lunes, 19 de noviembre de 2007

Gweithio bant - gwely a brecwast



Mae’r cymylau duon wedi dechrau cronni; byddwn ni’n cael ein towlu mas o’r gwely a brecwast gerfydd ein ceilliau ddydd Mercher. Gwae ni, ond bydda i’n falch o symud a gwed y gwir; mae’r lle’n oerach nag aros mewn ffycin iglw.

Buon ni’n cael problemau gyda’r fenyw sy biau’r lle. Wampen o fenyw od ar y naw yw hi; fe ddaeth hi i lan aton ni ddoe yn gweid na alliff hi gysgu’n sownd yn ei gwely ar ôl dod o hyd i farciau llosgi sigaret ar y ‘duvet’ a sylwi bod y meicrodon wedi chwythu ei blwc. Mae hi’n poeni y byddwn ni’n llosgi’r tŷ i’r llawr. Wn i’m beth sy’n bod arni – fe fysa un rhech mas o’i thin mawr tew yn ddigon i ddiffodd unrhyw dân.

Y bore ‘ma dyma hi’n gweid bod y ‘room deodorizer’ wedi diflannu hefyd a bod ‘skid marks’ ar ochr pan y toiled bob bore. Efallai ei bod hi’n meddwl bod y ddou beth yn gysylltiedig.

Own inna wedi sylwi ar y ‘skid marks’ yn y tŷ bach a bai Seisyllt yw e; mae’n bwrw ochr y pan bob tro mae’n cael cachiad – mae’n rhaid bod twll ei din e yn y lle anghywir. Fe wedas i wrtho fe i iwso’r brwsh i glau’r ffycin peth ar ei ôl e ond wnaiff e ddim gryndo ar ddim byd weda i.

Fi dorrws y meicrodon ond damwain oedd hi; rown i’n siwr ‘bo fi wedi tynnu’r clawr off y ‘treacle pudding’ cyn ei roi e i mewn. Ffrwydrodd yr effin peth hanner ffordd trwy ‘I’m a Celebrity – Get Me Out Of Here’. Bu bron imi gael harten a dyna pam bod ‘na dwll sigaret yn y ‘duvet’ – fe neidiodd y ffag mas o’m llaw ac own i’n ffilu ffindo fe wedyn. Fe alla i weld ei phwynt hi biti’r meicrodon ond mae’r twll yn y ‘duvet yn weddol o fach; dyw e ddim fel ag yr own i’n smoco sigar yn y gwely.

Fi gas wared o’r ‘Ambi Pur’ neu’r ‘room deodorizer’ hefyd. Teclyn oedd hwn a fu’n gollwng gwynt cas i’r awyr pob hanner awr. Mae’n swnio fel ci yn rhechain ac wedyn mae’r gwynt ‘ma sy’n drewi’n waeth na phwrs hwren yn llanw’r ystafell i gyd. Own i’n meddwl taw bai Seisyllt oedd e ar y dechrau ond protestiodd e’n ffyrnig taw nace fe oedd e. Yn y diwedd fe ddethon ni o hyd iddo fe, wedi’i gwato ynghanol pot o flodau plastig ar dop rhyw silff – syth i’r bin tu fas aeth e.

Sim ots ‘da fi ‘bod hi’n mynd i’n towlu ni mas; mae hi’n oer a sdim ‘remote control’ ar gyfer y teledu. Mae hi mor oer fel ‘bo fi’n gorffod cwtsho lan yn y gwely gynted ag ifi’n cyrraedd nôl bob nos. Yr unig broblem wedyn yw bod rhaid imi watsho ITV trwy’r nos am bod Seisyllt yn rhy bwdwr i gwnnu lan i newid y ffycin sianel.
.
Gobeithio y cewn ni rywle twymach – sai’n lico’r oerfel o gwbwl. Mae ‘na air yn Sbaeneg ‘friolero’ sy’n disgrifio rhywun sy’n teimlo’r oerfel ac rwyf inna’n un o’r rhain – i aralleirio un o ganeuon Cerys Mathews o Catatonia - ‘Every day when I wake up, I thank the Lord I’m not a fucking Eskimo’

No hay comentarios: