martes, 23 de octubre de 2007

Y cythraul canu


Etho i i gyfarfod ‘Cymdeithas Drama Battersea' heddi. Diwrnod pwysig iawn oedd hi i bawb am taw heddi roedden ni’n dewis y prif ran yn ein cynhyrchiad Nadolig o’r ‘King and I’ gan Rodgers & Hammerstein.

Rown i wir isha cael fy newis i wara’r brenin o Siam. Bues i wrthi’n ddiwyd yn dysgu dawnsio a chanu mewn tiwn – ac fe wetas i wrth y pwyllgor dethol y byswn i’n folon siafo fy mhen yr un fath â Yul Brynner yn y ffilm pe bai raid – ac a gwed y gwir ac heb fod yn ben bach rwy’n credu ifi gael fy ngeni i wara’r rhan hon.

Ond gyfeillion, dyw bywyd ddim yn deg a phwy gas ran y brenin o Siam ond Michael (gwyneb mong) Stevens.

Mae cywirdeb gwleidyddol yn mynd yn rhy bell weithiau ac fe wetws Martin (gobshite) Lewis, y cyfarwyddwr, y dylai’r brenin fod yn benfoel a diniwed ac am fod Michael yn dioddef o ‘leukaemia’ a dim blewyn ar ei ben a llai byth o sens yndo - yn ei e farn e, roedd e’n berffaith am y rhan ac doedd ffwc all o ots ‘dag e nag oedd e’n gallu siarad, canu ne’ ddawnsio yn well na mwnci ag un goes, dim ceg ac un fraich - fe ddyla wara’r brenin.
.
Mae Martin wedi cynnig rhan imi fel un o weision y brenin yn dala picwarch ne' rywbeth y tu ol iddo fe, ond fe alliff e fynd i gael wanc yn borcyn ar dop rhyw 'iceberg' os yw e'n credu 'bo fi'n mynd i wara ail ffidl i Michael y mong.
.
Dal i ddod drost y peth ydw i ond licswn i weid un peth - wi’n lico ‘musicals’ ac wi’n gwpod nag ŷn nhw at ddant pawb ond 'so na’n gweid ‘bo fi’n ‘gay’ ne’ ddim byd fel ‘na – jwst bod y plentyn yndo i’n dal i joio bywyd y ffair a’r ceffyla bach.

Nag yw i’n dala dig - ond daw dydd a’r diwrnod hwnnw fe gaiff pawb fy ngweld yn canu nerth calon mewn sioe ar ‘Broadway’ ne’r Stiwt yn Rhosllanerchrugog ac fe fydd y gymeradwyaeth yn fyddarol.

Ti gei di weld Martin Lewis y coc oen ishta ag wt ti - daw dydd y bydd mawr y rhai a gas gam!

No hay comentarios: