viernes, 2 de noviembre de 2007

James Bond - 007


Fe fues i’n gweithio yn Nwyrain Llundain ddoe tan 10 o’r gloch y nos ac wedyn rown i’n gorffod dala’r bws i fynd nôl i mewn i’r gwaith am bedwar o’r gloch bore heddi. Mae'r bastards yn treial fy lladd i - wir yr, ond beth all dyn ei wneud. Penderfynais i nad oedd fawr o bwynt mynd i’r gwely, felly arhosais i lan yn watsho dwy ffilm James Bond ar y we tan y bore bach.

Wi ddim yn cofio beth oedd enw un o’r ffilmiau ‘ma ond Roger Moore oedd Bond a’i wejan e oedd yr actores Jane Seymour. Fel mae’n digwydd, wedodd Rob wrtho i unwaith taw dyn oedd Jayne Seymour ac iddo gael triniaeth feddygol ym Moroco i droi’n fenyw ond fe ddarllenais i amdeni yn y wicipedia ac dyw hynny ddim yn wir. Er mwyn gneid yn siwr, wi newydd ddod off y ffôn ‘da Rob ac ma’ fe’n gweid erbyn hyn taw nid Jane Seymour yr actores oedd wedi mynd trwy’r newid ond Jayne Seymour, un o wragedd Harri’r 8fed - dyw hwnna ddim yn wir chwaith yn ol y wicepedia, er ‘sa ti ‘n gweld llun ohoni hi mae’n ddigon hawdd credu’r peth.

Mae Rob yn un am dynnu coes a wilia dwli ar y gorau fel bo fe’n anodd gwpod os yw e’n gwed y gwir neu beidio weithiau. Wi ddim yn mynd i gretu dim byd wetiff e ragor ombai bo fi’n ei ddarllen e yn y ‘Daily Mail’ neu’r wicipedia.

Yr ail ffilm welais i oedd ‘On Her Majesty’s Secret Service’ a rhyw foi o’r enw George Lazenby oedd 007 yn hon, ac mae fe’n priodi Diana Rigg sydd yn cael ei lladd gan Blofeld ne rywun ar y diwedd. Heblaw am briodi Diana Rigg, sai’n cofio dim byd arall am y ffilm a gwed y gwir a dim ond neithiwr gwelas i ddi. Dangos pwy mor wael oedd y ffilm yw hwnna, mae’n debyg.

A gwed y gwir roedd y ddwy ffilm yn eitha gwael ac wedi dyddio’n ofnadw. Wedi eu dybio i’r Sbaeneg oedden nhw ac fe weta i wrthot ti - mae’r Sbaenwyr a’r Latinos yn ddybwyr penigamp fel arfer a bysach chi’n tyngu taw iaith gynta naturiol Robert de Niro a Meryl Streep yw’r Gastilaneg ‘sa chi’n pipo i mewn idd’u gweld nhw ar y sgrîn fawr mewn sinema yn Buenos Aires neu Madrid. Yn anffodus, roedd y dybwyr yn feddw racs pan ddybon nhw’r ddwy ffilm llawn dwli ‘ma a bu’r syncroneiddio dros y lle y gyd gyda’r lleisiau yn dod sbel ar ôl i’r actorion gau ceg.

Rwyf wedi gwed o’r blaen taw gwylio ynteu lawrlwytho ffilmiau off gwefanau Sbaeneg ifi’n ei wneud ac mae na ddolennii ar ochr y blog os oes diddordeb ‘ta rhywun. Er hynny mae petha’n mynd o ddrwg i waeth a ‘sgetyn roedd shaw o ffilmiau gwych ar gael ond erbyn hyn mae’r ffilmau newydd ond yn aros am ddiwrnod os wyt ti’n lwcus cyn iddyn nhw gael eu dileu am dorri hawlfraint.

Welais i ‘The Godfather’ wythnos ddwetha ac wedyn etho i ati i lawrlwytho ‘Godfather 2’, sydd i fod cystlad â’r un gynta yn ôl y sôn, ond roedd y gwarchodwyr hawlfraint wedi dileu’r ffilm oddi ar y wefan a hynny o fewn pedair awr - y bastards digwilydd ishta ag ŷn nhw.

Geso i ffrae unwaith gyda rhywun oedd yn gweid bo fi’n cefnogi ‘drug barons’ yn Columbia wrth gefnogi’r gwefannau ‘ma ond sai’n gweld shwt a ta p’un i, simo fi’n angel ac a gwed y gwir, un o'r teip odw i ‘sa ddim yn gwed dim byd taswn i’n cael gormod o newid am fy arian yn y siop gornel; er hynny ac er profi fy enw da, wi yn helpu elusennau pob wythnos wrth wara’r loteri, felly mae fy nghydwybod yn glir.

Un peth rwyf wir yn ei erbyn yw’r ffaith ‘bo na adran porno ar y gwefannau 'ma erbyn hyn. Sai’n cytuno â hynny o gwbl am fod ‘na ffilmiau i blant fel ‘Batman’ a ‘Spiderman’ ar gael hefyd sy’n denu plant at y gwefannau ‘ma. Welais i un o’r enw ‘surprise pour la demoiselle’ pwy ddiwrnod er mwyn gwella fy ffrangeg ryw ychydig ond doedd fawr o siarad Ffrangeg yndo’r ffilm a bod yn onest, a buo raid ifi droi ‘r peth bant ar ôl ugain munud a gadael neges ar y fforwm ymwelwyr yn gweid fod e’n ‘disgusting’ a bod defnyddio neidr byw mewn un olygfa yn greulon, diangen ac yn fwy o sypreis i’r anifail druan na’r 'demoiselle' - siwr Dduw iti.

Mae Xtube i gael am y stwff ‘na wedi’r cwbl lle mae ‘na fwy o amrywiaeth a llai o gamdrin anifeiliaid - ac mae’r bwffro yn lot gloiach ‘ed.

No hay comentarios: