lew o’enyn nhw. Mae’n rhwyddach gweld y rhestr fan hyn.

Mae gan ‘Casablanca’ fwy o ddyfyniadau na’r un ffilm arall ac wedyn mae gan ‘Gone With The Wind’ chwech a thri sy gan ‘The Wizard of Oz’. Y dyfyniad mwya poblogaidd ac yn rhif 1 yw hwn:

“Frankly my dear, I don’t give a damn – Rhett Butler (Clark Gable), Gone With The Wind (1939).

Wrth gwrs, mae pawb yn mynd i hollti blewyn dros restrau fel hyn ac yn gweld colled eu ffefrynnau nhw, ond bach o hwyl yw hi ontefe. Dyma rai dyfyniadau wi’n eitha lico na chas le ar y rhestr:

“Shelter me, O Lord. I trust in you. In you I take refuge” – Jesus (James Caviezel), The Passion of Christ (2004)

"Aaaarrrrrhhh" - Linda Lovelace (Herself), Deep Throat (1972)
.
"Goodnight Maria, I'm sure you'll make a very fine nun" - The Baroness (Eleanor Parker), The Sound of Music (1965)

“Did you see what she did, your cunting daughter!” – Regan MacNeil (Linda Blair/ (llais) Mercedes MaCambridge), The Exorcist (1973)

“God you look rough this morning Mr Merrick. Have you been down the wine cellar again” – Dr Frederick Treves (Anthony Hopkins), The Elephant Man (1980)

“Wednesday, play with your food” – Morticia Addams (Angelica Huston), The Addams Family (1991)

“Be careful with that fucking axe, Tin Man” – Dorothy Gale (Judy Garland), The Wizard of Oz (1939)

"I think we may have made a mistake leaving the Shire, Pippin" – Merry (Dominic Monaghan), The Lord of The Rings: The Two Towers (2002)

“I’ll get you, you little fucker” – Sylvester The Cat ([llais] Mel Blanc), Sylvester and Tweetie Pie (1942)

Un o’m hoff ddywediadau i erioed yw rhywpeth wedws rhyw ffrind imi o’r cymoedd ‘slawer dydd. Un diwrnod roedd biti wyth ohonon ni’n cerdded ar hyd y rheilffordd ac fe geson ni ein dala am drespasu. Ymhen amser, bu rhaid inni i gyd fynd o flaen rhyw lys arbennig i blant a sefyll mewn rhes o flaen yr ynadon hyn a’n mamau i gyd y tu ôl inni – y fath gywilydd. Ar ol i’r ynadon fynd trwy eu pethau yn gweid pwy mor beryglus oedd cerdded yn y fath le bla bla bla, dyma nhw’n gofyn inni a hoffen ni weid rywpeth. Isha inni weid ‘sorry’ neu ‘wnai i byth mo fe ‘to’ oedden nhw wrth gwrs a dyna a wnaed – pob un ohonon ni’n gweid ‘sorry’ un ar ôl y llall - hynny yw, pawb heblaw am David Thomas a wedodd ‘I’m sorry, I don’t know what came over me’.

Fe byrston ni i gyd mas i wyrthin pan wedws e hwnna, a bu gwên ar wyneb yr ynadon hyd yn oed. Mae cof hir gin bobl y cymoedd a hwnna fydd ar ei garreg fedd e siwr Dduw iti - er parchus cof am David Thomas - He doesn’t know what came over him.

No hay comentarios: