viernes, 19 de octubre de 2007

Llofrudd yn y cartref


Ddydd Sadwrn diwetha fe ddath Pablo gytra ‘ta’r byjerigar ‘ma. Gweithio gyda’r boi o’r enw Axier mae Pablo ac ryn ni'n edrych ar ôl Peti ei fyji tra bo fe ar ei wyliau am bythewnos; ond rŷn ni wedi ffwco lan go-iawn - its a dead parrot, chwedl Monty Python.

Does wbod shwt nath Julietta y gath agor y caetsh, ond mae’n gallu agor y ffrij ac ma’ hwnna’n reit anodd, ac felly mae’n siwr nad oedd y caetsh yn fawr o drafferth iddi.

Does yr un ohonon ni yn gwpod be’ i neud nawr - mae’n deip o beth rwyt ti’n ei weld mewn comedi lle bo pobl yn rhoi aderyn arall yn y caetsh yn ei le fe a’r un o’enyn nhw yn cofio pwy liw oedd y ffycin byji i ddechra.

Petirrojo oedd ei enw fe (er taw Peti oedd pawb yn ei alw fe) ac ystyr hwnnw yn y Gymraeg yw robin goch ond gwi ddim yn cofio gweld lliw coch arno fe – roedd ‘na ddigon o liw coch arno fe ar ôl i’r gath gael gafael yndo, sai’n gweid llai, ond fe shoton ni’r hyn oedd ar ôl o’ano fe i lawr y shwt sbwriel yn ddigon cloi.

Dylsen ni fod wedi edrych ar ba liw oedd ei blu ond wi’m yn credu y bysa prynu byji newydd o’r un lliw yn twyllo neb.

Mae Xosé a finna’n gallu gweld yr ochr ddoniol i’r peth ond mae’n rhy fuan i Pablo eto – fe wedi’r cwbl sy’n gorffod egluro’r peth i Axier.

Dyna fu ei diwedd hi, buo rhaid inni gael gwared o’r gath wedyn – ‘sneb isha llofrudd yn y ty oes e. Mae pysgodyn aur gyda ni ers chwe mis a chas hi erioed afael yndo fe ond mater o amser yw hwnna, ac fel arfer mae’r tri ohonon ni bant drost y Nadolig ac Axier sy’n gofalu am y gath ond fydd e ddim yn fodlon gwneud hynny nawr - siwr Dduw iti.

Fe ethon ni lan gyda hi yn ei chawell i ‘Battersea Dogs Home’ neu Battersea Dogs and Cats Home fel mae’n cael ei alw erbyn hyn, ond dôn nhw ddim yn fodlon ei chymeryd hi i mewn am ryw reswm. Cyfyng gyngor go-iawn inni wedyn ond penderfynson ni ei gadael hi y tu fas i'r drws a rhedeg nerth ein traed groes yr hewl i’r ‘Duck and Swan’.

Oddi fanna roen ni’n gallu cael peint a gweld be’ ddigwyddai - a diolch i Dduw fe gas hi ei chymeryd i mewn yn y diwedd. O leiaf rŷn ni’n gwpod ei bod hi’n saff nawr, ac efallai y gwnaiff Elton John neu George Michael deimlo tosturi drosti.

Mae'n hysbys i bawb ‘ffor hyn eu bod nhw’n ymweld â’r lle yn reit amal a ‘sdim byd sy’n apelio’n fwy at bobl hoyw na helpu pobl eraill sydd ar y tu fas, oes e – a be’ gwell na chath ar y tu fas. Gobeithio yr aiff hi gyda George neu Elton a chael bywyd i’r brenin, a digon o adar i ladd yn eu gerddi nhw.

Hynny sy’n mynd i ddigwydd, siwr o fod, ac wrth edrych arni ddi fel ‘na, simo ni’n teimlo mor wael biti’r peth – daw haul ar fryn i Julietta heb os nac onibai – mwy o haul, llygod ac adar na chelai hi byth yn byw ar y chweched llawr mewn bloc tai cyngor.

No hay comentarios: