Dyma gerdd rwy’n eitha hoff ohoni. Rwyf wedi rhoi cynnig ar ei chyfeithu o’r Sbaeneg gwreiddiol ond dwi fawr o gyfieithydd ac yn llai byth o fardd ond fe gei di’r syniad y tu ôl iddi.
Mae hon yn un un o’r ychydig gerddi wi’n gallu deall a gwed y gwir – rwy’n ffilu gwneud na phen na chwt o gerddi fel arfer, yn enwedig rhai’r Gymraeg.
Enw’r gerdd yw ‘Instantes’ ac arferid credu taw’r bardd Jorge Luis Borges o’r Ariannin oedd yr awdur ond mae’n debyg nad yw hyn yn wir. Nid oes neb yn gwybod i sicrwydd pwy yw’r awdur, ac felly does dim rhaid ifi boeni am yr hawlfraint – er na fysa hynny yn becso rhyw lawer arno i.
Adlewyrchiad ar fywyd gan ddyn 85 oed yw’r gerdd ac ynta’n sôn am y pethau yr hoffai newid yn ei fywyd pe câi ail-gyfle.
.
Yn bersonol, wi ddim yn deall y bobl ‘na sy’n gweid na 'nelan nhw newid dim byd; byswn inna’n newid llwyth o bethau yn fy mywyd. Fyswn i ddim wedi mynd ar y trip ysgol ‘na i weld y ddrama ddirdynnol o sych ‘Dr Faustus’ am un peth – ‘swn i’n cael diwrnod off yn esgus bod yn dost wir Dduw iti. Fyswn i ddim yn cyfaddef wrth mam taw fi dorrodd y peiriant golchi chwaith –roedd hwnna’n ddrama yndo 'i hun. Wrth ail-fyw’r peth fe fyswn i’n rhoi’r bai ar fy chwaer. Fe allwn i fynd mlan a mlan ond dyma’r gerdd:
Si pudiera vivir nuevamente mi vida.
En la próxima trataría de cometer más errores.
No intentaría ser tan perfecto, me relajaría más.
Sería más tonto de lo que he sido,
de hecho tomaría muy pocas cosas con seriedad.
Sería menos higiénico.
Correría más riesgos,
haría más viajes,
contemplaría más atardeceres,
subiría más montañas,
nadaría más ríos.
Iría a más lugares adonde nunca he ido,
comería más helados y menos habas,
tendría más problemas reales
y menos imaginarios.
Yo fui una de esas personas que vivió sensata
y prolíficamente cada minuto de su vida;
claro que tuve momentos de alegría.
Pero si pudiera volver atrás trataría
de tener solamente buenos momentos.
Por si no lo saben, de eso está hecha la vida,
sólo de momentos; no te pierdas el ahora.
Yo era uno de esos que nunca
iba a ninguna parte sin un termómetro,
una bolsa de agua caliente,
un paraguas y un paracaídas;
si pudiera volver a vivir, viajaría más liviano.
Si pudiera vivir nuevamente
comenzaría a andar descalzo a principios
de la primavera
y seguiría descalzo hasta concluir el otoño.
Daría más vueltas en calesita,
contemplaría más amaneceres,
y jugaría con más niños,
si tuviera otra vez vida por delante.
Pero ya ven, tengo 85 años y sé
que me estoy muriendo.
Pe cawn fyw fy mywyd eto,
y tro nesaf ceisiwn wneud mwy o gamgymeriadau.
Ni cheisiwn fod mor berffaith, gorffwyswn yn fwy.
Byddwn yn fwy gwirion na’r hyn ‘rwyf wedi bod,
mewn gwirionedd cymerwn lai o bethau o ddifrif.
Byddwn yn llai cysetlyd.
Byddwn yn ei mentro hi’n fwy,
gwnawn fwy o deithiau,
syllwn ar y cyfnos yn fwy aml,
dringwn fwy o fynyddoedd,
nofiwn fwy o afonydd.
Awn i fwy o leoedd na fues i erioed,
bwytawn fwy o hufen iâ a llai o ffa,
cawn fwy o broblemau go iawn,
a llai o rai dychmygol.
Bûm yn un o’r bobl a fu fyw yn synhwyrus
a chynhyrchiol bob munud o’i fywyd;
wrth gwrs cefais adegau o lawenydd;
ond pe gallwn droi’r cloc yn ôl, ceisiwn
fyw’r adegau gorau yn unig.
Oherwydd onis gwyddoch yn barod, dyna yw bywyd,
dim ond adegau; paid â cholli’r awr hon.
Roeddwn yn un o’r rhain nad âi byth
i unman heb thermomedr,
potel dŵr poeth,
ymbarél a pharasiwt;
pe cawn fyw eto, teithiwn yn fwy ysgafn.
Pe cawn fyw fy mywyd eto
dechreuwn gerdded yn droednoeth
ar ddechrau’r gwanwyn
a pharhawn felly hyd ddiwedd yr hydref.
Awn rownd a rownd ar y ceffylau bach,
syllwn ar doriad y dydd yn fwy aml,
a chwaraewn gyda mwy o blant,
pe cawn fywyd arall o’m blaen.
Ond ‘rwyf yn 85 oed, gwelwch chi, a gwn
fy mod yn marw.
2 comentarios:
Diolch am hwnna. Joio.
Fedra i'm siarad Sbaeneg mwyach, ond dwi'n medru ei ddallt yn ddigon(wel, ag eithrio Puerto Rican) - licias i hwn. Mi liciwn i newid hanner fy mywyd, ond y peth amdani ydy y basai rhaid i mi fod yn berson hollol wahanol, a fedra i'm dychymgu pwy fasai honna'n bod.
Publicar un comentario