jueves, 18 de octubre de 2007

Y dyn a aned ar ddiwrnod glas


Wi wrthi’n darllen llyfr am ddyn o’r enw Daniel Tammet. Savant awtistig yw Daniel ac enw ei lyfr yw ‘Born on a Blue Day’. Pan oedd e’n dair mlwydd oed , fe gas e epelepsi neu ffit y clefyd cwympo ac odd’ ar ‘ny, bu ganddo obsesiwn â rhifau a geiriau. Erbyn hyn fe’i gwelir fel athrylith mathemategol ac un a chanddo ddawn naturiol i ddysgu ieithoedd.

Credir taw dim ond rhyw 50 o ‘savants’ sydd i gael yn y byd ac yn wahanol i ‘savants’ eraill, mae Daniel yn gallu esbonio sut mae ei ben e yn prosesu gwybodaeth. Nid da yw popeth yn ei fywyd ac mae pris ei sgiliau arbennig yn golygu na all ddeall emosiynau pobl yn rhwydd.

Mae arbenigwyr gwyddonol led-led y byd yn ei astudio fe er mwyn cael gwell ddealltwriaeth o alluoedd yr ymennydd. Mae fe’n gweld rhifau a geiriau mewn lliwiau a chanddynt wead arbennig. Mae rhifau yn bert ne’n ddiolwg iddo fe ac mae gan ieithoedd a geiriau gwahanol ryw rinwedd a swyn arbennig iddyn nhw yn ei ben.

Gwnaethpwyd rhaglen amdano a gellir gweld hyn ar ‘You Tube’ mewn pum rhan os gwnei di chwilio o dan ei enw – Daniel Tammet. Enw’r rhaglen yw ‘The Boy With The Incredible Brain’. Yn y rhaglen hon, fe osodon nhw sawl prawf iddo fe, ac un yn arbennig fu iddo ddysgu Islandeg o fewn wythnos ac fe gei di ei weld e’n siarad yr iaith honno yn ddigon ddi-ffwdan wrth iddo gael ei gwestiynnu wedyn ar raglen arbennig o Wlad yr Ia.

Naw o ieithoedd mae Daniel yn siarad erbyn hyn ac o ddiddordeb arbennig inni’r Cymry, mae Cymraeg yn un o’r ieithoedd hynny

Er bywoliaeth, mae fe’n cynnal cyrsiau ar y we er mwyn dysgu ieithoedd ac fel ag yr wyf yn ei deall hi – mae cysylltu geiriau yn rhan bwysig o’r cwrs – er enghraifft, mae gen ti’r gair ‘pen’ neu ‘llaw’ yn y Gymraeg ac oddi wrth y rhain, gellir dysgu geiriau eraill ar yr un pryd – penboeth (pen + poeth), penderfynu (pen + terfynu); llaw – llawfeddyg , llawfer, llawlif; yn y Sbaeneg mano (llaw), manuscrito (llawysgrif) a llwythi o eiriau eraill ac mae hyn yn gwitho y tu fewn i bron pob iaith am a’r wn i. Gweld patrymau y tu fewn i ieithoedd mae Daniel a ninna’n methu eu gweld nhw mor rhwydd.

Mae gan Daniel wefan lle gellid di ddysgu mwy amdano a chyfrannu sylwadau at ei flog www.optimnem.co.uk

4 comentarios:

Linda dijo...

Diddorol iawn a diolch i ti am y linc i'w safle we. 'Roedd diddordeb gennyf mewn dysgu Sbaeneg ar un adeg.Caf weld...

Rhys Wynne dijo...

Diolch am y dolen. dwi'n meddwl i mi ddarllen amdano (ar flog mae'n siwr) o'r blaen. Mae'r syniad o ddysgu geiriau gyda'r dull yna'n ddiddordol,a dwi'n meddwl ei fod yn fwy addas i ddysgu Cymraeg na fyddai i ddysgu Saesneg yn fy marn i.

Elis Llwyd Dafydd dijo...

Difyr iawn. Dw inna'n meddwl mod i di darllan amdano fo o'r blaen - o'dd 'na erthygl amdano fo'n golwg rywbryd?

Cer i Grafu dijo...

Ie, ti'n iawn Elis. Edrychais i yn archif Golwg ar y we ac fe geson nhw gyfweliad ag ef (cyfrol 19, rhifyn 6 - 12. 10. 2006)

Dim ond 7 o ieithoedd roedd e'n gallu siarad bryd hynny, ond mae'n son yn yr erthygl am ddysgu'r Gymraeg sy'n reit difyr.