lunes, 26 de noviembre de 2007

Gweithio bant - Sion Corn a'r 'ganja leaves'.



Fe godson nhw ‘Santa’s Grotto’ reit ar bwys ein stondin ni Nos Iou. Dôn i ddim yn hapus ar y pryd a bod yn onest. Mae ‘na dri pheth wi’n casáu mewn bywyd – plant, athrawon a’r boi Jeremy Clarkson off y tele. Mi fydd ‘na blant o gwmpas ein stondin ni nawr fel ffycin gwyped rownd pen-ôl y fuwch – gei di weld.

Mae ‘na ddwy gân yn atsain mas o’r lle un ar ôl y llall – ‘When A Child Is Born’ gan Johnny Mathis ac wedyn Cliff Richard a’i blydi ‘Mistletoe And Wine’. Mae’n ddigon i’th ela di’n benwan. Mae Seisyllt wrth ei fodd wrth gwrs.

Daeth haul ar fryn pan ofynnws Siôn Corn a oedd want arnoi brofi ei ‘ganja leaves’. Buasai’n anghwrtais i wrthod ac felly gelwais i draw at yr ogof yn ystod yr awr ginio. Y tu fewn i ddrysau cloëdig yr ogof yr oedd Ceri Wyn (fi), Siôn Corn (Winston Ouagadougou), y ddwy ‘pixie’ sef Trixie a Dixie (Kylie a Brittany Patel) a‘r boi ‘ma â chyrn ar ei ben a phelen goch am ei drwyn – own i’n cymryd taw Rudolf oedd e ond wedws e mo’r un gair. Doedd e ddim yn moyn smoco chwaith; yr unig beth a wnaeth e a gwed y gwir oedd torri gwynt a chwistrellu’r ‘pot pourri air freshener’ dros y lle i gyd er mwyn cael gwared o’r mŵg a’r gwynt – yn anffodus, dwyt ti ddim yn cael smoco yn y canolfannau siopa erbyn hyn ‘twel, ac mae’n siwr bod ‘rei’ reit mas o’r cwestiwn.

Roedd ‘na drydydd ‘pixie’ ond mae hi wedi cael ei gwahardd o’r ganolfan tan 2110 am dwgyd ‘Kinder Surprise’ o Woolworths. Druan ohoni ond ei bai hi yw e. Dyw hi ddim yn beth neis i dwgyd o’r siopau ond mae twgyd ‘Kinder Surprise yn eitha trist – mae’r tegan rwyt ti’n ei gael y tu fewn iddo yn eitha ‘shit’ a does fawr o siocled yndo. Bysa dyn yn gallu cydymdeimlo’n well ‘tasa hi wedi twgyd tun o ‘Cadbury’s Heroes’; o leiaf bysa hi’n gallu rhannu’r rhain â’i ffrindiau.

Rown i’n ‘hedfan' pan etho i nôl ar y stondin ac roedd fy llygaid fel soseri. Wn i’m pam ond dechreuais i sylwi ar Seisyllt am y tro cyntaf – esgyrnog, croen eitha gwael, penddüynnod ar ei drwyn a ‘craters’ biti seis y ‘Grand Canyon’ ar ei wyneb. Efallai taw effaith y ganja oedd hi ond rown i’n dechrau dychmygu Neil Armstrong yn glanio Apollo 11 ar bwys ei drwyn.

Bydd rhaid ifi gadw bant o’r stwff ‘na; mae’n rhy gryf. Mae Winston wedi arfer ond dwi ddim yn smoco ‘rei’ fel arfer. Bai Seisyllt yw e; os bydd rhaid ifi weithio gyda fe lot yn rhagor, bydda i ar LSD cyn y Nadolig – mae un droed ar y llwybr llithrig yn barod.

No hay comentarios: