jueves, 22 de noviembre de 2007

Gweithio bant - y lleian a nytars eraill


Dyw gweithio ar stondin ddim yn rhwydd; rwyt ti’n denu pob un nytar sy’n digwydd pasio heibio ac does bosib diengyd. Dyw hi fawr o help ‘bo fi’n gweithio gyda Seisyllt y ‘wombat’ ‘chwaith ond o leiaf, dyw e ddim yn gweid lot.

Mae’r ‘Jehovas’ yn ymwelwyr reit ffyddlon ac am nad oes ‘na ddrws i slamo yn eu hwynebau, mae’n anodd cael eu gwared nhw. Rwyf wedi treial fy ngorau glas i fod yn gas ac anghwrtais wrthyn nhw ond towlu dŵr ar gefn hwyaden yw e. O leiaf, maen nhw’n rhoi copi o ‘Watchtower’ iti ac mae hwnna’n handi i stwffo’r ‘teddy bears’ rŷn ni’n gwerthu o bryd i’w gilydd.

Ers wythnos nawr, mae’r lleian ‘ma – Sister Magdalena – yn galw heibio pob dydd. Dyw hi ddim yn prynu dim byd ond mae hi wedi cymryd ato i ac ifi’n cael clywed ei hanes i gyd. Mae hi’n bell o fod yn llawn llathen ond mae’n ddigon annwyl. Fe ddaeth hi â ‘jaffa cake’ imi ddydd Llun. Dyw hi ddim yn dod â dim byd i Seisyllt. Mae’n rhyfedd ‘bod nhw heb glosio at ei gilydd; mae’r ddau o’ nhw’n mwynhau’r peth crefydd ‘na ond wedi meddwl, mae Seisyllt yn edrych yn reit debyg i Nosferatu ac efallai ei fod e’n ela ofan arni hi.

Own i wastod yn meddwl bod lleianod yn dod fesul dwy neu dair ond mae hon ar ei phen ei hunan bach trwy’r amser. Efallai nad yw hi’n lleian go-iawn – ti byth yn gwpod gyda’r nytars ‘ma; maen nhw’n dueddol o fod bach yn ‘schizzo’. Mae’n bosib y daw hi i mewn wythnos nesa wedi gwisgo i lan fel Marie Antoinette – does wbod.

Wi erioed wedi cwrddyd â lleian o’r blaen ac mae’n anodd gwpod beth i weid. Mentrais i ofyn iddi a oedd hi wedi gweld ‘The Sound of Music’ ond camgymeriad mawr oedd hwnna; yn sydyn reit fe ddechreuws hi ganu ‘Climb Every Mountain’ ar dop ei llais. Mae nytars yn dueddol o wneud hynny; fe ganan nhw am y rheswm lleiaf. Dyna le’r oedd hi reit o flaen y stondin yn canu ‘Climb every mountain, recall every dream’ a finna’n pallu credu’r peth. Bu raid ifi dorri ar ei thraws hi a gweid - ‘It’s “Climb every mountain, ford every stream” - get a grip!’ – ond chymerws hi ddim owns o sylw ohono i a chario ‘mlan i ganu mas o diwn a chyda’r geiriau gwneud yn ôl ei ffasiwn hi ei hun. Bu pawb yn dishgwl arni hi ac yn pasio heibio yn reit glou. ‘Sdim syndod ‘bod ni heb werthu dim byd.

Bues i’n gweithio yn Portsmouth unwaith ac mae’r lle ‘na yn llawn dop o bobl gloff am ryw reswm. Mae ‘na fwy o bobl mewn cadair olwynion yno nag sydd ‘na o ddefaid yng Nghymru ac maen nhw’n beryg bywyd – pob un wan jac o’nhw. Mae'r ganolfan siopa fel trac rasio i'r anabl.

Roedd un o'enyn nhw - Mr Cruickshank - yn dod i lan at y stondin pob dydd ac yn mynd 'mlan a 'mlan am oriau bwygilydd am ei brofiadau yn y llynges Brydeinig. Er hynny, roedd hi’n ddigon rhwydd cael gwared o ge ‘taswn i’n dechrau blino ar ei ddwli – own i’n dod mas o’r stondin, troi ei gadair rownd cwpwl o weithiau, ei hwpo fe yn y lifft, gwasgu’r botwm i’r trydydd llawr a cherdded bant. Fel arfer, fe gymerai hi biti dwy awr cyn iddo fe ddod o hyd ifi eto.

Fe ddyliwn i fod yn weithiwr cymdeithasol neu’n un o’r ‘psycho nurses’ ‘na. Mae gen i hen ddigon o brofiad o ddelio â nytars ac wi’n eitha amyneddgar weithiau. Mae’n debyg ‘bo fi’n boblogaidd gyda nhw hefyd ac mae hwnna wastod yn help. Dyw hi fawr o job odi fe – byswn i’n eu rhoi nhw mewn ‘straightjacket’ a bant â nhw i’r seilam ‘tasan nhw’n dal i wara lan. Mae hwnna’n lot gwell na gadael iddyn nhw grwydro i’r lle mynnon nhw i godi gwrychyn pawb. Wi’m yn deall y bobl ‘na sy’n mynd ‘mlan biti ‘gofal yn y gymuned’ – ‘sneb yn gofalu amdenyn nhw a dim ond dy bisho di off na' nhw yn y diwedd.

2 comentarios:

Anónimo dijo...

Diolch Ceri.Wi di bod yn darllen dy flog ers cwpl o fisoedd. Ti'n gwneud i fi chwerthin bob tro.

Anónimo dijo...

Ouch. Wel, dwi'm yn mynd i geisio dyfalu *pam* ydan nhw mor hoff o hogyn neis, call fel ti...