Bues i’n watsho pennod o’r gyfres ‘Nightmares & Dreamscapes’ ar y we bore ‘ma. Casgliad o straeon Stephen King yw’r gyfres a rhyw hanner awr yw hyd pob un raglen. Fersiwn arall o ‘Tales from the Unexpected’ yw hi ac yr un mor ‘shit’ er bod hon yn ddigon gwael i fod yn ddifyr.
Roedd y bennod a welais i yn ymwneud â’r dyn ‘ma sy’n cael ei frathu gan neidr wrth wara golff. Yn anffodus, mae fe’n mynd i fewn i ryw fath o ‘coma’ a phawb yn meddwl ei fod e wedi marw. Rŷn ni’r gwylwyr yn gallu ei glywed e yn meddwl wrtho ei hunan a fynta’n cachu bricsen tra bo’r meddygon neu’r patholegwyr yn paratoi ar gyfer gwneud awtopsi arno.
Maen nhw’n edrych dros ei gorff i ddechrau ond yn ffilu gweld y ddou dwll a wnaeth y neidr ar waelod ei goes a’r unig beth maen nhw’n sylwi arno yw bod ei geilliau wedi chwyddo fel peli pêl-droed – wir yr!! Maen nhw’n sôn am hyn; dŷn ni ddim yn eu gweld nhw, diolch byth, am fod cefn y nyrs yn eu cwato nhw rhagddon ni.
Dyw’r awtopsi byth yn cael ei draed o dani wrth gwrs; mae’r gyllell ar fin torri’r corff sawl tro ond mae rhywbeth bach yn digwydd er mwyn dala’r syspens. Diwedd y stori yw iddo fe ddihuno lan, gwaetha’r modd, ac mae pob un dim yn iawn.
Roedd Edgar Allan Poe yn ysgrifennu straeon tebyg ond o leiaf roedd y bobl yn cael eu claddu’n fyw yn ei straeon e – dim o’r 'crap' ‘ma bod y bobl yn cael eu hachub ar y funud olaf.
Sôn am weld y rhaglen hon ydw i am taw’r dyn a gas ei frathu gan y neidr oedd neb llai na’r John–Boy Walton ‘na off y gyfres ofnadw ‘The Waltons’ - ac mor grac ydw i na chymerson nhw mo’r cyfle a geson nhw idd’ i ladd e yn y fan a’r lle.
Wn i’m os wyt ti’n gyfarwydd â’r gyfres honno neu beidio - ond un o’r teip ‘na o raglenni gelsat ti ar brynhawn dydd Sul yw hi; honno a rhyw gyfres o’r enw ‘Little House on the Prairie’. Teuluoedd neis neis ac hapus braf yn rhoi rhyw foeswers inni pob Sul. Maen nhw’n dal yn boblogaidd yn Sbaen ac os ei di i wylio’r llu o sianeli Sbaeneg sydd ar y we, rwyt ti’n bown o ddod o hyd iddyn nhw, un ar ôl y llall fel arfer - ac ar ddydd Sul yn arbennig fel mae’n digwydd.
Bu i George Bush weid un tro mewn araith y dylai teuluoedd America fod yn debycach i’r Waltons na’r Simpsons. Mae’n well gen i’r Simpsons bob cyfle a thwll dy din di George Bush - ac er dy gwiddil di Stephen King am beidio a lladd John- Boy Walton pan gesot ti’r cyfle
2 comentarios:
Dwi'n cofio gwylio un o'r Tales of the Unexpected lle ddaru carcharor ddingyd o garchar ddim ond i ddiweddu i fyny'n cael ei gladdu'n fyw efo'r undertaker oedd i fod i'w helpu.
Ych a fi ...digon i godi hunllef ar unrhywun !
Dyna be'sy eise arnon ni Linda - bach o arswyd, braw ac hunllef.
Os nag yw rhywun yn cal ei ladd yn y modd mwya echrydus a brawychus, man a man inni watsho'r 'King and I' :-)
Publicar un comentario